Cadw’r dynol yn oes DA: Myfyrdodau o Gynhadledd ALT 2025
3 Rhagfyr 2025
Ysgrifennwyd gan Hannah Salisbury, dylunydd dysgu o’r Tîm Addysg Ddigidol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Yn gynharach y mis hwn, aeth Marianna a fi i Glasgow heulog ar gyfer Cynhadledd ALT 2025.
Nid oedd yn syndod bod deallusrwydd artiffisial (DA) yn thema gyson yn y trafodaethau. Y peth mwyaf syfrdanol a oedd wedi ein taro oedd nad oedd y ffocws ar fanylion technegol na’r galluoedd diweddaraf ym maes DA, ond yn hytrach ar sut rydyn ni’n ‘cadw’r elfen ddynol’ wrth ganol addysg wrth i DA ddod yn rhan o fywyd bob dydd.

Roedd llinell o’r brif araith daro tant â fi: Byddwch yn arweinydd, nid yn algorithm.” Er bod DA yn datblygu’n gyflym, cawson ni ei hatgoffa gan Dr Charles Knight, Cyfarwyddwr Addysgeg, Llywodraethu a Rheoli yn Advance HE, fod arweinyddiaeth ym myd addysg uwch yn ddynol yn ei hanfod o hyd. Mae gan bobl rinweddau megis crebwyll, empathi a chyd-destun, sgiliau na all technoleg eu hatgynhyrchu.
Bu Dr Knight yn trafod am y ffaith mai’r teclyn diweddaraf inni yw DA ac y bydd pobl bob amser yn chwilio am adnoddau i’n cefnogi: Wrth i DA yn dod yn fwyfwy dirwystr, mae’n dod yn rhan fwy cyfannol o’r systemau rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd, ac nid yw ein polisïau wedi dal i fyny hyd yn hyn. Rydyn ni’n dweud wrth fyfyrwyr ‘peidiwch â gorddefnyddio DA,’ wrth roi Office 365 iddyn nhw sydd â DA yn rhan ganolog iddo. Siaradodd Dr Knight am y gwrthddywediad hwn gan ddweud na fydd polisïau ar eu pennau eu hunain yn rheoli newid technolegol. Yr hyn sy’n bwysig yw hyfedredd: deall y fframwaith y tu ôl i DA a gwneud penderfyniadau gwybodus, moesegol ynghylch sut rydyn ni’n ei ddefnyddio. Offeryn yw DA, ac nid y nod yw dod yn llai deallus. Y nod yw cyfuno deallusrwydd emosiynol â llythrennedd data. Cafodd y themâu hyn eu hadleisio mewn adroddiad diweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) a anogodd brifysgolion i ymgorffori llythrennedd DA ar gyfer staff a myfyrwyr. Tynnodd sylw at yr angen am foeseg a thryloywder a strategaethau technolegol clir, yn ogystal â’r angen i ailfeddwl y broses o asesu wrth i DA cynhyrchiol herio arholiadau a thraethodau traddodiadol.
Thema allweddol arall y gynhadledd oedd y syniad bod yn rhaid inni gofleidio newid mewn addysg. ‘nid opsiwn mo dychwelyd i’r gorffennol’. Siaradodd llawer o gyfranwyr am sut mae gofyn i addysg uwch gofleidio newid ar y cyd, ac mae hynny’n golygu dechrau sgyrsiau cyn i bobl eraill wneud hynny. Yn gysylltiedig â hyn roedd un o’n hoff bwyntiau myfyrio yn dilyn y gynhadledd, sef yr alwad i greu lle i arbrofi. Mae angen diwylliant chwilfrydedd arnon ni sydd a’r caniatâd i arloesi heb fod ofn methu. Soniodd llawer o siaradwyr yn y gynhadledd am yr angen am dryloywder a sut mae ‘cyfrinachedd yn erydu ymddiriedaeth’, yn enwedig ymhlith arweinwyr. Siaradwn â’n gilydd a pharhau i fod yn chwilfrydig!
Ein Cyflwyniad
Un o’r uchafbwyntiau inni oedd rhoi’r cyflwyniad ar y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda’n Partneriaid Profiad y Myfyrwyr (Myfyrwyr Hyrwyddo gynt). Mae’r fenter hon wedi bod yn ganolog i’n dull yn yr Academi Dysgu ac Addysgu, gan sicrhau bod ymgynghori ar y myfyrwyr yn digwydd a’u bod hefyd yn cymryd rhan amlwg yn y broses o lunio’r amgylchedd dysgu. Rhannon ni enghreifftiau o brosiectau ar y cyd, syniadau ein partneriaid a’r effaith y mae’r partneriaethau hyn wedi’u cael ar ein staff a’n myfyrwyr.

Roedd yr ymateb gan y cynrychiolwyr yn hynod o gadarnhaol. Soniodd llawer am ba mor braf oedd gweld dull mor strwythuredig ac ystyrlon o weithio ar y cyd â myfyrwyr, a gofynnodd sawl un am adnoddau a chyngor ar roi modelau tebyg ar waith yn eu sefydliadau eu hunain. Peth calonogol oedd gweld bod yr egwyddorion rydyn ni bod yn eu hyrwyddo (creu ar y cyd, cynhwysiant ac ymgysylltu’n ddilys) yn cyd-daro â phobl eraill. Ar ben hyn, adleisiodd cyflwyniadau eraill ein teimladau: ‘mae myfyrwyr eisiau bod yn bwysig’ (Austen et al., 2021).

Yn ein cyflwyniad, siaradon ni lawer am sut mae’r holl waith rydyn ni’n ei wneud gyda Phartneriaid Profiad y Myfyrwyr wedi’i seilio ar y nod o greu ymdeimlad o ‘gynefin’ rydyn ni’n ymdrechu i’w gyflawni yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r gair ‘cynefin’ yn cyfleu ymdeimlad o berthyn neu gysylltiad â lle. Rydyn ni eisiau i’n partneriaid sy’n fyfyrwyr deimlo’n rhan wirioneddol o’r tîm. Felly, rydyn ni’n ceisio mwynhau eiliadau anffurfiol gyda nhw, boed hynny’n goffi achlysurol neu’n sgwrs braf yn y swyddfa. Ar ôl diwrnod cyntaf y gynhadledd, aethon ni i ginio mawreddog a ceilidh (digwyddiad cymdeithasol traddodiadol o’r Alban lle bydd dawnsio). Roedd y ceilidh wir yn un o uchafbwyntiau’r digwyddiad! Mae rhywbeth am gerddoriaeth fyw a dawnsio sy’n dwyn pobl ynghyd yn y ffordd orau. Peth braf yw cysylltu â phobl y tu allan i’r lleoliad arferol ar gyfer cynhadledd lle bydd sgyrsiau weithiau ychydig yn ffurfiol.

Peth hyfryd oedd gweld faint roedd hynny ar gael hefyd yn y diwrnod canlynol, a sylweddolodd Marianna a fi fod y teimlad a gawson ni yn union fel yr un rydyn ni eisiau i’n Partneriaid Profiad y Myfyrwyr ei gael. Gan ein bod eisoes wedi rhannu’r eiliadau ysgafn a hwyliog hynny, roedd yn llawer haws mynd at bobl a dechrau sgwrsio yn ystod y sesiynau a rhwng y cyflwyniadau. Gwnaeth y ceilidh dorri’r iâ mewn ffordd na all e-byst na chyflwyniadau – ac ni allai DA byth ddawnsio mewn ceilidh!