Skip to main content

Interniaethau ar y Campws

Dathlu’r cynllun Interniaethau ar y Campws

27 Tachwedd 2024

Elgan Hughes, Rheolwr Ymgysylltu Myfyrwyr yr Academi Dysgu ac Addysgu sydd yn adlewyrchu ar ei brofiad o fynychu Arddangosfa Posteri’r cynllun Interniaethau ar y Campws.

Yn yr Academi Dysgu ac Addysgu, rydyn ni’n ymrwymo i feithrin partneriaethau gyda’r myfyrwyr, gan eu grymuso i gyfrannu at ein hymchwil o safon a gofalu bod llais y myfyrwyr yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar ein harferion dysgu ac addysgu.

Ar 13 Tachwedd, roedd mwy na 100 o bosteri ymchwil, a gafodd eu llunio gan y myfyrwyr talentog eleni sydd wedi dilyn cynllun Interniaethau ar y Campws 2024, yn addurno Canolfan Bywyd y Myfyrwyr. Yno hefyd roedd eu goruchwylwyr, yn ogystal â myfyrwyr ac aelodau eraill o staff, pan aethon nhw ati i gyflwyno eu hymchwil, myfyrio ar yr hyn roedden nhw wedi’i gyflawni a dathlu eu llwyddiannau yn ystod haf 2024. Cyfle oedd y digwyddiad dathlu i staff a myfyrwyr fyfyrio ychydig yn fwy am brofiadau ei gilydd a chael gwybod am y gwahanol brosiectau.

Yn yr arddangosfa eleni ro’n i’n falch iawn o gael cyflwyno’r sgyrsiau sionc yn y digwyddiad dathlu interniaethau ar y campws. Yn y digwyddiad, cawson ni wybod am y pethau gwych y gellir eu cyflawni os bydd staff a myfyrwyr yn cydweithio â’i gilydd a thrwy bartneriaethau rhwng prifysgolion a busnesau. Agorodd y sgyrsiau sionc ddeialog â’r myfyrwyr, ac mae’r rhain wedi dangos sut y gall yr interniaethau gefnogi myfyrwyr i bontio i fyd addysg uwch, meithrin perthynas dda rhwng staff a myfyrwyr, rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar astudiaethau ôl-raddedig a dylanwadu ar eu dyheadau gyrfaol yn y dyfodol.

Clywais i am sut mae’r prosiectau yn grymuso eu hastudiaethau, yn ysgogi trafodaethau ar draws disgyblaethau ac yn rhoi sgiliau newydd i fyfyrwyr, gan eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol yn eu hastudiaethau. Bydd hyn ond cryfhau eu profiad wrth chwilio am gyfleoedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau gyda ni.

Adborth

Roedd yn braf clywed staff a myfyrwyr yn rhannu adborth gadarnhaol am y cynllun.

Dyweddodd myfyrwyr:

“Mae cael y cyfle hwn i ennill profiad anhygoel yn y byd go iawn wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar fy hyder.”

“Rwy’n credu ei bod yn ddiddorol iawn gweld sut gall y dau dîm gwahanol, ysgolion gwahanol, a meysydd gwahanol ddod at ei gilydd i weithio ar un darn unigol o ymchwil a all helpu i lywio newid i bawb.

Ac yn ôl aelodau staff:

‘Mae’r Interniaethau ar y campws yn hynod bwysig i ymchwil. Fel Ymchwilydd Gyrfa Gynnar sy’n sefydlu agenda a phroffil ymchwil, mae’r gwaith y mae myfyrwyr yn ei wneud yn helpu i gefnogi arloesedd mewn ymchwil a fyddai’n anoddach i ddigwydd fel arall.’

‘Cynllun ardderchog, sy’n destun cenfigen cyfoedion mewn prifysgolion eraill.’

Diolch yn fawr

Rwy eisiau achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl oruchwylwyr a’r ysgolion am yr amser y maen nhw’n ei roi i gynnal lleoliad dros yr haf. Mae’n wirioneddol wych bod ein staff yn angerddol am brofiad myfyrwyr ac yn ceisio cyfleoedd i gynnal lleoliadau.

Rwy hefyd eisiau diolch i’n myfyrwyr am fanteisio ar y cyfleoedd hyn ac am ymdrechu cymaint i sicrhau bod y prosiectau yn llwyddiant – roedd y digwyddiad dathlu yn gyfle i ddathlu’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni. Rwy’n dymuno pob lwc ichi eleni ac yn gobeithio y bydd eich profiadau yr haf hwn o gymorth ichi yn eich astudiaethau a thu hwnt.

Os nad oeddech chi’n gallu dod i’r digwyddiad, caiff staff a myfyrwyr weld rhai o’r posteri a’r sgyrsiau sionc yn fan hyn. I gael gwybod rhagor am y cynllun, mynnwch gip ar ein blogiau a’n tudalennau ar y fewnrwyd.

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi hefyd fod y cynllun ar gyfer 2025 nawr ar agor i staff wneud cais i gyd-weithio â myfyrwyr.

Diolch yn fawr.