Cwrdd â’r tîm – Katy Bernardelli
9 Gorffennaf 2024Mae Katy Bernardelli yn Uwch-ddatblygwr Addysg ar gyfer Asesu ac Adborth yn ein Gwasanaeth Datblygu Addysg. Yn y blog yma mae’n sôn wrthym ni am ei rôl a’r prosiectau mae’n gweithio arnynt yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Dywedwch rywfaint wrthon ni am eich gyrfa:
Mae gweithio i’r Academi Dysgu ac Addysgu wedi bod yn brofiad newydd sbon imi oherwydd, hyd yn hyn, rwy wedi gweithio yn yr ystafell ddosbarth yn addysgu myfyrwyr. Fy swydd gyntaf ar ôl gadael y brifysgol oedd dysgu Saesneg i blant ysgol yn Tsieina. Ar ôl hynny, bues i’n gweithio am fwy na 20 mlynedd yn dysgu Saesneg, yn bennaf felly dysgu Saesneg at Ddibenion Academaidd ar gyrsiau sylfaen a chyn ac yn ystod y flwyddyn academaidd, cyn cyrsiau meistr a blwyddyn un rhyngwladol.
Cyn dod i weithio yn yr Academi, fi oedd Arweinydd Rhaglenni ar gyfer Rhaglen Sylfaen Ryngwladol a Blwyddyn Un Ryngwladol mewn Busnes.
Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n gweld eisiau dysgu myfyrwyr! Rwy wedi dysgu cymaint dros y blynyddoedd am yr hyn sy’n gweithio yn yr ystafell ddosbarth, ac wedi mwynhau datblygu fy ymarfer addysgu, gan ddysgu sut i gynhyrchu adnoddau pwrpasol, ysgrifennu asesiadau a chynllunio cyrsiau.
Beth yw cynnwys eich swydd a pha mor hir rydych chi wedi bod ynddi?
Ymunais i â’r Academi ym mis Ionawr 2024 ac rwy’n cefnogi’r Prosiect Ailystyried Asesu. Yn bennaf, bydda i’n cynnal cyrsiau DPP pwrpasol i Ysgolion i sicrhau eu bod nhw’n barod i fabwysiadu’r Polisi Marcio a Chymedroli newydd. Mewn wythnos arferol, mae’n bosibl y bydda i’n treulio amser mewn gweithdai ac yn cynnal cyfarfodydd â phedair neu bum Ysgol wahanol.
Mae gen i hefyd ddiddordeb arbennig mewn Addysg er Datblygu Cynaliadwy (ESD) ac rwy wedi bod yn gweithio ar wella adnoddau Cynaliadwyedd y Pecyn Cymorth Datblygu Addysg. Mae gen i ddiddordeb arbennig ym maes deall sut y gellir ymgorffori addysg er datblygu cynaliadwy mewn disgyblaethau nad ydyn nhw’n naturiol addas, megis y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Pa brosiectau/tasgau rydych chi’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd yn eich swydd?
Ar hyn o bryd rwy’n cysylltu ag Ysgolion ynglŷn â chynnal gweithdai ar gymedroli a graddnodi cymdeithasol cyn marcio. Rwy’n mwynhau gwylio staff yn trafod yn fywiog wrth iddyn nhw farcio gwaith myfyrwyr gyda’i gilydd a chyfiawnhau’r marciau maen nhw wedi’u rhoi. Rwy hefyd wedi bod yn ychwanegu meini prawf asesu generig at dudalen Marcio a Chymedroli’r Pecyn Cymorth wrth i Ysgolion ddechrau creu a rhannu’r rhain yn dilyn ein gweithdai cychwynnol. Mae wedi bod yn gyffrous gweld partneriaethau ar y cyd yn datblygu yn yr Ysgolion a’r Gwasanaeth wrth i arferion gorau gael eu rhannu fel hyn.
Beth rydych chi’n ei wneud yn eich amser hamdden?
Mae gen i lu o siwmperi rwy wedi’u gwau â llaw, ond fy hoff beth i’w wneud yn fy amser rhydd yw rhedeg pellteroedd hir. Nid yw hyn wedi bod yn mynd yn dda yn ddiweddar. Dwi wedi cofrestru ar gyfer hanner marathon Tashwedd, felly rhaid imi fynd yn heini unwaith eto!