Do you have a Year 7 and/or 10 student you feel deserves to have their efforts and achievements in physics recognised? You can reward them with an Ogden Trust School Physicist of the Year Award.
The recipients don’t need to be your highest achieving students academically as this award is for enthusiastic students who may have faced difficulties throughout the year but has continued to show progression in physics. They may have shown improvement in their studies or demonstrated great enthusiasm for the subject despite lacking support at home.
If you teach physics at a school or college in Wales, Bristol, Bath or Somerset you can put forward your most promising Year 7 and 10 physics student for this awards. Entries are limited to one Year 7 and one Year 10 student per school, and all nominees will receive £10 (year 7) or £25 (year 10) book vouchers, and be invited to an evening awards ceremony on 2 July 2019 at Cardiff University.
All you have to do is use the survey below to nominate your students.
Ffisegydd Ysgol y Flwyddyn Ogden Trust 2019
Oes gennych fyfyriwr ym Mlwyddyn 7 a/neu 10 sy’n haeddu cael cydnabyddiaeth am ei ymdrechion a’i lwyddiannau ym maes ffiseg yn eich barn chi? Gallwch eu gwobrwyo nhw â Gwobr Ffisegydd Ysgol y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Ogden.
Nid oes angen i’r derbynyddion fod y myfyrwyr sy’n cyflawni orau yn academaidd, oherwydd gwobr ar gyfer myfyrwyr brwdfrydig a allai fod wedi wynebu anawsterau yn ystod y flwyddyn ond sydd wedi parhau i ddatblygu ym maes ffiseg yw hon. Gallai fod wedi gwella yn ei astudiaethau neu fod wedi dangos cryn frwdfrydedd ar gyfer y pwnc er gwaethaf diffyg cefnogaeth gartref.
Os ydych yn addysgu ffiseg mewn ysgol neu goleg yng Nghymru, Bryste, Caerfaddon neu Wlad yr Haf, gallwch enwebu eich myfyriwr ffiseg mwyaf addawol ym Mlwyddyn 7 a 10 ar gyfer y wobr hon. Cyfyngir enwebiadau i un myfyriwr Blwyddyn 7 ac un myfyriwr Blwyddyn 10 fesul ysgol. Bydd pob enwebai yn derbyn tocyn llyfr £10 (blwyddyn 7) neu £25 (blwyddyn 10), ac fe gânt eu gwahodd i seremoni wobrwyo gyda’r nos ym Mhrifysgol Caerdydd ar 2 Gorffennaf 2019.
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw defnyddio’r arolwg isod i enwebu eich myfyrwyr.