A yw profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc?
7 Chwefror 2024Sut mae cael eich ynysu oddi wrth bobl ifanc eraill yn berthnasol i broblemau iechyd meddwl? Yn y blog hwn, mae Dr Katherine Thompson, cydymaith ymchwil ôl-ddoethurol sy’n ymchwilio i fodelau ystadegol i ragweld iselder ym Mhrifysgol Purdue yn yr Unol Daleithiau, yn trafod ei hymchwil PhD yn y maes hwn. Tynnwyd sylw at yr ymchwil hon yn Narlith Gyhoeddus The Waterloo Foundation yn 2023, a gyflwynwyd gan y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl.
Gyda phandemig byd-eang COVID-19 yn gorfodi pobl i fod ar wahân, mae’r ffocws ar arwahanrwydd cymdeithasol yn fater iechyd cyhoeddus wedi cynyddu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Gall cysylltiadau cymdeithasol, a’r cydberthnasau sy’n deillio o’r cysylltiadau hyn, ddarparu cefnogaeth, cwmni, ac arweiniad i lywio bywyd bob dydd. Mae ymchwil ym mhob maes y gwyddorau ymddygiadol wedi dangos bod profiadau cymdeithasol person yn gysylltiedig â’u hiechyd meddwl a chorfforol.
Gallai diffyg, neu hyd yn oed absenoldeb, cysylltiadau cymdeithasol, a elwir yn arwahanrwydd cymdeithasol, gael effaith pellgyrhaeddol ar ganlyniadau iechyd hirdymor. Mae llawer o astudiaethau wedi canolbwyntio ar sut mae oedolion sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol yn wynebu mwy o risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl. Fodd bynnag, gallai hyn fod hyd yn oed yn fwy perthnasol i blant a phobl ifanc ar adeg pan fo cydberthnasau yn chwarae rhan allweddol yn eu datblygiad. Yn ôl y cyngor diweddaraf gan Lawfeddyg Cyffredinol yr Unol Daleithiau ar heriau iechyd cyhoeddus sylweddol sy’n gofyn am ymwybyddiaeth a gweithredu ar unwaith, mae arwahanrwydd cymdeithasol yn flaenoriaeth frys er mwyn gwella iechyd.
Defnyddiodd fy ngwaith PhD ddata hydredol manwl i ddeall yn well y cysylltiad rhwng arwahanrwydd cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Dangosodd fy nghydweithwyr a minnau yng Nghanolfan SGDP King’s College Llundain ei bod yn bwysig ystyried sut y gall profiadau cymdeithasol newid dros amser, a bod arwahanrwydd cymdeithasol nid yn unig yn ffactor risg ond y gellid ei ystyried hefyd yn ganlyniad i broblemau iechyd meddwl, neu’r ddau.
Mae pobl ifanc yn profi arwahanrwydd cymdeithasol ychydig yn wahanol i oedolion. Gan fod gan blant rieni neu frodyr a chwiorydd o’u cwmpas yn aml, mae modd cyflwyno’r cysyniad o arwahanrwydd cymdeithasol plentyndod fel y graddau y mae plant yn gysylltiedig â phlant eraill. Mae hyn yn wahanol i deimlo’n unig, oherwydd gall plant fod yn unig hyd yn oed pan fydd plant eraill o’u cwmpas. Cynhalion ni gyfres o astudiaethau allweddol a asesodd arwahanrwydd cymdeithasol gan ddefnyddio data o astudiaeth E-Risk o 2,232 o blant a oedd dan sylw rhwng eu pen-blwydd yn 5 oed a 18 oed.
Arwahanrwydd cymdeithasol trwy gydol cyfnod datblygiad plentyn
Dangoson ni fod yna grwpiau o blant sy’n dilyn gwahanol lwybrau o arwahanrwydd cymdeithasol dros amser. Wrth hyn rwy’n golygu bod rhai plant wedi’u hynysu’n gynnar yn eu plentyndod, ond aeth hyn yn llai wrth iddynt fynd drwy’r ysgol, ac nid oedd plant eraill wedi’u hynysu’n gynnar yn eu plentyndod ond cynyddodd hyn wrth iddynt fynd yn hŷn. Nid oedd y rhan fwyaf o blant wedi’u hynysu, ac i’r rhai a oedd, fe symudon nhw i mewn ac allan o arwahanrwydd dros amser. Yn dibynnu ar ba lwybr neu grŵp yr oedd y plant ynddo, roedd hyn yn effeithio ar eu hiechyd meddwl yn wahanol. Yn hytrach na phrofi arwahanrwydd cymdeithasol ar unrhyw adeg yn arwain at risg uwch ar gyfer problemau iechyd meddwl, roedd yn dibynnu ar ba bryd yr oedd yr arwahanrwydd yn digwydd. Roedd plant yn fwy tebygol o gael problemau’n digwydd ar yr un pryd ar yr adeg pan oeddent wedi’u hynysu fwyaf. Pwysleision ni bwysigrwydd cydnabod arwahanrwydd cymdeithasol ymhlith plant yn ddangosydd gwerthfawr o broblemau sy’n digwydd ar yr un pryd, megis problemau emosiynol, gorfywiogrwydd ac ymddygiad byrbwyll. Wrth roi’r cymorth cywir ar yr adeg gywir, gallai plant sydd wedi’u hynysu elwa ar gymorth ar yr adeg y maent fwyaf agored i arwahanrwydd er mwyn lleihau’r risg o broblemau hirdymor.
A yw arwahanrwydd cymdeithasol yn arwain at broblemau iechyd meddwl, neu a yw problemau iechyd meddwl yn arwain at arwahanrwydd?
Mae arwahanrwydd cymdeithasol wedi cael ei ystyried yn ffactor risg ar gyfer deilliannau gwael, yn yr ystyr bod profi arwahanrwydd yn arwain at anawsterau yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae hefyd yn bosibl bod pobl sy’n profi anawsterau yn tynnu’n ôl o gymdeithas, gan arwain at arwahanrwydd. Ymchwilion ni i’r cwestiwn hwn o gyfeiriadedd ar gyfer plant â symptomau anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn ystod plentyndod. Roedd plant a oedd yn orfywiog neu fyrbwyll yn fwy tebygol o brofi arwahanrwydd cymdeithasol yn nes ymlaen. Gall rhyngweithio negyddol â chyfoedion olygu bod plant ag ADHD yn tynnu’n ôl, yn cael eu gwrthod, yn teimlo’n unig ac wedi’u hynysu. Gallai canolbwyntio ar frwydro yn erbyn rhagfarnau negyddol ynghylch niwroamrywiaeth mewn ysgolion a chymunedau lleol helpu i leihau profiadau o arwahanrwydd cymdeithasol i’r plant hyn. Dylid asesu arwahanrwydd cymdeithasol yn ofalus mewn plant ag ADHD. Gallent elwa o ymyriadau sydd wedi’u hanelu at gynyddu cyfranogiad cymdeithasol a lleddfu heriau cymdeithasol. Rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwella cymorth cymdeithasol gan gymheiriaid a chynhwysiant i blant ag ADHD, yn enwedig mewn ysgolion.
Aeth ein gwaith diweddaraf ymhellach i ddangos bod profiadau pobl ifanc o arwahanrwydd cymdeithasol wedi’u cydblethu’n ddatblygiadol ag iechyd meddwl gwael, yn enwedig ar gyfer iselder a phrofiadau seicotig. Yn hytrach na ffactor risg neu ddeilliant iechyd meddwl gwael, gallai arwahanrwydd cymdeithasol fod yn arwydd o nam gweithredol sy’n digwydd ochr yn ochr â symptomau iechyd meddwl. Gwnaethom hyn drwy ddangos bod gorgyffwrdd genetig sylweddol ag iselder a phrofiadau seicotig ag arwahanrwydd cymdeithasol. Gallwn gymharu hyn â phroblemau cysgu. Mae symptomau iechyd meddwl yn gysylltiedig yn hydredol ac yn ddeugyfeiriol â phroblemau cysgu yn ystod plentyndod a glasoed. Mae problemau cysgu yn wahanol i broblemau iechyd meddwl, ond maent fel arfer yn mynd law yn llaw yn ffenoteipaidd ac yn enetig. Maent yn aml yn cael eu trin yn symptom ymylol neu eilaidd ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl. Gall problemau cysgu fod yn arwydd bod person yn cael anawsterau, yn ogystal â gwaethygu symptomau pobl â’r anhwylderau hyn ar yr un pryd. Gallai arwahanrwydd cymdeithasol a symptomau iechyd meddwl fod yn rhyng-gysylltiedig mewn ffordd debyg, a gallai holi am arwahanrwydd cymdeithasol fod yn llwybr i nodi pobl ifanc sydd nid yn unig yn wynebu risg o gael symptomau iechyd meddwl ond sydd eisoes yn profi anawsterau nad ydynt wedi’u nodi eisoes.
Rhagor o ddeunydd darllen:
Thompson, K. N., Odgers, C. L., Bryan, B. T., Danese, A., Milne, B. J., Strange, L., … & Arseneault, L. (2022). Trajectories of childhood social isolation in a nationally representative cohort: Associations with antecedents and early adulthood outcomes. JCPP Advances, 2(2), e12073.
Thompson, K. N., Agnew-Blais, J. C., Allegrini, A. G., Bryan, B. T., Danese, A., Odgers, C. L., … & Arseneault, L. (2023). Do children with attention-deficit/hyperactivity disorder symptoms become socially isolated? Longitudinal within-person associations in a nationally representative cohort. JAACAP Open, 1(1), 12-23.
Thompson, K.N., Oginni, O., Wertz, J., Danese, A., Okundi, M., Arseneault, L., & Matthews, T. (Cyflwynwyd ar gyfer adolygiad gan gymheiriaid). Social isolation and poor mental health in young people: Testing genetic and environmental influences in a longitudinal cohort study. European Child & Adolescent Psychiatry.