Symud mewn i Dŷ
3 December 2019Ar ôl blwyddyn o fyw mewn Neuadd Breswyl yng Ngogledd Talybont, roeddwn – heb os nac oni bai – yn barod i symud mewn i dŷ ar gyfer fy ail flwyddyn. Felly, dyma ychydig o bwyntiau ynghylch fy mhrofiad i gydag ychydig o gyngor hefyd.
Y Broses o Ddewis Pobl
Dyma gyfnod sy’n gallu bod yn heriol i chi, i’ch ffrindiau ac i’ch cyfeillgarwch chi gyda’ch ffrindiau. Ond cofiwch, mae’r broses hon yn hollbwysig er mwyn creu mwy o atgofion ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac efallai bod yna ambell rwystr y mae angen ei daclo ar hyd y ffordd. I mi, rwyf yn byw mewn tŷ o 8 myfyrwyr sef yr uchafswm i mi yn bersonol. Y dewisiadau pennaf ar gyfer myfyrwyr, yw dewis rhwng ffrindiau’r cwrs, neu ffrindiau tu allan i’r cwrs (ffrindiau o’r Neuadd Breswyl, o gymdeithasau neu gyfeillion cyffredin). Weithiau, mae cymysgedd o’r holl elfennau hyn yw’r dewis mwyaf delfrydol. Rhywbeth i gadw mewn golwg hefyd yw dewis tŷ o ran rhyw, hynny yw dim ond bechgyn/merched neu gymysgedd o’r ddau. Fy sefyllfa bersonol i yw fy mod yn byw mewn tŷ cymysg ac rwyf yn hoff iawn o hynny. Teimlaf fod gennyf ddeinameg delfrydol rhwng y ddau ryw. Ond peidiwch â gadael i hynny ddylanwadu’ch penderfyniad.
Y Broses o Chwilio
Wedi ichi gamu dros y glwyd o ddewis pwy yr ydych am fyw gyda hwy flwyddyn nesaf, mae’n bryd mynd ati i chwilio am dŷ. Fe wnes i, ac mae’n debygol y cewch chi hefyd, gael pobl yn dod mewn i’m fflat yn y Neuadd Breswyl yn ein hysbysu bod angen inni ddechrau ar y broses o chwilio cyn gynted ag y bo modd. Gwyliwch nad yw hyn yn creu rhyw fath o banig ichi fel ffrindiau. Pwrpas hwn yw i’ch ysgogi chi i ddechrau meddwl am y peth. Yn anffodus, mae’r neges anghywir yn cael ei throsglwyddo weithiau. Felly, peidiwch â rhuthro mewn i’r broses heblaw bod pob un ohonoch yn barod.
Bydd angen ichi ddewis gwerthwr yn gyntaf. Fe wnaethom ni ofyn i bobl oedd yn fyfyrwyr hŷn am eu profiadau nhw gyda gwerthwyr tai gwahanol. Yn y pen draw, fe ddewisom CPS. Ond, cofiwch fod angen ichi ystyried manteision ac anfanteision pob un. Yn ychwanegol, fe wnaethom ni edrych ar hysbysebion y gwerthwyr ar Facebook i helpu ni ddod at benderfyniad.
Wrth gwrs, nid yw’r broses wedi dod i ben eto. Mae angen i un aelod o’ch grŵp gysylltu er mwyn trefnu adeg lle y gallwch chi gyd ymweld â thai. Fe wnaethom ni geisio cael cymaint ohonom yna â phosib oherwydd yr ydych yn penderfynu ar y tai yr ydych am ymweld â hwy hefyd. Gwnewch yn siŵr bod pob un ohonoch ar gael i weld y tai er mwyn osgoi cymhlethdodau yn y pen draw.
Mis Chwefror oedd hi pan aethom ni ymweld â’r tai. Felly, dylai hynny ddangos ichi nad oes brys ichi arwyddo am dŷ. Diolch i’r drefn, dewisom 3 thŷ i ymweld â hwy, oherwydd cafodd un ei arwyddo amdano wrth inni ymweld â’r 2 dŷ arall. O hynny, peidiwch â rhoi’ch calon ar un o’r tai cyn ymweld â’r tai rhag ofn ichi ddigalonni os bod eich hoff un wedi cael ei arwyddo amdano erbyn ichi gyrraedd yno. Roeddem yn ffodus ein bod yn unfrydol wedi cytuno ar dŷ wedi’r ymweliad, gan ystyried lleoliad, pris ac adnoddau’r tŷ. Fodd bynnag, nid felly yw pob achos. Fy nghyngor gorau mewn achosion o’r fath yw cyfaddawdu lle y bo modd. Efallai y bydd gofyn arnoch i gymryd ymagwedd ddemocrataidd tuag at y sefyllfa a chynnal pleidlais.
Y Broses Arwyddo
Fel o’r blaen, roedd yn rhaid inni gytuno ar amser lle’r oedd pob un ohonom ar gael i arwyddo am y tŷ’n derfynol. Cawsom bwyslais i wneud hyn cyn gynted ag y bo modd cyn i rywun arall weld y tŷ ac arwyddo cyn ni. Bydd gofyn ichi baratoi ffurflen warantwr ar gyfer y diwrnod arwyddo gan eich rhiant/gwarchodwr. Bydd sawl cytundeb gennych i’w arwyddo, ac roedd angen inni benderfynu ar sefyllfa rhent ym misoedd Gorffennaf ac Awst. Hynny yw, oherwydd bod y misoedd hyn y tu allan i gyfnod prifysgol, mae’r gwerthwyr yn aml yn codi’r cwestiwn; a hoffech chi dalu hanner rhent neu rent llawn am Orffennaf ac Awst? I ni, teimlasom nad oedd yn mynd i greu defnydd digonol o’r tŷ dros yr haf, felly fe ddewisom ni dalu hanner rhent am y misoedd hynny. Yn ffodus i ni, mae un o’n ffrindiau’n astudio’r Gyfraith, felly roedd ef ar flaen y gad yn darllen pob cytundeb cyn arwyddo i sicrhau nad oes camgymeriadau. O’r herwydd, penderfynom mai ef oedd ein prif denant a bydd disgwyl ichi benodi un hefyd ar gyfer rhyw fath o linyn cyswllt rhwng y gwerthwyr a chi.
Symud Mewn
Nid oedd rhyw lawer o ddisgwyliadau arnom rhwng cyfnod yr arwyddo a symud mewn. Cawsom ambell ebost yn ein hysbysu o wybodaeth bwysig ond nid oedd angen gwneud dim mwy na’u darllen. O brofiad, byddwn i’n argymell ichi gysylltu gyda’r gwerthwr/perchennog tuag wythnos cyn symud mewn i sicrhau bod y tŷ’n barod ar eich cyfer erbyn ichi symud mewn. Cawsom brofiad eithaf rhwystredig ar y diwrnod cyntaf. Dywed ar y cytundeb y bydd y tŷ’n barod erbyn y 1af o Fedi 2019. Aeth fy ffrind i symud mewn ar y diwrnod hwnnw, ac roedd yna botiau paent ym mhob man gyda defnydd i sychu’r paent ar y lloriau. Yn ogystal, tynnodd luniau o fatresi yn y gegin gyda dail ar ei ben. Nid oedd un ffwrn yn gweithio nac yn lân. Hefyd, roedd lleithder yn un o’r ystafelloedd. Daeth i’r amlwg nad oedd y ddeufis o dalu hanner rhent wedi cael ei defnyddio i’w llawn gwerth. Fe wnes i symud mewn ar y 3ydd o Fedi ac nid oedd pob dim wedi’u datrys erbyn hynny ychwaith. Felly, ceisiwch gysylltu i wirio ymlaen llaw!