Cynaliadwyedd ar waith: Yr Academi Dysgu ac Addysgu yn cael Effaith (Werdd) ym Mhrifysgol Caerdydd
9 Mawrth 2026
Rhaglen dysgu ac achredu cynaliadwyedd ar gyfer Ysgolion, adrannau a thimau ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r Effaith Werdd. Mae cyfranogwyr yn defnyddio pecyn cymorth ar-lein, a gynlluniwyd gan dîm cynaliadwyedd y Brifysgol, i gwblhau gweithgareddau a sbarduno newid cynaliadwy cadarnhaol mewn ystod o feysydd megis gwastraff ac ailgylchu a bioamrywiaeth.
Yn 2025, ffurfiodd staff yr Academi Dysgu ac Addysgu dîm Effaith Werdd a chawsant eu cefnogi yn eu hymdrechion gan Gynorthwyydd Prosiect Effaith Werdd sy’n fyfyriwr.
Llwyddodd y tîm i ennill gwobr efydd a dyfarnwyd y Wobr Arbennig am Arloesi ar gyfer Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd iddynt.
Yn ogystal â hyn, dywedwyd wrth y tîm yn ddiweddar eu bod wedi ennill y Wobr Effaith Werdd Genedlaethol am Arloesi ar gyfer Ymgysylltu!
Isod, mae rhai o aelodau’r tîm yn myfyrio ar eu profiadau o gymryd rhan yn yr Effaith Werdd:
Myfyrdod Bethan (Cynorthwyydd Technoleg Dysgu):
Pan ail-lansiwyd yr Effaith Werdd ym Mhrifysgol Caerdydd y llynedd, roeddwn yn awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen am y tro cyntaf. Fel rhywun sydd â diddordeb mawr yn yr amgylchedd a chynaliadwyedd, roedd yn gyfle gwych i weithio gyda thîm o’r un anian, yn staff a myfyrwyr, a chymryd camau i helpu i wella cynaliadwyedd y Brifysgol drwy gwblhau amrywiaeth o weithgareddau. Roedd y gweithgareddau hyn yn aml yn cynnwys cydweithio â chydweithwyr yn fy adran ac ar draws y Brifysgol ehangach, nad wyf efallai yn cael cyfle i weithio gyda nhw fel arfer. Fe wnaeth Gweithgor Lles yr Academi Dysgu ac Addysgu, er enghraifft, helpu i hyrwyddo gweithgareddau, y gallai holl aelodau staff yr adran gymryd rhan ynddynt, ac fe wnaethon ni drefnu a chynnal sesiynau codi sbwriel gyda’n gilydd, a brofodd i fod yn boblogaidd iawn!
Un o’r cyflawniadau rwyf fwyaf balch ohono gyda’r Effaith Werdd yw ystafell ddianc ar-lein i staff, y’i dyluniwyd, datblygwyd a’i crëwyd gan aelodau fy nhîm a minnau. Mae’r ystafell ddianc wedi’i seilio ar Brifysgol Caerdydd ac yn canolbwyntio ar bedair thema:
- Ailgylchu yn y Brifysgol – pa eitem sy’n perthyn ym mha fin?
- Gwastraff ac ailgylchu yn y Brifysgol
- Offer TG ac arferion digidol
- Defnyddio/gwastraffu ynni ac arbed ynni yn y gweithle
Mae’n enghraifft wych o sut y gellir darparu dysgu mewn ffordd ddeniadol, rhyngweithiol ac arloesol ac mae wedi cael derbyniad da gan y rhai sydd wedi ei gwblhau hyd yn hyn.
Byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan gyda’r Effaith Werdd. Gallwch chwarae rhan weithredol wrth ymgorffori ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd yn y Brifysgol, a chael hwyl a bod yn greadigol wrth wneud hynny!
Myfyrdod Marianna (Arbenigwr Addysg Ddigidol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu)
Cyn cymryd rhan yn yr Effaith Werdd, roeddwn i’n aml yn meddwl am gynaliadwyedd fel rhywbeth oedd yn gofyn am newidiadau mawr. Fodd bynnag, dysgodd y profiad hwn i mi fod gweithredoedd bach, bob dydd yr un mor bwysig ac y gallant wneud gwahaniaeth mawr mewn cyfnod hirdymor. Aeth y profiad y tu hwnt i gwblhau tasgau a thicio blychau. Cymerais berchnogaeth ar lond llaw o weithgareddau, megis ymgorffori cynaliadwyedd ym mhecyn ymsefydlu ein dechreuwyr newydd, fel bod ymwybyddiaeth yn dechrau o’r diwrnod cyntaf.
Newidiodd y fenter fy marn ar waith digidol. Rydym yn tueddu i feddwl bod gweithgaredd ar-lein yn ‘lân’, ond mae ganddo ôl troed amgylcheddol go iawn. Anogais gydweithwyr i geisio lleihau eu holion traed digidol oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn aml yn ei anwybyddu mewn sgyrsiau am gynaliadwyedd. Gall camau gweithredu syml fel rheoli negeseuon e-bost a storfeydd cwmwl wneud gwahaniaeth mawr. Boed yn ddileu ffeiliau diangen, dad-danysgrifio o gylchlythyrau e-bost diangen, neu ddiffodd offer, canolbwyntiais ar yr hyn sy’n berthnasol ac yn bwysig i’r tîm a fi yn bersonol. Bydd ailadrodd y rhain yn creu arferion newydd ac yn creu diwylliant o gyfrifoldeb dros ein hamgylcheddau ein hunain.
Wrth edrych yn ôl, yr hyn sy’n sefyll allan fwyaf yw sut mae newidiadau bach yn gallu pentyrru a chael cryn effaith. Gall cynaliadwyedd deimlo’n llethol, ond mae mentrau fel yr Effaith Werdd yn dangos bod pob gweithred yn bwysig. Rwy’n falch o’r hyn y gwnaethom ei gyflawni fel tîm, ac yn bersonol, mae wedi gwneud i mi fod yn fwy ymwybodol o sut mae fy newisiadau dyddiol, yn ddigidol a chorfforol, yn effeithio ar y byd o’m cwmpas.
Myfyrdod Eleanor:
Cofrestrais i fod yn Gynorthwyydd Prosiect Effaith Werdd oherwydd roedd gen i ddiddordeb mawr i weld beth ellid ei wneud i wneud ein Prifysgol yn fwy cynaliadwy, ac i gydweithio gyda thîm yn y Brifysgol! Nid oedd angen anogaeth ar y tîm Dysgu ac Addysgu, ac felly fe wnes i gynorthwyo wrth iddynt ddefnyddio eu mentergarwch eu hunain i gwblhau camau pecyn cymorth i wneud newidiadau bach, cadarnhaol i’w gweithle a thu hwnt o ran cynaliadwyedd. Yn y swyddfa, fe wnes i helpu i adnabod arwyddion a oedd yn tynnu sylw at arbed ynni, a dyna pryd wnaethon ni sylwi ar fwlch gwybodaeth yn y ddealltwriaeth o ailgylchu bob dydd – beth sy’n gallu ac sydd ddim yn gallu mynd ym mhob bin. Felly datblygodd y tîm ystafell ddianc wych a brofais; roedd yn rhyngweithiol ac yn addysgiadol a dysgais lawer am gynaliadwyedd ar y campws.
Fel myfyriwr EARTH, mae cynaliadwyedd ar flaen fy meddwl yn naturiol, ond roedd y prosiect hwn yn wych o ran ei fod yn rhoi tasgau ymarferol, dichonadwy a all gyd-fynd â bywydau bob dydd, megis dileu negeseuon e-bost a lleihau’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial. Roedd y gystadleuaeth yn gymhelliant gwych i’r tîm, ond roedd hefyd yn llawer o hwyl ac rwy’n falch yr oeddwn yn gallu chwarae rhan fach!
Wedi’ch ysbrydoli i gymryd rhan?
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen Effaith Werdd a sut i gymryd rhan ynddi ar gael ar y fewnrwyd.