Skip to main content

DigwyddiadauLleisiau Ieuenctid

Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid 2023 – Dewrder gan Jaden

19 Medi 2023

Rhybudd: mae cynnwys y blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta

Ry’n ni i gyd wedi clywed y cwestiwn nodweddiadol ‘na sy’n cael ei ddefnyddio i dorri’r iâ— “pa un gair fyddech chi’n ei ddefnyddio i ddisgrifio’ch hun?”

Gofynnwyd hyn i mi yn ddiweddar ym mhriodas fy nghefnder, ar ôl i mi weld ambell berson yn edrych yn ddryslyd, ac anghynnil, ar fy mraich, yr oeddwn wedi ceisio ei chelu â chuddiwr colur. Mae’n debyg na wnaeth orchuddio’r creithiau cymaint ag yr oeddwn i’n meddwl y byddai’n ei wneud. Anwybyddais i’r edrychiadau, oherwydd dwi’n gymharol gyfarwydd â nhw nawr. Yn lle hynny, atebais y cwestiwn, yn syml:

“Yr un gair y byddwn i’n ei ddefnyddio i ddisgrifio fy hun yw dewr.”

Dechreuodd fy nhrafferthion iechyd meddwl pan ro’n i’n ifanc, pan gefais fy nghofleidio gan freichiau afiechydon parlysol, yr oeddwn i wir yn meddwl eu bod ar fy ochr i—fy “ffrindiau,” fel yr oeddwn i’n arfer eu hystyried. Dim ond yn ddiweddarach y sylweddolais nad oedd fy anhwylder bwyta, fy iselder, a’m gorbryder yn ddim mwy nag angenfilod difrodus a oedd yn benderfynol o rwygo’m bywyd a’m perthnasoedd oddi arnaf.

Wrth i mi suddo ymhellach i’m trafferthion, dwi’n cofio sut roedd amser yn llusgo, a phopeth yn teimlo’n araf. Roedd pob symudiad; pob gair; pob ystum ro’n i’n ei wneud; yn cael ei guddio gan glogyn o dwyll ‘mod i’n “iawn, wir,” a “does dim angen help arna i.” Ro’n i’n credu, mor gadarn, gyda’r clogyn ‘ma yn hongian o’m cwmpas, fy mod i’n bod yn “ddewr”. Ond mewn gwirionedd, ro’n i’n blentyn dryslyd ag angenfilod yn ei phen yn cau eu crafangau amdani. A dywedais wrth neb, oherwydd ro’n i eisiau bod yn “ddewr.”

Ac ro’n i yn bod yn ddewr, a dweud y gwir. Ro’n i’n ddewr bob eiliad ro’n i’n aros ar y Ddaear. Yr holl droeon y deffroais i yn y bore, cael cawod, bwyta—dyna fi yn bod yn anhygoel o ddewr, er nad o’n i’n sylwi hynny ar y pryd. Ro’n i’n meddwl ‘mod i’n bathetig. Pa fath o berson sydd ddim hyd yn oed yn gallu codi o’r gwely? Pa fath o lanast o berson sydd eisiau brifo ei hun? Nawr, dwi’n edrych yn ôl ar y ferch ifanc ‘na gyda mwy o dosturi, gan wybod bod ei hymddygiad yn sgil rhywbeth a oedd allan o’i rheolaeth yn llwyr. Nid ein bai ni yw salwch meddwl, a hoffwn i fod wedi sylweddoli hynny’n gynt. Byddai wedi arbed nosweithiau di-gwsg di-rif i mi pan fyddwn i’n beio fy hun am y ffordd yr oedd fy ymennydd yn sgrechian arna i bob tro ro’n i eisiau gwneud pethau “normal.” Yn rhoi llond pen i mi bob tro ro’n i’n ystyried fy nyfodol. Ac yn rhegi ata i pan ro’n i’n meddwl am aros yn fyw.

Dwi’n edrych yn ôl ar yr adegau hynny heddiw ac yn profi ystod o emosiynau na allaf egluro eu pwrpas yn llwyr. Mae ‘na dristwch a phiti, wrth gwrs. Ond mae ‘na hefyd hiraeth poenus, chwerwfelys pan dwi’n meddwl am y cysur paradocsaidd ro’n i’n ei deimlo yng nghanol yr holl boen ‘na. Mae mor anhygoel o hawdd dweud wrth rywun sy’n cael trafferth gyda salwch meddwl: “Nagwyt ti’n casáu bod fel hyn? Pam na wnei di jyst ceisio gwella?’ Ond dyw hi byth mor syml â hynny. Ro’n i mewn poen aruthrol, cymaint felly nes ei bod hi’n llawer haws suddo na gwneud yr ymdrech i godi ‘nôl ar fy nhraed. Felly, ro’n i’n gaeth am beth oedd yn teimlo fel tragwyddoldeb.

Ac yn hynny, roedd ‘na ddewrder cynhenid. Mae unrhyw un sy’n ymgodymu â chrafangau hollgynhwysol salwch meddwl yn gwisgo mantell gynhenid o ddewrder.

Ond nid dyna pam dwi’n disgrifio fy hun yn ddewr. Dwi’n cadw’r gair hwnnw ar gyfer y foment y sylweddolais nad dewrder oedd anwybyddu’r sefyllfa a thwyllo fy hun ‘mod i’n “iawn.” Yn hytrach, dwi’n credu mai fy moment ddewraf oedd cydnabod ‘mod i wedi colli rheolaeth ac estyn allan am help,  dysgu i beidio beio fy hun am rywbeth nad oeddwn i wedi gofyn amdano,  sylweddoli nad yw gwellhad byth yn daith linellol, yn symud mewn llinell letraws fach daclus tuag i fyny. Gwnaeth fy newrder ddweud celwydd wrtha i trwy adael i’m clwyfau meddyliol a chorfforol wella, heb deimlo’r angen i’w hailagor. Dewrder oedd cydnabod nad oedd angen i mi brofi fy nhrafferthion i unrhyw un, gan eu bod yn ddilys dim ond trwy eu bodolaeth. Dyna pam dwi’n fy ngalw fy hun yn ddewr.

Ond nid dyna’r ateb roedd fy nheulu estynedig yn chwilio amdano, felly dywedais wrthynt ei fod gan ‘mod i wedi taro fy mys troed unwaith heb grio. Wedi’r cyfan, dwi ddim yn teimlo’r angen bellach i eraill gydnabod math o ddewrder na fyddent byth yn ei ddeall.

Am yr awdur:

Helo, fy enw i yw Jaden! Dwi’n 17 mlwydd oed ac yn wreiddiol o India ond wedi fy lleoli yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae fy iechyd meddwl yn rhywbeth dwi wedi cael trafferth ag ef ers amser maith, ac wrth i mi ddechrau codi’n araf i’m traed unwaith eto, dwi’n hynod angerddol am ddefnyddio fy ngorffennol fel angor i helpu a chefnogi eraill sy’n mynd trwy’r un peth, gobeithio. Ar hyn o bryd dwi yn fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd ac yn bwriadu astudio naill ai seicoleg addysgol neu Saesneg iaith yn y brifysgol. Dwi’n awdur uchelgeisiol a dwi’n gobeithio gwneud gwahaniaeth yn y byd yma ryw ddydd. Dwi’n caru darllen, ysgrifennu, chwarae’r piano a’m cŵn!
Ysgrifennais yr erthygl hon ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, sy’n ein hatgoffa o’r angen dybryd i fynd i’r afael â lles meddyliol ein cenhedlaeth iau, mewn byd lle gall pwysau a chymhlethdodau bywyd modern effeithio ar feddyliau ifanc. Mae’r diwrnod hwn yn pwysleisio arwyddocâd deialog agored, rhwydweithiau cymorth, ac adnoddau hygyrch. Drwy gydnabod yr heriau unigryw y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a meithrin amgylchedd o ddealltwriaeth, rydym yn cymryd cam hanfodol tuag at feithrin cenhedlaeth sy’n feddyliol wydn a grymus.