Y Manteision o Astudio Cymraeg yn y Brifysgol
12 November 2014Gan ei bod hi bellach yn dod yn amser penderfynu ar opsiynau prifysgol a’r math o gwrs yr ydych am ei ddilyn, dwi am gymryd y cyfle yma i son ychydig am y cyfleoedd a’r manteision sy’n deillio o ganlyniad i astudio’n Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru, ac yn benodol felly ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth wneud hynny, mi wna’i geisio’n ogystal waredu’r “mythiau” neu’r camsyniadau cyffredin a glywaf ynghylch astudio’n Gymraeg.
Yn gyffredinol, mae’n rhaid i bawb ddilyn gwerth 120 credyd o fodiwlau bob blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Eleni, yn ogystal ag astudio hanner o fy ngradd drwy’r Gymraeg ,wrth reswm, gan fy mod yn astudio’r Gymraeg fel pwnc, sy’n cynnig amrywiaeth eang o feysydd – o dechnoleg iaith i lenyddiaeth y 19eg Ganrif – yn ei hun, ‘rydw i hefyd yn astudio un modiwl Gwleidyddiaeth (20 credyd) cyfrwng Cymraeg. “Credoau’r Cymry” yw enw’r modiwl Gwleidyddiaeth hwnnw. Mae’n cael ei gynnig drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol- mi soniaf fwy am hynny mewn munud.
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol?
Tan yn ddiweddar iawn, prin ac anghyson a dweud y lleiaf oedd y ddarpariaeth Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Os meddyliwch am y peth am eiliad, sefyllfa ryfedd ar y naw ydy hi i rheiny sy’n penderfynu mynd i’r Brifysgol yng Nghymru, yn aml o gartrefi Cymraeg, sydd wedi derbyn eu haddysg o’r ysgol feithrin hyd Lefel A drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd yn cymdeithasu yn Gymraeg ac yn meddwl yn y Gymraeg, i ddod i’r brifysgol ac i iaith eu haddysg nhw newid dros nos.
Wedi brwydr hir a phoenus gan fyfyrwyr Cymraeg oedd yn gwrthod derbyn sefyllfa fel hon, sefydlwyd Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda’r nod o gysoni’r ddarpariaeth addysg Gymraeg ar draws prifysgolion Cymru. Roedd hi wironeddol yn gyfnod o fynnu addysg yn ein prifysgolion drwy’r Gymraeg. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd chywldro ym myd addysg uwch cyfrwng Cymraeg a’r diolch am hynny yn sgil sefydlu’r corff hwn sydd â phresonoldeb yn y rhan fwyaf o’n prifysgolion bellach. Mae nifer cynyddol o fodiwlau ar gael yn Gymraeg bellach, waeth beth fo’ch maes.
Cangen Caerdydd o’r Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg yn gweithredu ar sail gwahanol ganghennau sy’n gyfrifol am ehangu’r ddarpariaeth ar draws eu prifysgolion. Mae Cangen Caerdydd yn mynd o nerth i nerth gyda mwy a mwy o ddarlithwyr yn cael eu penodi yma dan nawdd y Coleg Cymraeg bob blwyddyn.
Os wnewch chi ddilyn y ddolen ganlynol, fe ddewch ar draws prospectws diweddara’r Coleg Cymraeg yn rhestru pynciau cyffredinol sy’n cael eu cynnig yn Gymraeg ledled prifysgolion Cymru a gallwch hefyd weld argaeledd y modiwlau hynny yma yng Nghaerdydd. Mae tudalen 74 o’r prospectws yn benodol am Gangen Caerdydd:
http://www.colegcymraeg.ac.uk/prosbectws/pdf/ccc_prosbectws2015_cy.pdf
Hefyd, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cyfleoedd astudio’n Gymraeg a chyfleoedd Cymraeg ehangach ar wefan Cangen Caerdydd:
http://www.cardiff.ac.uk/cy/coleg-cymraeg-cenedlaethol
Fel a soniais, dwi’n astudio modiwl Gwleidyddiaeth drwy’r Coleg Cymraeg eleni, sef “Credoau’r Cymry”. Mae’n debyg fy mod wedi fy nennu at y modiwl o ‘ddyletswydd’ ar y dechrau, ond waeth beth fo’r cymhelliant – diolch byth am hynny. ‘Rydw i wirioneddol yn mwynahu’r modiwl hwn- yn syml o ganlyniad i’r amrywiaeth a gynigir. Dyma ychydig o sylwadau fyddwn i’n eu gwneud:
NIFEROEDD “Nifer fechan sy’n astudio’n Gymraeg – mae’n gul”
‘Dydy hi fawr o syndod mai nifer fechan ohonom ni sy’n astudio’r modiwl hwn yn Gymraeg. Rhaid gofyn faint o siaradwyr Cymraeg sy’n astudio Gwleidyddiaeth beth bynnag. Ie, 5 sydd yn dilyn Credoau’r Cymry eleni sy’n dod â llu o fanteision. Dim ond 2 ohonom ni -Nia a finnau- sy’n astudio’r modiwl yma yng Nghaerdydd. Mae 3 myfyriwr arall ym Mangor yn dilyn y modiwl yn ogystal – drwy ddysgu “o bell” fel y dywedir. Rydan ni yn dod i Stiwdio’r Coleg Cymraeg ar brynhawniau Llun a Mawrth bob wythnos am y darlithoedd tra bo gweddill y criw yn gwylio’n darlith ni’n fyw ym Mhrifysgol Bangor.
Dyma lun o’r stiwdio gyfforddus (sori, dim y llun gorau- ond mae’r stafell yn neis!):
Ymhell o fod yn “gul”, ehangu gorwelion a wna astudio drwy’r Gymraeg a hynny mewn grwpiau bychan. Mae’n fodd o ddysgu mewn amgylchedd wahanol ac amrywiol i’r arfer a hefyd dod i gysytlliad â phobl hollol wahanol. Myfyrwyr mewn prifysgol 200 milltir i ffwrdd! Mae’r cyfeillion ym Mangor hefyd yn astudio cyfuniadau graddau gwahanol megis Athroniaeth a Chrefydd tra wyf i a Nia yng Nghaerdydd yn astudio’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth. Fel rwy’n dweud, ehangu gorwelion a thorri ffiniau (yn llythrennol ar draws prifysgolion!) a wneir yma a hynny mewn awyrgylch gyfangwbl Gymraeg a Chymreig.
Profiadau dysgu unigryw
Mae dysgu mewn grwp bychan yn gallu bod yn beth braf yn ei hun. Mae’n ehangu ystod y profiadau dysgu a gewch- byddwch yn datblygu perthynas agos â’ch cyfoedion a gyda’r darlithydd yn ogystal. Wedi’r cyfan mae hyn yn news at y drefn yn Rhydychen a Chaergrawnt ble mae myfyrwyr yn cael dosbarthiadau un wrth un â’u darlithwyr. Byddwn ni’n galw Huw, ein darlithydd wrth ei enw cyntaf yn hollol naturiol. Byddech chi byth yn gwneud hynny mewn modiwlau Gwleidyddiaeth eraill.
Yn amlwg, does dim modd cynnal seminarau gyda phob un ohonom yn bresennol oherwydd y pellter. Felly, rydym yn cyflwyno cofnod darllen wythnosol sydd wedi’u trefnu o gwmpas pynciau’r darlithoedd felly mae pawb yn gwybod beth maent yn ei wneud. Mae’r cofnodau darllen yn eu cyfanrwydd yn cyfrif am 20% o farciau’r modiwl. Mewn gwirionedd, mae hyn yn eich gorofodi i ddarllen llawer mwy yn annibynnol. Rhaid cyflyno rhain ar amser penodol bob wythnos a rhoir adborth llawn. Mae tueddiad i beidio gwneud yr holl waith darllen ar gyfer seminarau fel arfer gan wybod y byddwch yn gallu cael eich cynorthwyo gan eich cyd-fyfyrwyr. Mae’r drefn yma yn ysgogiad dda i un fel fi! Gan ddweud hynny, rydw i a Nia yn cwrdd â Huw yr wythnos nesa i grynhoi popeth hyd yma. Ar ddiwedd y tymor wedi hynny, byddwn yn cwrdd am ddeuddydd (cwrs preswyl) o seminarau dwys yn Aberystwyth i grynhoi’r cwrs yn ei gyfanrwydd a pharatoi ar gyfer y traethawd sydd i’w gyflwyno wedi’r Nadolig.
Mae’n braf cael cydbwysedd rhwng hyn â modiwlau eraill fwy ‘traddodiadol’ ac hefyd astudio’n Saesneg mewn 1 modiwl Gwleidyddiaeth ‘International Law’. Ychwnaegu a chyfoethogi’r profiad o astudio yn y brifysgol a wna addysg Gymraeg yn fy nhyb i.
ADNODDAU: “Hyd yn oed os yw’r dysgu yn Gymraeg, mae’r deunydd ychwanegol i gyd yn Saesneg.”
Na. Yn aml i wythnos, mae un darn darllen yn cael ei osod inni ar ffurf PDF ar y we yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg. Does dim hyd yn oed rhaid mynd i nol yr adnoddau o’r llyfrgell ac mae’n fodd o ddatblygu sgiliau trawsieithu gan fod rhaid cyflwyno’r Cofnod Dysgu yn Gymraeg.
AMRYWIAETH: “But I did it in school…”
Er i mi astudio pynciau fel Hanes drwy’r Gymraeg hyd at TGAU yn yr ysgol, rydym yn dod ar draws meysydd na soniwyd amdanynt mewn unryw sylwedd erioed yn yr ysgol. Rwy’n sôn am ffigyrau fel Glyndwr, Hywel Dda a Thywysyogion Gwynedd a sut y daethom ni’r Cymry i fodolaeth. Yn annatod, wrth astudio athroniaeth Gymreig, mae’n rhaid bwrw golwg ar y cyd-destun ehangach yn hanes Cymru a gosod hynny yn ei gyd-destun rhyngwladol. Mae’n hollol newydd a ffres. Yn aml, mae dod at rywbeth yn ei gyd-destun Cymreig yn plethu â phynciau eraill a astudiwyd ac yn fodd o gwneud i’r ‘geiniog syrthio’ fel petai.
Mae astudio drwy’r Gymraeg hefyd yn gallu bod yn offeryn ar gyfer amrywiaeth pynciol. Er enghraifft, am fy mod yn astudio gradd gyfun mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth, fel rheol, byddai’n rhaid glynnu at y meysydd hynny. Fodd bynnag, gyda’r modiwl Cymraeg “Credoau’r Cymry” – yn yr adran Athroniaeth y mae’r darlithydd wedi leoli ac fe gynigir y modiwl fel rhywbeth y tu hwnt i arlwy’r Adran Wleidyddiaeth. Cyflwynir y modiwlau Cymraeg yn fwy creadigol ac ar draws ffiniau pynciol cyffredin. Mae’r fodiwl hefyd yn cyffwrdd yn drwm ar hanes Cymru ac ar grefydd a diwinyddiaeth. Dyma fodiwl Gwleidyddiaeth sy’n ymdrin â meysydd na fyddwn fyth wedi gallu’u hastudio pe bawn i’n astudio Gwleidyddiaeth yn Saesneg yn unig. Mae’n fodiwl Cymreig yn ogystal â Chymraeg, a gresyn, prin o beth yw hynny mewn prifysolion yng Nghymru. Unwaith eto, mae hyn yn cynnig chwa o awyr iach o’r modiwlau arferol.
MYNNA DDYSG YN DY IAITH! : “Dydw i ddim eisiau protestio i dderbyn addysg…”
Efallai fy mod wedi camarwain (yn fwriadol felly!) gyda theitl y blogiad yma. Bu’n rhaid i do o fyfyrwyr y gorffennol ‘fynnu’ dysg yn eu hiaith ond peidiwch â phoeni- ar y cyfan, does dim disgwyl i chi brotestio i gael chwarae teg wrth dderbyn eich haddysg yn Gymraeg mwyach. Mae’r Brifysgol yn awyddus i gynnig mwy a mwy o ddarpariaeth Gymraeg gan bod targedau llym arnynt gan y Llywodraeth a’r Cyngor Cyllido i wneud hynny. Maent am weld addysg Gymraeg yn llwyddiant a gweld bodlodeb uchel ymhlith myfyrwyr â holl ddysgu’r sefydliad. Mae hi’n sefyllfa o ‘fanteisio’ar ddysg yn eich hiaith bellach, yn hytrach na mynnu !
Rydw i’n gobeithio bod y blog yma wedi rhoi rhyw syniad i chi ynghylch astudio’n Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Cofiwch fy mod i wedi seilio’r blog ar fy mhrofiadau i, felly da chi ewch ati i ddilyn y dolenni ac ymchwilio i’r arlwy a gynigir mewn meysydd arall pe na bai chi’n ystyried y Gymraeg/Gwleidyddiaeth. Mae 118 o fodiwlau i’w cael i gyd…felly does dim prinder dewis!