Skip to main content

Cymraeg

Noson Gymraeg Fisol Clwb Ifor Bach

31 October 2014

Ymddiheuriadau mai rwan ydw i’n blogio am nos Lun, ond dwi’n meddwl ei bod hi wedi cymryd tan rwan i mi adfer! Do, fe ddechreuodd noson Gymraeg fisol newydd Clwb Ifor Bach mewn steil go iawn. Tawelwch llethol, yn hytrach na TWRW, a ddaeth dros y ty yma fore Mawrth, fel tai llawer o’r myfyrwyr Cyrmaeg eraill rwy’n tybio!

Fel myfyriwr Cymraeg, rydych chi’n siwr o alw draw yng Nghlwb Ifor o dro i dro, ar gyfer gigs Cymraeg neu ar ddiwedd Crôl Teulu’r Gym Gym, ond doedd dim digwyddiad rheolaidd a phenodol ar gyfer myfyrwyr yno.Tan eleni.  Mae’r Gym Gym, ar y cyd â’r Clwb, wedi mynd ati i sefydlu noson Gymraeg fisol, fel sydd ganddynt ym Mangor ac Aberystwyth yn Clwb Cymru a Swn, yn dathlu’r gorau o’r sin gerddoriaeth Gymraeg o’r clasurol i’r cyfoes. Braf o beth yw gweld adfer y berthynas arbennig honno rhwng y Clwb â’r myfyrwyr Cymraeg gan gofio’r holl hanes dros y blynyddoedd.

Nos Lun olaf bob mis y bydd TWRW’n digwydd o hyn allan. Bydd thema arbennig bob wythnos o ran gwisg. ‘Gwisg ysgol’ oedd y thema erbyn y tro cyntaf ‘ma ac roeddwn yn falch tu hwnt o gael gofyn i fy rhieni anfon tei Ysgol David Hughes (fy ysgol uwchradd) i lawr ar frys! Bu’r tei gen i drwy’r flwyddyn gyntaf ond ni ddaeth cyfle ar unrhyw grôl i’w wsigo! Top tip ichi felly…cadwch dei eich cyn-ysgol wrth law ac yng Nghaerdydd drwy’r tymor! ‘Dydych chi byth yn gwybod pryd fydd ei angen! Ond, wrth lwc, cyrhaeddodd y tei mewn pryd, ac yn saff yn y post!

Gan nad oedd y noson yn dechrau tan 10 o’r gloch, roedd digon o amser i yfed cyn mynd allan yn y ty a thynnu ambell lun- fel petaem yn dechrau yn y chweched unwaith eto! Roedd cynrychiolaeth o deis o ysgolion David Hughes, Bro Pedr, Dyffryn Teifi a Phenweddig i’w gweld yn ein ty ni nos Lun…a dyma lun ohonom ni blantos David Hughes yn barod am yr ysgol:

Roedd y noson yn wych a gwnaeth pawb (rhai fwy na’i gilydd…) fwynhau dawnsio’n feddw – diolch i’r diodydd rhad oedd ar gael – i’r clasuron a’r cyfoes fel ei gilydd. Erbyn diwedd y noson gyda Cheidwad y Goleudy yn atsain i’r strydoedd ac “I’r Gad” Dafydd Iwan yn fyw yn ein calonau rwy’n siwr bod ambell un wrth ymlwymbro fyny’r stryd o’r Clwb tuag at y Castell yn meddwl meddiannau’r Castell fel Ifor Bach yntau yn y ddeuddegfed ganrif!

Neithiwr roedd hi’n ‘Noson Dalu’ ar gyfer y Ddawns Ryng-golegol fyny yn Aberystwyth, sef y digwyddiad mawr nesaf fydd ar ein gwarthaf ymhen ychydig wythnosau bellach. Fel y gwelwch felly, mae digon o ddigwyddiadau Cymraeg i’w cael – gwleddd yn wir. Fel y mae sefydlu twrw yn ei ddangos mae’r arlwy yn parhau i ddatblygu ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Caerdydd.