Skip to main content

CymraegLectures

Profiad o Addysg Cymysg

13 April 2021

Mae COVID-19 wedi gorfodi nifer o newidiadau o fewn cymdeithas a tydi addysg ddim yn eithriad. Rwyf eisioes wedi trafod fy mhrofiadau o addysg wyneb-yn-wyneb yn ystod y tymor cyntaf o’r flwyddyn hon, ond y tymor yma mae’r rhan fwyaf o fy narlithoedd i wedi bod ar-lein. Yn y blog yma, rwyf am amlinellu rhai o fanteision dysgu ar-lein ac addysgu cymysg (blended learning).

Mae fy narlithoedd ar-lein i gyd yn cael eu cynnal ar Zoom, platfform syml iawn sy’n hawdd i’w ddefnyddio a sy’n golygu fod posib canolbwyntio ar y cynnwys yn hytrach an phoeni am y dechnoleg. Mae rhai myfyrwyr yn hoffi’r ffaith bod ddim rhaid cerdded i ddarlithfa sy’n golygu fod ddim rhaid deffro mor fuan oherwydd mae mor syml a throi’r cyfrifiadur ymlaen a clicio ar linc i agor y ddarlith. Yn bersonol, dwi’n eithaf hoffi’r am dro y peth cyntaf yn y bore.

Darlith Zoom. Llun o unsplash.com (Nid Darlith Prifysgol Caerdydd)

Mae’r posibilrwydd i deipio cwestiynau i’r darlithwyr yn y blwch sgwrs ar Zoom yn golygu eu bod nhw’n gallu eu darllen unrhyw bryd felly does dim teimlad bod gofyn cwestiwn y tarfu ar y ddarlith sydd fel arfer yn golygu fod y cwestiwn ddim yn cael ei ofyn o gwbl.

Mae’r sleidiau ar gyfer fy narlithoedd fel arfer yn cael eu huwchlwytho i borth y Brifysgol (o’r enw Dysgu Canolog neu Learning Central) o flaen llaw. Rydw i’n tueddu i fynd trwy’r sleidiau cyn y ddarlith a chreu nodiadau yn seiliedig ar y sleidiau a byddaf yn gadael gofod ar gyfer ychwanegu nodiadau yn ystod y ddarlith. Mae hyn yn haws ar hyn o bryd oherwydd fy mod i wrth fy nesg fy hun yn gwylio darlithoedd yn hytrach nag yn ceisio ffitio popeth ar y desgiau bach yn y darlithfeydd.

Enghreifftiau o Nodiadau o Ddarlithoedd Ffarmacoleg

Wrth gwrs, wrth fod y mwyafrif o fyfyrwyr a darlithwyr yn gwario y rhan fwyaf o’u hamser wrth eu desgiau adref y dyddiau yma, a gyda thechnoleg fel Zoom a Microsoft Teams ar gael, mae’n hawdd iawn i drefnu cyfarfod heb orfod gadael y tŷ. Rydw i wedi cael cyfarfodydd gyda fy niwtoriaid personol ac fy nhiwtor ar gyfer fy mhrosiect gradd ymsang tra’n eistedd yn fy ystafell wely. Mae hyn yn golygu fod ddim angen cysidro’r amser mae’n gymryd i gerdded i’w swyddfeydd ac yn y blaen sy’n golygu fod ganddon ni fwy o amser i weithio. Mae pobl hefyd yn llai tebygol o anghofio am gyfarfod pan mae’n un rhithiol sydd yn eu calendr digidol.

Mae darlithwyr yn gwerthfawrogi fod y ffaith fod dim gymaint o addysg wyneb-yn-wyneb yn golygu ein bod ni ddim yn cael gymaint o gyfle i ofyn cwestiynau iddyn nhw. Ar y cwrs ffarmacoleg, mi wnaeth y darlithwyr drefnu sesiwn cwestiwn ac ateb i bob blwyddyn er mwyn i ni gael sgwrs am unrhyw elfennau o’r cwrs oedd yn ein pryderu. Mae sesiynau tebyg wedi bod yn cyffredin ar draws y brifysgol felly mae cymorth ar gael hyd yn oed os nad ydyn yn gweld ein gilydd wyneb-yn-wyneb.

Mae mynediad i dechnoleg cyfathrebu hefyd wedi newid y ffordd rydyn ni fel myfyrwyr yn cydweithio. Oherwydd fod llawer o ein haddysg ar-lein, tydyn ni ddim yn gallu gweld ein ffrindiau/cyd-fyfyrwyr mor aml. Er mwyn goresgyn hyn, mae’n bosib i ni drefnu cyfarfodydd digidol er mwyn ymarfer cyflwyniadau llafar, gwneud gwaith grŵp ac er mwyn trafod gwaith er mwyn gwella dealltwriaeth. Yn ogystal, oherwydd bod myfyrwyr o gyrsiau tebyg yn tueddu i fyw hefo’i gilydd ac oherwydd bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dysgu ar-lein, rydyn ni o amgylch ein gilydd yn y tŷ fwy ac felly mae’n bosib trafod gwaith wyneb-yn-wyneb gyda’r cyd-fyfyrwyr rydyn ni’n byw gyda nhw.

Darlithfa 1, Safle Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae’n rhaid i mi fod yn onest, mae’n well gen i ddarlithoedd wyneb-yn-wyneb, ac rydyn ni wedi cael rhai sesiynau o’r fath y tymor hwn ac mae’r brifysgol wedi gwerthfawrogi bod hyn yn beth pwysig. Yn ddiweddar, cafwyd sesiwn gweithdy wyneb-yn-wyneb mewn darlithfa. Mae’r sesiwn yma fel arfer yn cael ei gynnal mewn grwpiau bach ond doedd hyn ddim yn bosib gyda pellhau cymdeithasol. O ganlyniad, roedden ni i gyd yn eistedd mewn darlithfa fawr wedi ein gwasgaru ac yn gwisgo mygydau. Byddai’r darlithydd yn gofyn cwestiynau i’r grŵp cyfan ac roedd myfyrwyr yn awgrymu atebion cyn i’r darlithydd egluro’r ateb cywir. Gyda rhai o’r cwestiynau mwy heriol, roedden ni’n cael amser i ymchwilio’r ateb cyn i’r darlithydd ofyn ac awgrymiadau. Roedd hwn yn enghraifft dda o sut mae darlithwyr wedi addasu i’r cyfyngiadau er mwyn parhau i gynnig sesiynau wyneb-yn-wyneb effeithiol.

Rhaid nodi ei fod yn bwysig iawn i gael allan o’r tŷ ac mae’n llawer rhy hawdd i anghofio hyn rhai dyddiau. Ar y cyfan, rydw i ac fy ffrindiau rydw i’n byw gyda nhw yn dda am fynd am dro yn y nosweithiau er mwyn cael dipyn o awyr iach a gorffwys yr ymenydd.

Dau feddyg mewn mygydau. Llun o pexels.com

Cyn cloi, hoffwn nodi bod fy ffrindiau sy’n astudio Meddygaeth y flwyddyn hon yn parhau i fynd ar leoliadau ac mae ganddynt statws fel gweithwyr allweddol i alluogi hyn. Mae nifer o’r sesiynau dysgu yn digwydd ar-lein er mwyn diogelwch ond maent yn parhau i gael mynd ar wardiau ac i glinigau ac yn parhau i gael gymaint o brofiad â sy’n bosib wrth gysidro’r cyfyngiadau sy’n bodoli ar hyn o bryd ac yr effaith mae COVID-19 yn ei gael ar y system iechyd.

Gobeithio bod y blog yma wedi rhoi gwell syniad i chi o beth mae addysg cymysg yn y Brifysgol fel, rhag ofn fydd rhai agweddau o addysg cymysg yn gorfod parhau ym mis Medi (er nid yw’n glir os fydd hyn yn digwydd neu beidio eto). Rydw i o hyd yn hapus i ysgrifennu blog am unrhyw bwnc fyddech chi’n hoffi gwybod mwy amdano.