Cymorth Canllaw Gosod Modiwlau 2025 – ffordd haws o drefnu eich modiwl
15 Gorffennaf 2025
Paratowch ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn treulio llai o amser ar dasgau gweinyddol a mwy o amser yn addysgu.
Wrth i ni agosáu at drosglwyddo modiwlau ar Dysgu Canolog yn 2025, mae’n bleser gennym rannu’r Canllaw Gosod Modiwlau newydd, a grëwyd gan yr Academi Dysgu ac Addysgu. Rydym yn gwybod pa mor llafurus ac ailadroddus y mae’r broses osod yn gallu bod, yn enwedig os ydych chi’n rheoli nifer o fodiwlau. Mae’r adnodd hwn yn ganllaw ymarferol, cam wrth gam, i’ch helpu i baratoi eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn effeithlon ac yn hyderus.
P’un a ydych yn copïo cynnwys o’r flwyddyn flaenorol, neu’n creu o’r newydd, mae’r canllaw yma i’ch helpu i drefnu eich modiwlau mewn ffordd sy’n cynorthwyo addysg y myfyrwyr ac yn arbed amser i chi.
Beth yw’r Canllaw Gosod Modiwlau?
Mae’r Canllaw Gosod Modiwlau yn adnodd hwylus ar-lein a gynlluniwyd i helpu staff academaidd wrth iddyn nhw baratoi eu modiwlau ar Dysgu Canolog ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Mae’n ategu Canllaw Arferion Da Dysgu Canolog ac mae’n canolbwyntio ar feysydd allweddol sy’n gwella profiad y myfyrwyr, gan gynnwys:
- Strwythur a Threfniadaeth
- Deunyddiau Dysgu
- Asesiadau ac Adborth
- Cyfathrebu ynghylch y Modiwl
Mae pob adran yn cynnwys Tasgau Allweddol dewisol y gallwch weithio drwyddynt yn ôl eich pwysau eich hun, gan olygu bod y canllaw yn hyblyg, o gymorth a bod modd ei addasu i’ch arferion addysgu presennol.
P’un a ydych chi’n parhau â modiwl cyfarwydd neu’n cyflwyno dull newydd, mae’r canllaw yn rhoi fframwaith ar gyfer adeiladu modiwlau sydd wedi’u strwythuro yn dda, yn hawdd eu llywio, ac ar sail addysgol gadarn.
Pam Defnyddio’r Canllaw?
Mae’r Canllaw Gosod Modiwlau yn fwy na rhestr wirio yn unig. Mae’n seiliedig ar fodel gwella a grëwyd ar y cyd gan arbenigwyr dysgu digidol, staff academaidd a myfyrwyr.
Mae:
- Yn ymarferol ac mae modd ei addasu i’ch anghenion
- Wedi’i gynllunio i hyrwyddo cysondeb ac eglurder ar draws modiwlau
- Yn ffordd wych o fyfyrio ar eich arferion presennol a’u gwella
- Yn gefnogol yn hytrach na rhagnodol
Drwy ddefnyddio’r canllaw, nid ydych yn paratoi ar gyfer trosglwyddo modiwlau yn unig, rydych chi’n paratoi eich myfyrwyr, a chi eich hun, ar gyfer llwyddiant.
Gwyliwch ein fideo i glywed barn Agbo, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Meddygaeth.
Dyddiadau pwysig i’w nodi yn eich dyddiaduron
- 11 Gorffennaf: Dyddiad cau i ysgolion orffen trosglwyddo gwybodaeth a modiwlau
- 1 Awst: Mae modiwlau Dysgu Canolog 2025 ar gael i staff
Os ydych chi’n Weinyddwr Parth Blackboard (BDA) sy’n rheoli’r gwaith o drosglwyddo modiwlau eich ysgol, mae cymorth ar gael drwy ebostio LTAcademy@caerdydd.ac.uk. Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â BDA eich ysgol neu ebostio it-support@caerdydd.ac.uk.
Dechrau Arni
Darllenwch y Canllaw Gosod Modiwlau a dechrau paratoi eich modiwlau 2025 heddiw.
Dyma’r ffordd hawsaf o wneud yn siŵr bod eich modiwlau yn glir, yn gyson ac yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.