10 Peth Gorau i’w gwneud yng Nghaerdydd
3 October 2019Croeso enfawr ichi i Gaerdydd! Dyma ddinas fywiog sy’n llawn pethau i’w gwneud. Ond mae ganddi hefyd elfennau cyfeillgar sydd yn addas i bawb!
Dyma restr amrywiol o bethau i’w gwneud yn ystod eich cyfnod yn y ddinas.
- Ymweld â’r Parciau
Ceir, yng Nghaerdydd, lu o barciau hyfryd. Gan amlaf, byddai nifer yn dadlau bod hyn yn gwneud i Gaerdydd sefyll allan o gymharu â dinasoedd prysur fel Llundain. Dyma un o nodweddion mwy ‘trefol’ y ddinas sydd yn cynnig rhyw fath o ddihangfa o rinweddau dinesig yr ardal. Boed ichi ymlwybro’r parciau ar ben eich hun neu mewn grŵp o ffrindiau, bydd hyfrydwch y golygfeydd yn eich denu’n ôl dro ar ôl tro. Mae angen amser i fyfyrio ar bawb, a pha ffordd well nac ymweld â pharciau Caerdydd. Fy hoff barciau, yn bersonol, yw parciau Bute a Roath.
2. Bae Caerdydd
Dyma un o ardaloedd mwyaf eiconig Caerdydd. Ni fydd gennych brofiad cyflawn o Gaerdydd heb ymweld â’r bae. Yn y lle cyntaf, mae yma gasgliad enfawr o fwytai sydd- yn llythrennol- at ddant pawb. Cynigir amrywiaeth o Wetherspoons i Las Iguanas. Fel rhywun sy’n astudio Cerddoriaeth, rwyf yn treulio llawer o amser yng Nghanolfan Mileniwm Cymru sydd, o hyd yn dangos rhywfath o sioe; gan gynnwys sioeau cerdd, operâu a dramâu. Peidiwch ag anghofio archebu tocynnau myfyriwr wrth ymweld! Os yn bosib (yn enwedig gyda’r operâu a’r dramâu), chwiliwch/gofynnwch bryd y mae’r ‘Open Dress Rehearsals’, oherwydd bod y rhain yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd. Os yw gwyddoniaeth yn cymryd eich pryd, beth am ymweld â’r Techniquest? Cewch gyfle hefyd am daith o amgylch y Senedd yn y bae hefyd, gyda gwleidyddiaeth ein gwlad yn bwysicach nawr nag erioed o’r blaen.
3. Treetop Advernture Golf
Un o fy hoff leoliadau. Dyma fusnes sydd hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fanteisio’n ariannol. Ceir yma her hwyl o’r lleiaf medrus i’r Tiger Woods yn eich plith. Mae hyn hefyd yn syniad da er mwyn ‘bondio’ os ydych yn chwilio am weithgaredd fel fflat neu dŷ, neu hyd yn oed os ydych am dreulio mwy o amser gyda ffrindiau’ch cwrs. Ond nid yw’r hwyl yn dirwyn i ben ar ôl 18 twll, mae yna fwyd a diod hefyd ar gael i’w cymryd.
4. Canolfan Siopa Dewi Sant
Os ydych yn manteisio ar y cyfle i fynd i chwarae ‘mini golf’, fe fyddai’n hurt ichi beidio â dangos eich wyneb i weddill y busnesau yn y ganolfan. Fel yn y bae, ceir llwyth o fwytai yma! Fe welwch nifer o siopau’r stryd fawr ar wasgar, yn ogystal â Build-a-Bear. Ar yr ymweliad cyntaf, mae’r ganolfan fel drysfa a gallwch dreulio oriau’n darganfod yr hyn sydd gan y ganolfan i’w chynnig. Mae’n bosib bod gennych gyfrif UniDays neu NUS. Os felly, beth am ichi weld beth sydd ar gael yn y ganolfan y medrwch fanteisio ar ostyngiadau arnynt? Er hyn, peidiwch â gwneud ymweliad dyddiol i’r lleoliad!
5. Castell Caerdydd
Ond tafliad carreg o Ganolfan Siopa Dewi Sant, dyma un o gestyll enwocaf a mwyaf Cymru. Fe’i lleolwyd nid nepell o fwrlwm canol y dre. Ceir yma lu o arddangosfeydd yn ogystal â chaffi hyfryd. Os ydych yn hynod o brysur o ddydd i ddydd gyda’ch cwrs, peidiwch â phoeni- mae’r castell ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Os yw’r castell yn eich denu’n ôl sawl tro, beth am gael tocyn tymor? Fel pob dim arall, bydd yna ostyngiad ar eich cyfer fel myfyriwr!
6. Sain Ffagan
Os ydych yn awyddus i grwydro ychydig y tu hwnt i ganol y ddinas, dyma leoliad delfrydol. Pentref clos yw Sain Ffagan sy’n enwedig am ei amgueddfa. Amgueddfa Werin a geir yma sy’n crisialu hanes y Cymry gwerinol ar hyd y blynyddoedd gyda mwy yn cael ei ychwanegu i’r amgueddfa o flwyddyn i flwyddyn. Peidiwch â threulio oriau yn y dderbynfa yn chwilio am rywle i dalu, mae mynediad am ddim. Ac yng ngwir ysbryd atyniadau Cymreig, ceir yma gaffi neis hefyd.
7. Stadiwm y Principality
Mae Caerdydd yn gartref o lawer o chwaraeon Cymreig. Pa le sy’n well i arddangos chwaraeon y wlad nag yn y stadiwm eiconig hwn. Ond nid chwaraeon yn unig a gaiff ei arddangos yma. Ceir yma hefyd gyngherddau – gydag enwogion megis Ed Sheeran wedi perfformio yn y stadiwm yn y gorffennol – a chwaraeon modur i grybwyll ond ychydig.
8. Mynd i’r Dafarn
Petawn am nodi rhestr o bob tafarn sydd yng Nghaerdydd, byddwn i yma am oesoedd yn ei hysgrifennu a byddwch chi yma am oriau yn ei darllen. Y pwynt yw, bydd tafarn ar stepen eich drws yn fwy na thebyg. Mae’r ystrydeb yn wir, mae myfyrwyr yn hoff iawn o dreulio ychydig o amser mewn tafarnau wedi diwrnod hir o ddarlithoedd. Gan amlaf, ceir ynddynt amrywiaeth o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn (yn aml yn wythnosol) megis, Karaoke, noson gwis, gwylio chwaraeon ayb. Dyma hafan i fyfyrwyr ymlacio a chymdeithasu trwy roi’r byd yn ei le. Yn ogystal, ceir croeso yma boed ichi yfed alcohol neu beidio. Fe wnewch fy ngweld i yn diota llawer yn y Woodville yn fy amser hamdden.
9. Gŵyl y Gaeaf/Winter Wonderland
Efallai nid yw hwn mor agored i bob adeg o’r flwyddyn. Fodd bynnag, mae myfyrwyr yn eu helfen bob tro y mae ‘Winter Wonderland’ ar agor yn y ddinas. Fe fydd hwyl yr ŵyl hon yn ychwanegu i’ch ysbryd Nadoligaidd ac wrth i’r dyddiau nosi yn gynt. Ceir yma fynediad am ddim sydd yn nodwedd ffafriol gan y myfyrwyr. Os ydych yn ddigon hyderus i sglefrio ar yr iâ, ceir gostyngiad ar gyfer myfyrwyr yma hefyd. Dyma gyfle i chi a’ch cyd-fyfyrwyr fwynhau dros siocled poeth neu win twym. Siawns perffaith ichi dynnu’r llun gorau ar gyfer eich proffil ar-lein.
10. Clwb Ifor Bach
I le y mae myfyrwyr Cymraeg Caerdydd yn ffoi ar nos Sadwrn? I Glwb Ifor Bach! Dyma glwb nos sydd wedi bodoli ers degawdau bellach ac wedi cynnig blynyddoedd o hwyl a sbri o’r cychwyn. Bydd y rhai di-gymraeg yn eich plith yn fwy cyfarwydd ag enw’r clwb fel ‘Welsh Club’ sydd yn ddigon teg ar sawl lefel, oherwydd ein bod ni oll yn ymgasglu gyda’r nos yma ar y penwythnos! Dyma safle sydd yn aml yn cynnig gigs Cymraeg o’ch hoff fandiau drwy gydol y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth ynghylch rhai o’r artistiaid sydd wedi perfformio yno yn y gorffennol, ewch i’r ystafell gyntaf ac fe welwch restr ddiddiwedd o artistiaid cyfarwydd. Peidiwch â gadael heb ymweliad hollbwysig i’r ‘photobooth’!