Arwain ym maes dysgu ac addysgu
11 Mehefin 2024Yn y blog hwn, mae Jennifer Pike, Uwch-gymrawd a Phennaeth Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd yn myfyrio ar Arwain ym maes Dysgu ac Addysgu.
Y llynedd cwblheuais i Raglen Cymrodoriaethau Uwch Addysg Prifysgol Caerdydd, a oedd wedi peri imi fyfyrio am fy ngyrfa. Roeddwn i’n ei chael hi’n wirioneddol heriol gorfod ystyried fy nhaith addysgu fel hyn ar y dechrau, gan holi a stilio fy hun ynghylch yr hyn a oedd wedi symbylu fy addysgu. Fodd bynnag, unwaith fy mod i wedi caniatáu imi fy hun feddwl am hyn go iawn, agorwyd iaith ac offer hollol newydd. Roedd wedi fy helpu i ddeall yr addysgeg sy’n sail i fy athroniaeth a fy ffordd o weithio, a sut y galla i ddefnyddio hyn i gefnogi ac arwain pobl eraill wrth ddysgu ac addysgu.
Nid ymdrech unigol yw arwain ym maes dysgu ac addysgu (Covey 1999). Rydyn ni’n dîm prysur iawn o arbenigwyr sy’n cael ein tynnu i sawl cyfeiriad. I mi, y ffordd fwyaf effeithiol o arwain yw’r un sy’n cydnabod arbenigedd y tîm ac yn sianelu eu sgiliau i gyflawni nodau cyffredin. Yn ystod pandemig 2020-2021, bu’n rhaid i bob un ohonon ni ymateb i newidiadau digynsail. A minnau’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ar y pryd, roedd gen i lawer o benderfyniadau i’w gwneud – sut gallwn i gefnogi fy nghydweithwyr i wneud ein gorau dros ein myfyrwyr?
Tlodi amser oedd un o’n heriau mwyaf (Giurge et al. 2020) ac, a minnau’n arweinydd, yn aml yr anrheg fwyaf gwerthfawr y gallwch chi ei rhoi i gydweithwyr yw amser. Dewisais i ddefnyddio dysgu cymdeithasol (Wood et al. 1976; Vygotsky 1978; Lyons a Berge 2012) i lywio ein ffordd o weithio, gan amserlennu cyfarfodydd ar-lein a gwahodd y rheini oedd eisoes yn brofiadol wrth ddefnyddio platfformau dysgu digidol a meddalwedd i rannu eu profiadau. Roedd dysgu oddi wrth ein gilydd yn ffordd effeithlon ac effeithiol o sicrhau’r newidiadau roedd eu hangen – ar y cyflymder yr oedd eu hangen – oherwydd bod dysgu gyda’n gilydd ac oddi wrth ei gilydd yn dychwelyd yr amser i bobl.
Ystyr arweinyddiaeth hefyd yw newid meddylfryd (Dweck 2017) a chefnogi datblygiad cymhelliant cynhenid, sef yr awydd i newid (Ryan a Deci 2000). Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried addysg gynhwysol (Thomas a May 2010) ac amlygwyd hyn gan yr Uwch-Gymrodyr. Yng ngwyddorau’r ddaear a’r amgylchedd, mae gwaith maes yn ddirgelwch craidd ynghlwm wrth yr ecosystem ddysgu (Thomas 2010), gan drochi’r dysgwyr mewn ffyrdd syfrdanol ac annisgwyl. Ond nid yw gwaith maes yn enwog am fod yn gynhwysol! Mae yna lawer o rwystrau – yn gorfforol, yn economaidd-gymdeithasol a diwylliannol i enwi rhai’n unig. Peth cyfforddus oedd eithrio. Yn dilyn y pandemig, roedd datblygu gweithgareddau gwaith maes rhithwir o safon a fyddai’n cefnogi deilliannau allweddol dysgu ac archwilio sy’n seiliedig ar broblemau yn gam mawr ymlaen o ran cynhwysiant. Roedden ni’n gallu cynnig dewis rhithwir gwahanol yn lle gwaith maes personol, gan roi’r cyfleoedd i’r rheini nad oedden nhw’n gallu gwneud gwaith maes. Fodd bynnag, ddwy flynedd yn ôl croesawon ni fyfyriwr a oedd yn defnyddio cadair olwynion yn yr Ysgol ac a oedd eisiau gwneud gwaith maes a phrofi drosto ei hunan y dirgelwch ynghlwm wrth leoedd penodol. Roedd sicrhau’r cyfle hwnnw yn gofyn am newid arall o ran ein meddylfryd, cryn nifer o arweinwyr, dysgu cymdeithasol, ac amser. A chithau’n arweinydd mae’n rhaid ichi herio pobl i feddwl mewn ffordd wahanol, cynllunio’n wahanol, a newid y cynllun, os bydd angen, i fod yn gynhwysol – ac yna roi’r amser iddyn nhw gyflawni hyn. Mae’n rhaid ichi gydnabod eich dilynwyr cyntaf a defnyddio pob un o’ch arweinwyr!
Mwynheuais i raglen datblygu’r Uwch-Gymrodyr yn fawr iawn. Dw i ddim yn meddwl fod y rhaglen o reidrwydd wedi newid fy ffordd o feddwl a gweithio, ond roedd yn rhoi cipolwg imi ar yr hyn y bydda i’n ei wneud, pam ei fod yn effeithiol, ac yn cynnig imi ffyrdd eraill o feddwl wrth arwain ym myd addysg.
Ewch i dudalen y Cymrodoriaethau ar y fewnrwyd neu cysylltwch â’r tîm ar educationfellowships@caerdydd.ac.uk i wybod rhagor am raglenni’r Cymrodoriaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cyfeiriadau
Covey, S. 1999. The 7 Habits of Highly Effective Leaders. Simon a Schuster, y DU
Dweck, C.S. 2017. Mindset (6ed Argraffiad). Llundain, Robinson.
Giurge, L.M., Whillans, A.V. a West, C. 2020. Why time poverty matters for individuals, organisations and nations. Nature Human Behaviour 4, 993–1003.
Lyons, S. D. a Berge, Z. L. 2012. Social Learning Theory. Yn: Seel, N.M. (golygydd) Encyclopedia of the Sciences of Learning. Boston, MA, Springer, 3116–3118.
Ryan, R. M. a Deci, E. L. 2000. Self-determination theory and the facilitation of intrinsic motivation, social development, and well-being. The American Psychologist 55, 68–78.
Thomas, H. 2010. Learning spaces, learning environments and the dis‘placement’ of learning. British Journal of Educational Technology 41, 502-511.
Thomas, L. a May, H. 2010. Inclusive Learning and Teaching in Higher Education. Efrog, Higher Education Academy.
Vygotsky, L. S. 1978. Mind in Society: The Development of Higher Psychological Processes. Massachusetts, Harvard University Press.
Wood, D. J., Bruner, J. S., & Ross, G. 1976. The role of tutoring in problem solving. Journal of Child Psychiatry and Psychology 17, 89-100.