Skip to main content

CymraegExamsThird year

Asesiadau yn Ystod COVID-19

10 March 2021

Rwyf eisioes wedi trafod fy mhrofiadau o addysg wyneb-yn-wyneb yn ystod fy ngradd ymsang y flwyddyn hon, ond beth am asesiadau ac arholiadau? Yn y blog yma, rwyf yn bwriadu ceisio egluro sut oedd asesiadau yn arfer digwydd a sut mae hyn wedi newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Byddaf yn disgrifio fy mhrofiadau i ar y cwrs Ffarmacoleg a phrofiadau rhai o fy ffrindiau sydd yn dal i wneud y cwrs Meddygaeth ar hyn o bryd.

Ffarmacoleg

Mae Ffarmacoleg yn gwrs sydd yn cael ei rannu yn fodiwlau. Yn y tymor cyntaf, mi wnes i astudio modiwlau oedd yn ymdrin â sut mae meddygyniaethau newydd yn cael eu treialu, sut mae’r system imiwnedd yn gweithio a sut mae rhai meddygyniaethau newydd ar gyfer rhai cyflyrau niwrolegol a seiciatrig yn gweithio. Y tymor yma, rwyf yn astudio modiwlau mewn geneteg, meddygaeth cardiofasgwlar ac imiwnotherapi. Mae’n rhaid hefyd cwblhau prosiect ymchwil fel rhan o’r radd ymsang.

Mae’r modiwlau yma wedi cynnwys sawl math gwahanol o asesiad yn cynnwys traethodau, cyflwyniadau a phosteri. Roedd arfer bod arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd pob modiwl oedd yn cael ei sefyll mewn neuadd arholiad ac yn parau cwpl o oriau. Dyma ble mae’r prif newid wedi bod oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Mae’r arholiadau yma nawr yn draethodau sy’n cael eu hysgrifennu ar ddiwedd y modiwlau a rydyn ni’n eu hysrifennu nhw adref. Mae’r cwestiynau yn cael eu rhyddhau ac yna rydyn ni’n cael nifer o wythnosau i ysgrifennu ein atebion. Mae’n braf gallu edrych ar nodiadau a gwneud ymchwil ar y we tra’n ysgrifennu’r atebion ac mae hyn yn ein galluogi i ddysgu mwy am y pwnc pan yn ysgrifennu’r traethawd yn hytrach na cheisio cofio popeth ac ysgrifennu gymaint â rydyn ni’n ei gofio, fel mewn arholiad.

Llun o Unsplash

Mae’r ffordd rydyn ni’n cwblhau asesiadau ar ffurf cyflwyniad llafar hefyd wedi newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Yn draddodiadiol, mi fyddai pob myfyriwr yn mynd i ystafell yn eu tro ac yn cyflwyno i aseswyr. Hyd yn hyn, rydw i wedi cwblhau asesiadau ar ffurf cyflwyniad mewn dau ffordd y flwyddyn hon. Yn gyntaf, recordio’r cyflwyniad a’i yrru i gael ei wylio a’i farcio ac yn ail, cynnal y cyflwyniad ar alwad Zoom. Mae dau brif wahaniaeth rhwng y ddau gyfrwng yma. Pan caiff cyflwyniad ei recordio, mae’n bosib dileu recordiad a chychwyn eto: Nid yw hyn yn bosib pan mae’r darlithwyr yn gwylio ar ochr arall i linell Zoom. Hefyd, mewn cyflwyniad Zoom, mae’n bosib i ddarlithwyr ofyn cwestiynau ar ddiwedd y cyflwyniad sy’n asesu ein gallu i feddwl y sydyn ac mae’n golygu fod angen adolygu’r cynnwys cyn rhoi’r cyflwyniad.

Meddygaeth

Mae dau brif fath o arholiad ar y cwrs Meddygaeth: arholiad ysgrifenedig ac arholiad clinigol. Mae fy ffrindiau sydd ym mlwyddyn 4 o’r cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd (y flwyddyn fyddai yn mynd iddi flwyddyn nesaf ar ôl cwblhau fy ngradd ymsang) yn gwneud y ddau fath o arholiad yma y flwyddyn hon.

Caiff yr arholiadau ysgrifenedig maent yn eu cwblhau eu galw yn brofion cynnydd (progress tests). Mae 140 o gwestiynau ble mae 5 opsiwn posib ar gyfer pob cwestiwn. Yn wahanol i fy asesiadau i sydd yn cael eu cwblhau adref, mae’r profion cynnydd yn parhau i ddigwydd mewn neuaddau arholiad. Yn hytrach nag ateb y cwestiynau ar bapur fel oedd yn digwydd yn draddodiadol, mae’n rhaid iddyn nhw fynd â chyfrifiadur hefo nhw ac ateb y cwestiynau ar wefan arholi diogel. Mae’r myfyrwyr yn cael prawf am COVID-19 trwy wasanaeth sgrinio’r brifysgol ychydig o ddyddiau cyn yr arholiad ac mae pawb yn gwisgo gorchudd wyneb yn ystod yr arholiad. Mae pellter rhwng myfyrwyr wedi bodoli mewn arholiadau ers amser, wrth gwrs.

Llun o Unsplash

Mae’r arholiadau clinigol (elwir yn ISCEs, neu mewn rhai ysgolion meddygol eraill, OSCEs) hefyd yn parhau i fod mewn-person yng Nghaerdydd. Dyma’r arholiad ble mae myfyrwyr yn cael eu hasesu ar eu gallu i cyfathrebu gyda a cynnal archwiliadau corfforol ar gleifion a dehongli canlyniadau archwiliadau a llunio cynlluniau triniaeth. Er mwyn cynnal iechyd a diogwlech yn ystod COVID-19, mae’r actorion sy’n chwarae’r cleifion, y myfyrwyr a’r arholwyr yn gwisgo offer amddiffynnol personol yn cynnwys gorchudd wyneb, ffedog a menyg ac mae pellter priodol yn cael eu gynnal ble yn bosib.

Gobeithio bod y blog yma wedi rhoi gwell syniad i chi o sut mae asesiadau yn gweithio yn yr ysgol feddygol ac ar y gradd ymsang ffarmacoleg a sut mae pethau wedi newid oherwydd COVID-19. Fel arfer, rwyf yn hapus i ysgrifennu blog am unrhyw bwnc, sy’n ymwneud â Chaerdydd neu’r ysgol feddygol, mae ganddoch chi ddiddordeb ynddo, felly gadewch i mi wybod yn y sylwadau isod.