Skip to main content

Sefydliad Arloesedd Diogelwch Troseddu a Chudd-wybodaethSefydliadau Arloesedd ac Ymchwil y Brifysgol

Sylwi ar arwyddion rheolaeth drwy orfodaeth: rôl gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

10 Mai 2024

 

Gall rheolaeth drwy orfodaeth gael effaith ddinistriol ar y rhai sy’n dioddef ganddi, ac mae sylwi ar yr arwyddion yn gynnar yn hollbwysig. Yn y blog hwn, mae Dr Anna Sydor, sy’n Uwch-ddarlithydd Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd, yn amlinellu’r ymchwil y bydd yn ei gwneud i sut y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn enwedig bydwragedd, nodi a chefnogi’r rhai sy’n dioddef gan reolaeth drwy orfodaeth.

Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn cyfeirio at batrwm o ymddygiad mynych mewn perthynas bersonol sy’n gwneud i’r dioddefwr deimlo ei fod yn cael ei reoli, ei fygwth, ei ynysu neu ei gam-drin, neu ei fod yn ddibynnol ar y person sy’n ymddwyn yn y fath ffordd. Mae’r mathau o ymddygiad sy’n gyffredin ymhlith y rhai sy’n rheoli drwy orfodaeth yn cynnwys ynysu’r dioddefwr oddi wrth ei deulu a’i ffrindiau, rheoli gallu’r dioddefwr i gael gafael ar ei arian a sut mae’n ei wario, monitro beth mae’r dioddefwr yn ei wneud ac i ble mae’n mynd, gwneud sylwadau sy’n bychanu ac yn diraddio, a bygwth niwed corfforol.

Cofnodwyd 43,774 o droseddau rheolaeth drwy orfodaeth gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr (nad yw’n cynnwys Dyfnaint a Chernyw) yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. Mae rheolaeth drwy orfodaeth wedi bod yn drosedd ers 2015, ond gall fod yn anodd ei nodi ac yn heriol erlyn unigolion oherwydd natur ddirgel y drosedd, sy’n golygu bod gwir nifer y dioddefwyr yn anhysbys. Mae rheolaeth drwy orfodaeth i’w chael yn y rhan fwyaf o achosion o gam-drin domestig, ond ceir enghreifftiau ohoni lle nad oes unrhyw drais na niwed corfforol i’r dioddefwr. Gallai waethygu unrhyw bryd a throi’n dreisgar, ac fel arfer, ceir enghreifftiau o reolaeth drwy orfodaeth mewn achosion o laddiad gan bartner agos.

Yr effaith ar y dioddefwyr

Gall unrhyw un ddioddef gan gam-drin domestig neu reolaeth drwy orfodaeth, ond mae’n effeithio’n anghymesur ar fenywod. Gallai hyn fod oherwydd normau cymdeithasol a hefyd fathau o ymddygiad a rolau rhywedd sydd nid yn unig yn cael eu hystyried yn arferol ond sydd wedi hen ymwreiddio.

Gall rheolaeth drwy orfodaeth gael effaith ddinistriol a pharhaol ar les meddyliol a chorfforol y rhai sy’n dioddef ganddi, gan gynnwys unrhyw blant a allai fod ganddynt. Gall y dioddefwyr ddatblygu problemau iechyd corfforol a meddyliol hirdymor a hefyd strategaethau ymdopi negyddol, megis camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, sydd weithiau’n arwain at farwolaeth neu hunanladdiad. Gall rheolaeth drwy orfodaeth hefyd gael effaith ar ddatblygiad ac iechyd meddwl plant, yn ogystal â niweidio’r berthynas rhwng y dioddefwr a’i blant.

Mae’n bosibl nad yw’r dioddefwyr yn gwybod nac yn deall beth sy’n digwydd iddynt. Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn digwydd yn breifat. Mae person sy’n rheoli drwy orfodaeth yn aml yn ymddwyn yn wahanol o flaen pobl eraill, ac mae natur y cam-drin yn tanseilio’r dioddefwr i’r graddau nad yw’n teimlo’n hyderus bod problem. Gallai’r dioddefwr gael ei ynysu i’r graddau mai ychydig o bobl sydd ar gael i drafod materion gyda nhw, sy’n golygu mai’r person sy’n ei reoli drwy orfodaeth fydd ei unig ffynhonnell gwirionedd. Hefyd, efallai mai dyma’r berthynas gyntaf neu’r unig berthynas i’r dioddefwr ei chael, sy’n peri iddo gredu bod ei brofiad yn gyffredin ac yn arferol.

Ymchwilio i rôl gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cwrdd â llawer o bobl, sy’n golygu efallai y byddant yn gallu gweld arwyddion o broblem neu gam-drin mewn perthynas. Er bod dulliau’n bodoli i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i nodi a chefnogi’r rhai sy’n dioddef gan gam-drin domestig corfforol, mae’n anoddach nodi rheolaeth drwy orfodaeth oherwydd ei bod yn digwydd yn gynnil ac nad yw’r dioddefwr o reidrwydd yn sylweddoli ei bod yn digwydd.

Nid yw’n glir eto sut y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol helpu’r dioddefwyr i nodi beth sy’n digwydd iddynt, na pha ymyriadau a allai fod o gymorth i’r dioddefwyr a’u plant ar ôl nodi rheolaeth drwy orfodaeth. Fodd bynnag, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn sefyllfa ddelfrydol i nodi achosion o gam-drin a rheolaeth drwy orfodaeth, a hynny gan ei bod yn bosibl iddynt weld arwyddion wrth roi gofal arferol i’r dioddefwr neu drafod pryderon y dioddefwr am ei iechyd ei hun/ei blentyn (yn achos bydwraig neu ymwelydd iechyd sy’n ymweld, er enghraifft).

Yn rhan o’m cymrodoriaeth ymchwil ôl-ddoethurol, rwy’n mynd i gynnal adolygiad cwmpasu a fydd yn chwilio’n systematig am dystiolaeth a’i choladu, a hynny i weld beth rydym yn ei wybod am nodi achosion o reolaeth drwy orfodaeth a sut y gallwn gefnogi’r dioddefwyr. Bydd hyn yn cael ei wneud ar y cyd â Chanolfan Cymru ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth a’i hwyluso gan grŵp llywio sy’n cynnwys pobl â phrofiad bywyd o reolaeth drwy orfodaeth, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac unigolion eraill sy’n gweithio gyda’r rhai sydd wedi dioddef gan gam-drin. Yn aml, yn ystod beichiogrwydd yw pryd mae cam-drin yn dechrau neu’n gwaethygu. Oherwydd hynny, mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn y gall bydwragedd ei wneud yn ystod beichiogrwydd i nodi rheolaeth drwy orfodaeth a chefnogi’r menywod sy’n dioddef ganddi.

Cefnogi’r dioddefwyr

Mae’r adolygiad hwn yn cael ei ariannu gan Wellbeing of Women, Coleg Brenhinol y Bydwragedd ac Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett, a dyma’r cam cyntaf yn rhan o raglen ymchwil. Os caiff dull a/neu ymyriad ei nodi, efallai y bydd angen ei addasu a’i brofi wedi hynny at ddibenion ei ddefnyddio mewn gwahanol leoliadau gofal iechyd a chan wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol. O ystyried mai yn ystod beichiogrwydd yw pryd mae cam-drin yn gwaethygu, lleoliad sy’n rhoi gofal cyn-geni fyddai’r lleoliad gofal iechyd cyntaf addas ar gyfer dull wedi’i ddatblygu. Bydd datgelu profiadau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda’r dioddefwyr ac yn nodi problemau hefyd yn bwysig, gan y bydd hyn yn llywio sut maent yn defnyddio dulliau neu ymyriadau.

Yn y bôn, yr adolygiad hwn yw’r cam cyntaf i ddatblygu ffyrdd o gefnogi’r dioddefwyr a nodi problemau’n gynt, a hefyd roi cymorth i’r dioddefwyr i’w galluogi i wneud penderfyniadau ynghylch eu bywydau. Gallai gwneud hyn leihau effaith hirdymor y math hwn o gam-drin ond hefyd atal rheolaeth drwy orfodaeth rhag gwaethygu a throi’n fathau eraill o gam-drin.

 

Hoffwn ddiolch i’r Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth am gefnogi camau cychwynnol yr ymchwil hon drwy’r cynllun ariannu Kickstarter. Roedd y cyllid a gefais o gymorth wrth hwyluso cyfarfod cychwynnol i gasglu mewnbwn gan randdeiliaid a hefyd wrth baratoi fy nghais am gymrodoriaeth i ariannu’r adolygiad cwmpasu. I gael rhagor o wybodaeth am waith y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth, ewch i’w wefan. Fel arall, gallwch ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Os hoffech gael gwybod am unrhyw gyfleoedd ariannu sy’n cael eu cynnig gan y sefydliad yn y dyfodol, cysylltwch ag Elise Barker – SCIII@caerdydd.ac.uk