Addysg Gynhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd: Ein hymrwymiad i ddysgu ystyrlon, hygyrch i bawb
26 Chwefror 2026Y Cyd-destun

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae cynhwysiant yn ganolog i greu profiadau dysgu sy’n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Mae ein dull gweithredu yn cael ei lunio gan waith Hockings’ (2010), sy’n disgrifio dysgu ac addysgu yn gynllunio addysgeg, y cwricwlwm ac asesu yn feddylgar er mwyn i bob myfyriwr allu cymryd rhan yn llawn ac elwa ar addysg uwch.
Dydyn ni ddim yn ystyried cynhwysiant yn welliant opsiynol ond yn rhan sylfaenol o sut mae cymuned prifysgol yn gweithio. Mae’n cydnabod bod pob un o aelodau ein cymuned yn cynnig profiadau, hunaniaethau a safbwyntiau unigryw, a’r amrywiaeth hwn sy’n cyfoethogi ein profiadau dysgu.
Sut olwg sydd ar ddull Caerdydd?
Rydyn ni wedi datblygu fframwaith i’r Brifysgol gyfan i hwyluso a chefnogi ysgolion ac adrannau i ymgorffori addysg gynhwysol yn ein darpariaeth. Ym mhob rhan o’r Brifysgol, rydyn ni’n gweithio i ymgorffori egwyddorion cynhwysol mewn arferion addysgu bob dydd a datblygiad addysgol ehangach. Yn rhan o hyn y mae’r canlynol:
-
Creu ymdeimlad o berthyn
Helpu myfyrwyr i deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli, eu gwerthfawrogi ac yn rhan o gymuned ddysgu, sef nod pwysig yn ymrwymiad Caerdydd i gael gwared ar y rhwystrau rhag bod yn bresennol, cymryd rhan, cyflawni a meithrin profiad. Caiff y syniadau hyn eu hystyried ymhellach yn y Pecyn Cymorth Datblygu Addysgu
-
Llunio profiadau dysgu hyblyg a disgwylgar
Anogir y staff i ystyried hygyrchedd o’r cychwyn cyntaf. Er enghraifft, cynnig adnoddau ar sawl fformat ac osgoi cymhlethdod diangen mewn strwythurau cyrsiau. Diben pwrpasol llawer o’n hadnoddau addysgol, ar-lein ac ar y campws, yw bod yn hawdd i’w llywio, yn amlfodd ac yn groesawgar, gan wasanaethu ystod eang o ddysgwyr.
Mae’r hyn a ddywedodd y myfyrwyr yn bwysig…
‘Ar ôl profi amgylchedd dysgu cyfunol, rwy’n teimlo mai dyma’r dull mwyaf buddiol i gynifer o fyfyrwyr gwahanol â phosibl, oherwydd ei hyblygrwydd a’i allu i addasu.’
-
Gwerthfawrogi amrywiaeth yn gryfder academaidd
Rydyn ni’n mynd ati i hyrwyddo arferion sy’n cydnabod, yn defnyddio ac yn dathlu diwylliannau amrywiol myfyrwyr, safbwyntiau a phrofiadau bywyd i wella dysgu ar y cyd. Mae hyn yn cynnwys annog myfyrwyr i amau ffynonellau gwybodaeth, rhoi eu barn ac ymgysylltu’n feirniadol gyda’r byd o’u cwmpas.
Mae’r hyn a ddywedodd y myfyrwyr yn bwysig...
Mae adborth penodol gan fyfyrwyr yn tynnu sylw at ba mor rymus mae’r arferion hyn yn gallu bod yn yr ystafell ddosbarth. Dyma a ddywedodd y dysgwyr wrthon ni:
‘Ro’n i’n gwerthfawrogi pan oedd darlithwyr yn mynd ati i ymdrin â rhagfarnau yn y cwricwlwm’.
‘Ro’n i’n gwerthfawrogi pan oedd darlithwyr yn herio ystrydebau mewn deunyddiau cwrs’
-
Datblygu gallu a hyder y staff
Mae Caerdydd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol i helpu’r staff i edrych ar gynhwysiant yn fanwl (e.e. meithrin ymdeimlad o berthyn, ailystyried y broses o gynllunio asesu, i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol ym myd addysg uwch). Mae’r sesiynau hyn yn rhan o’n hymrwymiad sefydliadol i welliannau parhaus.
Pam mae hyn yn bwysig
Nid yw addysg gynhwysol yn beth sefydlog; mae’n ymarfer sy’n esblygu sy’n ymateb i gymuned gynyddol amrywiol o fyfyrwyr. Mae cyflawni cynhwysiant yn gofyn am ymdrechion sefydliadol parhaus, sef myfyrio’n barhaus ar beth sy’n gweithio, canfod rhwystrau a dod o hyd i ffyrdd o gael gwared ohonyn nhw. Mae’r dull hwn yn helpu i sicrhau bod mwy o aelodau o’n cymuned dysgu yn teimlo eu bod yn gallu llwyddo – nid oherwydd bod y disgwyliadau’n is, ond oherwydd bod cyfleoedd i ymgysylltu a ffynnu yn ehangu.
Myfyrdodau / Beth sydd nesaf?
Profiad, nid rhestr wirio yw addysg gynhwysol, gan wella hygyrchedd a chynhwysiant ein hamgylcheddau dysgu’n barhaus – gan dynnu ar ymchwil a phrofiadau byw ein myfyrwyr.
Gall addasiadau bach, ystyriol (megis defnyddio briffiau asesu eglurach, rhannu adnoddau ar sawl fformat neu greu cyfleoedd i sicrhau llais y myfyriwr) wneud cryn wahaniaeth.
Pwyntiau cychwyn
Fel cychwynbwynt, i gael y syniadau i lifo, dyma ambell i gwestiwn i’ch helpu i fyfyrio ar gynwysoldeb yn eich cyd-destun eich hun
- Sut mae newidiadau bach yn gwella hygyrchedd ar gyfer ystod ehangach o fyfyrwyr? – Pa newidiadau bach fyddai’n bosibl ichi wneud yn eich ymarfer?
- Pa leisiau neu safbwyntiau y gallech chi eu hehangu i wneud eich amgylchedd dysgu’n fwy cynhwysol?
