Skip to main content

Ein tîm

Cwrdd â’r cydweithiwr: Gemma Hackman

7 Tachwedd 2024

Mae Gemma Hackman yn Gynorthwyydd Technoleg Dysgu yn Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd. Dewch i wybod mwy am Gemma a’i rôl.

Dywedwch rywfaint wrthon ni am eich gyrfa:

Rwy wedi cael gyrfa eitha amrywiol hyd yn hyn.  Rheoli tafarndai, yna symud i’r tîm Cymorth TG yn yr un cwmni cyn dechrau swydd Uwch-dechnegydd STEM. Mae’r ffordd newidiais i swyddi’n ymddangos yn rhyfedd, ond roedd yn gwneud synnwyr ar y pryd, rwy’n addo. Casglwr naturiol drwy reddf ydw i ac felly y mae hi yn fy swyddi hefyd, sef ychwanegu rhyw fân feysydd cyfrifoldeb waeth beth yw’r swydd ar bapur.

Pan oeddwn i’n Uwch-dechnegydd STEM yn Ysgol a Chweched Dosbarth Wyedean yng Nghas-gwent, sy’n lle anhygoel, cefais i gynifer o gyfleoedd anhygoel i wella rhychwant y swydd, gan ennill profiad ym maes addysgu a gweinyddu addysg.

Bellach, rwy wedi cyfuno pob un o’r hoff elfennau yn fy swyddi blaenorol yn fy swydd bresennol, sef Cynorthwyydd Technoleg Dysgu, felly o’r diwedd rwy wedi dod o hyd i’r lle delfrydol i mi.

Beth yw cynnwys eich swydd a pha mor hir rydych chi wedi bod ynddi?

Rwy wedi bod yn y swydd hon ers tair blynedd bellach, bron iawn, ac mae’r amser wedi hedfan!

Rwy’n gweithio yn y Tîm Gwella Addysg sy’n rhan o Addysg Ddigidol. Yn gyffredinol, bydda i’n cwrdd â phobl pan fyddan nhw wedi cyrraedd pen y tennyn a does ganddyn nhw fawr o amser i orffen darn o waith. Mae angen y cymorth iawn arnyn nhw yn y fan a’r lle. Rwy’n cefnogi’r holl offer digidol a ddefnyddir ym maes addysgu a dysgu, drwy roi atebion hawdd i’w deall (e.e. Sut rydw i’n cyhoeddi fy recordiad Panopto?) a thrwy gysoni syniadau ag atebion (e.e. Rwy eisiau trefnu cystadleuaeth oriel luniau i’r myfyrwyr gael bleidleisio ar eu hoff lun, pa blatfform dylwn i ei ddefnyddio?). Dyna fy arbenigedd, yn fy marn i, sef rhoi cyngor penodol ac wedi’i deilwra yn fy llais go iawn heb ddefnyddio jargon technegol nac acronymau (lle bo’n bosibl gan fod Prifysgol Caerdydd yn caru acronym mewn gwirionedd, ymddengys!). Fi yw’r person cyfeillgar sy’n eistedd wrth eich ochr y gallwch chi droi ati pan fydd angen rhywfaint o gymorth arnoch chi.

Pa brosiectau neu dasgau rydych chi’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd yn eich swydd?

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio gyda’r Ysgol Cemeg i weld a allwn ni symleiddio profiad y defnyddwyr yn eu sesiynau ymgyfarwyddo â diogelwch, gan leihau’r baich gweinyddol ar y staff sy’n rheoli’r broses ar yr un pryd.

Beth yw’r peth gorau am weithio yn yr Academi Dysgu ac Addysgu?

Yr amrywiaeth, yn sicr! Rydyn ni’n gweithio gyda’r holl staff ledled y Brifysgol, ni waeth ym mha ysgol neu goleg maen nhw’n gweithio ynddo.

Beth rydych chi’n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?

Fel y dywedais i o’r blaen, casglwr ydw i ac felly y mae hi o ran fy hobïau hefyd! Mae llawer gormod i’w rhestru ond ar hyn o bryd, fy niwrnod perffaith fyddai ymweld â gardd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yna eistedd i fwynhau picnic gyda chacen newydd ei phobi ac wedyn mynd â’r teulu adre i ymgolli mewn cwpl o oriau o grefftau!