Skip to main content

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD)

Cyfres Seminarau Rhagoriaeth Addysgu – Rhagfyr 2024

6 Ionawr 2025

Ar 4 Rhagfyr 2024, roedden ni’n falch iawn o gynnal y seminar Rhagoriaeth Addysgu cyntaf ym mlwyddyn academaidd 24/25.

Mae’r gyfres hon yn gyfle i enwebeion ac enillwyr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr 2024 rannu enghreifftiau o’r arfer rhagorol a arweiniodd at eu henwebu, ac i’r gynulleidfa gael trafodaeth anffurfiol a hamddenol am y pynciau hyn.

Mae Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr yn cydnabod gwaith caled y staff a’r myfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol ym maes profiad myfyrwyr. Cynhelir y gwobrau ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr.

Yn ein seminar agoriadol, croesawyd Dr Thanasi Hassoulas o’r Ysgol Meddygaeth, a enwebwyd yn y categori ‘Defnydd mwyaf rhagorol o’r amgylchedd dysgu’, a Dr Ricky Hellyer o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, enillydd y categori ‘Profiad dysgu mwyaf rhagorol’, ac a gafodd ei enwebu hefyd yng nghategori ‘Cydweithrediad dysgu ac addysgu y flwyddyn’.

Gwnaeth Thanasi gyflwyniad am y gwaith y mae wedi’i wneud yn nhîm yr Amgylchedd Rhithwir Rhyngweithiol Hybrid (HIVE) yn yr Ysgol Meddygaeth, sy’n cynnwys dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg, realiti rhithwir ac ystafelloedd ymgolli at ddibenion dysgu, a deallusrwydd artiffisial. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiad dysgu eu myfyrwyr. Mae recordiad o’r sesiwn ar gael i’w wylio.

Ymunodd Samah Taylor, un o fyfyrwyr Ricky, ag ef i drafod y gwaith maen nhw wedi’i wneud i ddatblygu amgylcheddau empathig a chwricwla tosturiol. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno clybiau ysgrifennu i fyfyrwyr i’w cefnogi gyda’r asesiadau adolygu llenyddiaeth gofynnol, ond sydd weithiau’n peri trafferth i fyfyrwyr, a defnyddio myfyrdodau fideo yn lle myfyrdodau ysgrifenedig ar ddiwedd lleoliadau. Mae recordiad o’r sesiwn hon hefyd ar gael i’w wylio.

Elwodd y rhai a ddaeth i’r sesiwn a chafwyd cyfle i drafod y pynciau, yn ogystal â rhai o’r meysydd ymarfer y maen nhw’n gweithio ynddyn nhw i gael mewnbwn gan gydweithwyr.

Dyma beth o’r adborth y cafwyd gan ein cydweithwyr:

‘Mae wedi bod yn bleser llwyr cael bod yma. Mae angen cynnal gweithgareddau fel hyn, hyd yn oed ar lefel ysgol, i annog pobl i weithio mewn partneriaeth a chyfnewid / trafod syniadau.’

‘Mae’r seminarau hyn yn syniad gwych, ac fe wnes i elwa cymaint ohono.’

Cynhelir ein Seminar Rhagoriaeth Addysgu nesaf ar lein ar 19 Chwefror 2025 rhwng 12:30 a 14:00. Bydd yn cynnwys cyfraniadau gan Dr Katy Burgess o’r Ysgol Seicoleg, Hyrwyddwr Llais y Myfyrwyr a Phartneriaeth, a gan Dr Chris Heffer, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, enillydd y categori ‘Defnydd Mwyaf Effeithiol a Rhagorol o Asesu’ ac enwebai am wobr Tiwtor Personol y Flwyddyn. I gadw lle yn y sesiwn hon, cofrestrwch ar Microsoft Forms, gan ddewis y thema ‘Rhagoriaeth wrth Addysgu’. Mae’r gyfres hon yn rhan o raglen DPP ehangach yr Academi Dysgu ac Addysgu ym maes Dysgu ac Addysgu.