***Deadline Extended: 14th June 2019***
For the third year running we are once again hosting a 3 day non-residential workshop for A/S level students interested in continuing on to Physics degrees.
Taking place in Cardiff University School of Physics and Astronomy the workshops will run Tuesday 25 – Thursday 27th June 2019.
The event will run 10:00 – 16:30 each day. A more detailed programme will be released closer to the time, but will include talks, lectures and workshops delivered by staff and students from the School of Physics and Astronomy.
Lectures and workshops will be targeted at A/S level (year 12) students and provide an insight into Physics beyond A-level, including:
- Gravitational Waves
- Astronomy and Cosmology
- Medical Physics
- Nanophysics
- Lasers
- Semiconductor technology
Students should apply using this application form. The deadline for applications is 14th June 2019; in the case of over subscription places will be allocated on a first come first served basis.
Testimonials and Evaluation
“A great insight into topics we have not covered”
2018 participant
“I really enjoyed the friendly environment and the balance of the talks and workshops”
2018 participant
100% of participants rated the event 4 or 5 out of 5, and would recommend it to other students
2018 evaluation
62% of participants reported being more likely to study physics at University
2018 evaluation
Gweithdy Haf UG Ffiseg Caerdydd 2019
*** Dyddiad Cau Estynedig: 14 Mehefin 2019 ***
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydym unwaith eto yn cynnal gweithdy di-breswyl, tri diwrnod, a gynhelir ar gyfer myfyrwyr safon UG sydd â diddordeb mewn mynd ymlaen i wneud gradd mewn Ffiseg.
Cynhelir y gweithdai rhwng dydd Mawrth 25 Mehefin a dydd Iau 28 Mehefin 2019 yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 4.30pm bob dydd. Caiff rhaglen fwy manwl ei rhyddhau’n agosach at yr amser, ond bydd yn cynnwys sgyrsiau, darlithoedd a gweithdai a gyflwynir gan staff a myfyrwyr o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.
Caiff y darlithoedd a’r gweithdai eu targedu at fyfyrwyr safon UG (blwyddyn 12) a byddant yn rhoi cipolwg ar Ffiseg y tu hwnt i Safon Uwch, gan gynnwys:
- Tonnau Disgyrchol
- Seryddiaeth a Chosmoleg
- Ffiseg Feddygol
- Nanoffiseg
- Laserau
- Technoleg lled-ddargludyddion
Dylai myfyrwyr wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais hon. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Mehefin 2019; a chaiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin os bydd gormod yn tanysgrifio.
Tystebau a gwerthusiad
“Cipolwg gwych ar bynciau nad ydym eto wedi’u hastudio”
Cyfranogwr 2018
“Mwynheais y rhan fwyaf o’r sgyrsiau, yr amgylchedd cyfeillgar a’r cydbwysedd rhwng y sgyrsiau a’r gweithdai yn fawr”
Cyfranogwr 2018
Rhoddodd bob un a gymerodd ran sgôr o 4 neu 5 allan o 5, a byddent yn ei argymell i fyfyrwyr eraill
Gwerthusiad 2018
Nododd 62% o’r cyfranogwyr eu bod yn fwy tebygol o astudio ffiseg yn y Brifysgol
Gwerthusiad 2018