Cyfarfod y tîm – Elliw Iwan
25 Tachwedd 2021Beth mae eich rôl gyda’r Academi DA yn ei olygu?
Fi yw Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma yn y Brifysgol. Pwynt cyswllt ydw i rhwng y brifysgol a’r Coleg Cymraeg. Dwi’n gweithio gyda’r Academi Gymraeg o fewn Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd, yn cefnogi datblygiad darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n swydd amrywiol iawn, a dwi’n lwcus yn cael gweithio gyda Myfyrwyr, Ymchwilwyr, Staff ac Academyddion egnïol a brwdfrydig dros yr iaith.
Beth wnaethoch chi cyn gweithio i’r Academi DA?
Cyn dod i weithio i’r brifysgol, roeddwn yn datblygu strategaeth iaith Canolfan Mileniwm Cymru.
Disgrifiwch brosiect rydych chi wedi mwynhau gweithio arno gyda’r Academi DA
Ddeufis fewn i’r Clo mawr, cefais fod yn rhan o’r Grŵp addysg ddigidol gyda’r Academi DA a’r brifysgol yn ehangach. Roedd gweithio i derfynau amser tynnach na’r arfer, ar ddatblygiadau arloesol yn gyffrous iawn, ac yn enghraifft wych o dîm yn cydweithio’n effeithiol.
Beth ydych chi’n edrych ymlaen at weithio arno gyda’r Academi DA?
Eleni, mae’r Coleg a’r Gangen yn dathlu deng mlynedd, ac i ddathlu, mae cyfres o ddigwyddiadau ar y gweill. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Symposiwm Ymchwil dwi’n drefnu ar y cyd a changen Met Caerdydd a Changen De Cymru ar Fawrth 1af, a’r Digwyddiad ar Fawrth 15fed fydd yn dathlu deng mlynedd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y Brifysgol.
A allwch chi ddweud ffaith ddiddorol amdanoch chi’ch hun?
Pan yn athrawes yn Kecscemet, Hwngari yn y 90au, cenais garol Hwngareg mewn cyngerdd Nadolig, ac fe ganodd fy Myfyrwyr garol yn y Gymraeg. Prin dwi’n cofio o fy Magyar erbyn hyn yn anffodus; mae’n hawdd anghofio iaith os nad ydych yn cael y cyfle i’w defnyddio.
Cymerwch ran yn holiadur staff Yr Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd, ar agor tan 10 Rhagfyr