Skip to main content

Interniaethau ar y Campws

Astudiaeth Achos Interniaeth ar y Campws: Rhiannon Jones 

29 Ebrill 2025

Yn y blog hwn, mae’r fyfyrwraig Meddygaeth Rhiannon Jones yn sôn wrthon ni am yr Interniaeth ar y Campws 2024 a wnaeth o’r enw ‘Ymyraethau i gefnogi plant yn dilyn rheolaeth gymhellol yn y teulu: adolygiad systematig.’

Barn gychwynnol 

Mae gen i ddiddordeb mewn ymchwil, ac roedd cael cefnogaeth wrth wneud hyn yn ymddangos yn ffordd wych o gael rhagor o brofiad i helpu fy ngyrfa yn y dyfodol.

Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn iechyd meddwl, ac ar ôl helpu mewn adolygiad cyflym ar bwnc tebyg, ro’n i’n meddwl y byddai hyn yn ffordd wych o gynyddu fy ngwybodaeth.

Y profiad 

Er bod fy interniaeth yn fyrrach na rhai eraill (6 wythnos), roedd y gefnogaeth a gefais i’n wych. Roedd y tîm ro’n i’n gweithio gydag ef yn anhygoel o ddefnyddiol, ac ro’n nhw bob amser ar gael i helpu os oedd angen hynny.

Roedd yn bwysig imi gynyddu fy mhrofiad ymchwil gan nad yw hyn yn cael ei addysgu yn fy nghwrs yn y brifysgol. Bydd cael y profiad hwn, a chynorthwyo i gyhoeddi, yn werthfawr iawn imi pan fydda i’n ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.

Y rhannau mwyaf heriol oedd dysgu meddalwedd newydd, ac yn arbennig, dysgu prosesau newydd sy’n ymwneud â chasglu tystiolaeth. Ond roedd fy nhîm yn ddefnyddiol iawn wrth ein haddysgu sut i wneud hyn.

Gan fy mod i’n astudio meddygaeth, y cam nesaf i mi bydd gwneud cais i swyddi sylfaen a dechrau fy ngyrfa fel meddyg.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch ragor o’n blogiau ar Gynllun ar y Campws y Brifysgol neu ceir rhagor o fanylion ar fewnrwyd y staff.