Skip to main content

Uncategorized

Dyddiadur Ymchwilydd: Fy ail flwyddyn fel myfyriwr PhD yng Nghanolfan Wolfson

20 Mawrth 2024

Helo ddarllenwyr hyfryd blog Wolfson!

Fy enw i yw Abbey Rowe, ac rwy’n fyfyriwr ymchwil PhD ail flwyddyn yn gweithio gyda Chanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson a DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth i ni unwaith eto gyrraedd menter flynyddol wych Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth, dyma fanteisio ar y cyfle hwn i rannu rhai diweddariadau ar fy mhrosiect ymchwil tair blynedd sy’n cyd-fynd â’r dathliadau.

Ar fy mlog cyntaf soniais i am thema’r PhD, sut roedd fy mlwyddyn gyntaf yn mynd, a pham y dewisais Ganolfan Wolfson. Prif nod fy ymchwil yw deall y rôl y mae ysgolion uwchradd yn ei chwarae wrth gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc ag ADHD.

 

Felly, beth sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf? Wel…

  1. Cyflawnais gam cyntaf fy ymchwil (dadansoddi data eilaidd)

Mae hon wedi bod yn daith hir a heriol a bu’n rhaid i mi ddysgu o’r dechrau sut i ddefnyddio technegau dadansoddi data cymhleth (modelu aml-lefel) mewn rhaglen gyfrifiadurol ystadegol o’r enw Stata nad oeddwn erioed wedi’i defnyddio o’r blaen.  Rwy’n dal yn dehongli canfyddiadau’r dadansoddiad hwn ac yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan fy ngoruchwylwyr a chydweithwyr yn Wolfson a DECIPHer, yn ogystal â chydweithwyr ac ymchwilwyr allanol hefyd. Rwyf i wir wedi teimlo’n rhan o gymuned ymchwil o’r radd flaenaf sydd wedi fy helpu i symud ymlaen ar hyd y daith gymhleth hon!

 

  1. Es i gynhadledd ADHD ym Montpellier, Ffrainc

Roedd bod yng nghynhadledd ryngwladol EUNETHYDIS 2023 yn gyfle anhygoel, nid yn unig i ddysgu gan arbenigwyr blaenllaw ym maes ymchwil ADHD, ond i gyflwyno fy mhoster academaidd cyntaf ochr yn ochr ag ymchwilwyr gyrfa gynnar eraill. Roedd cwmpas ehangder yr ymchwil yn y maes yn syfrdanol ac roedd y tywydd yn eithriadol hefyd!

 

  1. Ymgynghorais â phobl ifanc, staff ysgolion a gweithwyr proffesiynol am fy ymchwil

Mae siarad â phobl yn y gymuned addysg rwy’n ymchwilio iddi wedi bod yn un o’r agweddau mwyaf pleserus ar y prosiect hyd yn hyn. Rwy’n credu mai pobl ifanc sy’n uniaethu’n niwroamrywiol ac oedolion sy’n gweithio yn y lleoliadau addysg yw’r arbenigwyr yn hyn o beth. Trwy siarad â nhw am fy mhrosiect llwyddais i ganoli fy nodau ymchwil ar sail eu mewnbwn uniongyrchol, a amlinellir ar y poster cryno hwn. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r grwpiau hyn ar fy mhrosiect.

 

  1. Cefais gyfle i gwrdd â Grŵp Cynghori Ieuenctid Wolfson

Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2023 oedd ‘Mae iechyd meddwl yn hawl dynol i bawb’, a chefais wahoddiad i gefnogi trafodaethau ar y pwnc yng nghyfarfod wyneb yn wyneb y Grŵp yn sbarc. Roedden  nhw’n grŵp ysbrydoledig o arbenigwyr ifanc, oedd â chymaint o syniadau gwych i’w rhannu wrth greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol (Twitter ac Instagram) i ysgogi’r meddwl a chodi ymwybyddiaeth o bwnc pwysig y dydd.

 

Dyma rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf  i mi ac rwy’n gwybod bod gen i flwyddyn arall lawn dop o brofiadau i edrych ymlaen ati. Ar hyn o bryd rwyf i wrthi’n cofrestru ysgolion i gymryd rhan yn ail gam fy ymchwil sy’n cynnwys cyfweliadau myfyrwyr a staff ysgol. Bydd yn anhygoel cael golwg fanwl ar nodweddion penodol ysgolion a allai fod yn cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc ag ADHD, yn uniongyrchol o safbwyntiau myfyrwyr a’r staff eu hunain.

 

Os hoffech ddarllen mwy am y PhD:

 

Byddaf yn siŵr o roi diweddariad arall yn y dyfodol ac mae croeso i chi gysylltu os hoffech drafod unrhyw beth yr wyf wedi’i grybwyll ymhellach. Gobeithio y cewch chi Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth wych!

 

Cysylltwch â fi:

Twitter: @AbbeyJRowe

Ebost: roweaj1@caerdydd.ac.uk