Skip to main content

Cwrdd â'r ymchwilydd

Dyddiadur Ymchwilydd: Fy mlwyddyn gyntaf fel myfyriwr PhD yng Nghanolfan Wolfson

4 Awst 2023

“Er ei fod wedi bod yn brofiad heriol, rydw i wedi dysgu cymaint yn barod ac yn edrych ymlaen at bopeth sydd gen i i’w ddysgu!””

Fy enw i yw Abbey Rowe ac rwy’n cynnal fy PhD yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Mae fy noethuriaeth yn ymwneud â rôl ysgolion wrth gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc niwrowahanol, yn enwedig y rheini ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

Dewisais Ganolfan Wolfson i wneud fy noethuriaeth er mwyn cael y cyfle i weithio gydag ymchwilwyr blaenllaw ym maes iechyd meddwl pobl ifanc, gan ganolbwyntio’n benodol ar ysgolion. Mae’n faes rydw i wedi gweithio ynddo am y rhan fwyaf o fy mywyd proffesiynol.

Mae gallu mynd i gyfarfodydd lle mae ymchwilwyr o wahanol becynnau gwaith yn rhannu eu gwaith, ac yn cydweithio i wella eu harferion a dysgu oddi wrth ei gilydd, wedi bod yn uchafbwynt. Yn ogystal â hyn, rydw i wedi mwynhau cyfarfod â’r grŵp Cynghori Ieuenctid, sy’n llywio’r ymchwil yng nghanolfan Wolfson.

Rydw i wedi datblygu amrywiaeth o sgiliau yn ystod fy nghyfnod yng Nghanolfan Wolfson. Roedd mwyafrif helaeth fy mlwyddyn gyntaf yn ymwneud dysgu gweithio’n fwy annibynnol, yn enwedig o ran cynllunio a dylunio prosiect ymchwil. Yn ogystal â hyn, rydw i wedi bod yn dysgu dulliau ymchwil meintiol newydd a chymhleth ar amrywiaeth o gyrsiau hunangyfeiriedig ac wyneb yn wyneb. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddadansoddi data eilaidd gan ddefnyddio modelu aml-lefel yn Stata, profiad nad oeddwn i wedi’i gael cyn i fi ddechrau yma.

Rwy’n falch o’r hyn rydw i wedi ei ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n amlwg nawr fy mod i’n gallu defnyddio pecyn meddalwedd dadansoddi ystadegol nad oeddwn erioed wedi’i ddefnyddio o’r blaen, er bod gen i lawer mwy i’w ddysgu eto. Rydw i hefyd yn falch iawn fy mod wedi goroesi fy mlwyddyn gyntaf!

Mae wedi bod yn brofiad positif iawn, sydd wedi ei ysgogi’n bennaf gan dîm hynod brofiadol. Ond yn fwy na dim, maen nhw wedi bod yn frwdfrydig a chefnogol yma yng nghanolfan Wolfson, ac mae wedi bod yn fraint cael dysgu oddi wrthyn nhw a gweithio gyda nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ysgrifennwyd gan Abbey Rowe