Noson Gymraeg Fisol Clwb Ifor Bach
31 October 2014![](https://blogs.cardiff.ac.uk/insiders/wp-content/uploads/sites/523/2016/11/logo190x70.jpg)
Ymddiheuriadau mai rwan ydw i’n blogio am nos Lun, ond dwi’n meddwl ei bod hi wedi cymryd tan rwan i mi adfer! Do, fe ddechreuodd noson Gymraeg fisol newydd Clwb Ifor Bach mewn steil go iawn. Tawelwch llethol, yn hytrach na TWRW, a ddaeth dros y ty yma fore Mawrth, fel tai llawer o’r myfyrwyr Cyrmaeg eraill rwy’n tybio!
Fel myfyriwr Cymraeg, rydych chi’n siwr o alw draw yng Nghlwb Ifor o dro i dro, ar gyfer gigs Cymraeg neu ar ddiwedd Crôl Teulu’r Gym Gym, ond doedd dim digwyddiad rheolaidd a phenodol ar gyfer myfyrwyr yno.Tan eleni. Mae’r Gym Gym, ar y cyd â’r Clwb, wedi mynd ati i sefydlu noson Gymraeg fisol, fel sydd ganddynt ym Mangor ac Aberystwyth yn Clwb Cymru a Swn, yn dathlu’r gorau o’r sin gerddoriaeth Gymraeg o’r clasurol i’r cyfoes. Braf o beth yw gweld adfer y berthynas arbennig honno rhwng y Clwb â’r myfyrwyr Cymraeg gan gofio’r holl hanes dros y blynyddoedd.
Nos Lun olaf bob mis y bydd TWRW’n digwydd o hyn allan. Bydd thema arbennig bob wythnos o ran gwisg. ‘Gwisg ysgol’ oedd y thema erbyn y tro cyntaf ‘ma ac roeddwn yn falch tu hwnt o gael gofyn i fy rhieni anfon tei Ysgol David Hughes (fy ysgol uwchradd) i lawr ar frys! Bu’r tei gen i drwy’r flwyddyn gyntaf ond ni ddaeth cyfle ar unrhyw grôl i’w wsigo! Top tip ichi felly…cadwch dei eich cyn-ysgol wrth law ac yng Nghaerdydd drwy’r tymor! ‘Dydych chi byth yn gwybod pryd fydd ei angen! Ond, wrth lwc, cyrhaeddodd y tei mewn pryd, ac yn saff yn y post!
Gan nad oedd y noson yn dechrau tan 10 o’r gloch, roedd digon o amser i yfed cyn mynd allan yn y ty a thynnu ambell lun- fel petaem yn dechrau yn y chweched unwaith eto! Roedd cynrychiolaeth o deis o ysgolion David Hughes, Bro Pedr, Dyffryn Teifi a Phenweddig i’w gweld yn ein ty ni nos Lun…a dyma lun ohonom ni blantos David Hughes yn barod am yr ysgol:
Roedd y noson yn wych a gwnaeth pawb (rhai fwy na’i gilydd…) fwynhau dawnsio’n feddw – diolch i’r diodydd rhad oedd ar gael – i’r clasuron a’r cyfoes fel ei gilydd. Erbyn diwedd y noson gyda Cheidwad y Goleudy yn atsain i’r strydoedd ac “I’r Gad” Dafydd Iwan yn fyw yn ein calonau rwy’n siwr bod ambell un wrth ymlwymbro fyny’r stryd o’r Clwb tuag at y Castell yn meddwl meddiannau’r Castell fel Ifor Bach yntau yn y ddeuddegfed ganrif!
Neithiwr roedd hi’n ‘Noson Dalu’ ar gyfer y Ddawns Ryng-golegol fyny yn Aberystwyth, sef y digwyddiad mawr nesaf fydd ar ein gwarthaf ymhen ychydig wythnosau bellach. Fel y gwelwch felly, mae digon o ddigwyddiadau Cymraeg i’w cael – gwleddd yn wir. Fel y mae sefydlu twrw yn ei ddangos mae’r arlwy yn parhau i ddatblygu ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Caerdydd.