Skip to main content

Sefydliad Arloesi Sero NetSefydliadau Arloesedd ac Ymchwil y Brifysgol

Sefydliad Arloesi Sero Net: lle eithriadol i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa ddatblygu eu doniau

18 Medi 2023
Image shows green rolling hills at sunset

 

Gellir dadlau mai’r angen i leihau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu creu gan bobl a sicrhau sero net yw’r her fwyaf a’r mwyaf brys sy’n wynebu ein byd ers y chwyldro diwydiannol. Mae Dr Andrea Folli yn esbonio pam y dylai ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â diddordeb yn yr her hon ystyried Sefydliad Arloesi Sero Net Prifysgol Caerdydd yn lle i ddechrau eu gyrfa ymchwil.

Photo shows a man wearing a grey suit, white shirt. He has short brown hair and short beard.
Dr Andrea Folli

Mae ein cymdeithas yn mynd yn fwyfwy cyfarwydd â chysyniad allyriadau carbon sero net, ac yn aml defnyddir ‘sero net’ i gyfeirio at y rhain. Defnyddir y term hwn i ddisgrifio cyflwr pan fydd nifer y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer yn cyfateb i’r swm sy’n cael ei dynnu ohono. Cyflawnir hyn drwy gydbwyso’r allyriadau a gynhyrchir yn sgil gweithgareddau dynol megis cludo, gweithgynhyrchu a chynhyrchu ynni, gan ddefnyddio mesurau sy’n dal ac yn cael gwared ar yr allyriadau hyn, megis ailgoedwigo, cipio/storio carbon, yn ogystal â throi nwyon tŷ gwydr yn unedau cyffredin.

Mae cyflawni sero net erbyn 2050 yn hollbwysig o ran cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Dyma dasg frawychus ac aruthrol, ond mae hefyd yn ein hysgogi i fod yn arloesol a chreu newidiadau cadarnhaol mewn ffordd hollol newydd. Yn y cyd-destun hwn, bydd gweithgareddau a gweithrediadau canolfannau a sefydliadau rhyngddisgyblaethol fel ein Sefydliad Arloesi Sero Net ym Mhrifysgol Caerdydd yn hollbwysig o ran llunio sut ddiwyg fydd ar ein dyfodol cynaliadwy.

Dim ond y cyfleoedd y mae ein sefydliad arloesi yn eu creu sy’n cyfateb i’r lefel hon o gyfrifoldeb, yn enwedig yn achos yr Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa (ECR). Yn y blog hwn bydda i’n trafod pam rwy’n credu mai felly yw’r achos.

Tir ffrwythlon eithriadol i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa allu datblygu yn eu maes

Yn y Sefydliad Arloesi Sero Net, ein cenhadaeth yw arloesi a chynnig y dechnoleg nad oes gennym hyd yn hyn; tra ein bod yn galluogi prosesau addasu cymdeithasol anochel o ganlyniad i newidiadau yn yr hinsawdd, a hynny mewn ffordd sy’n gadarnhaol, yn deg ac yn gyfiawn i bawb. Yn y Sefydliad, rydyn ni’n hyrwyddo agwedd agored tuag at ymchwilio i feysydd a gweledigaethau newydd, yr awydd i barhau’n chwilfrydig, hyblygrwydd wrth ddilyn diddordebau ymchwil, ac annog dulliau sy’n creu ffyrdd newydd o feddwl. Wedi’r cyfan, mae’r rhain yn rhan o ethos pob Ymchwilydd ar Ddechrau ei Yrfa (neu o leiaf dylen nhw fod); yn enwedig yr academyddion hynny ar ddechrau eu swyddi annibynnol sy’n ceisio sefydlu eu hunain yn arweinwyr ymchwil y dyfodol. Mae’r tebygrwydd nodedig rhwng (yr hyn a ddylai fod) agweddau Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa a’n priod safonau’n golygu bod ein sefydliad yn lle delfrydol iddyn nhw ffynnu.

Heblaw am gyd-destun ymchwil, mae’r Sefydliad hefyd yn lle unigryw i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa ddatblygu eu proffil proffesiynol ac arwain. Rwy wedi profi’r manteision hyn drosof fy hun, gan imi ddechrau fy mherthynas â’r Sefydliad ar ôl ennill un o Gymrodoriaethau Ymchwil y Brifysgol ym mis Awst 2022. Roedd bod yn aelod o’r Sefydliad yn hwyluso’r gwaith o gasglu cefnogaeth fewnol a diwydiannol i gyflwyno cais am Gymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI ym mis Rhagfyr 2022, yn ogystal â chynigion Achos Diwydiannol yr EPSRC sy’n cael eu llunio ar hyn o bryd. Rwy hefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth fod yn brif ymchwilydd yn sgil dau gais mewnol diweddar i’r Cronfeydd Seilwaith Ymchwil am gyfanswm o £376k, gan sicrhau dwy ysgoloriaeth gan yr Academi Dysgu ac Addysgu, a chysylltiadau amhrisiadwy â Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid yng Nghymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru, ac rwy’n gweithio gyda’r Rhwydwaith i gynyddu cystadleurwydd ymchwil a phrosesau datblygu ac arloesi Cymru yn ogystal â chryfhau seilwaith cenedlaethol ar gyfer ein hymchwil.

Lle rhyngddisgyblaethol go iawn i weithio ynddo

Lle gwirioneddol ryngddisgyblaethol i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa allu creu portffolio o brosiectau llwyddiannus ar y cyd a sicrhau effaith yw’r Sefydliad. Mae sicrhau’r graddau o arloesi sydd eu hangen i symud tuag at sero net yn gofyn am ymgysylltu’n barhaus â’r gymdeithas, sefydliadau anllywodraethol, byd diwydiant a’r llywodraeth. Mae croesi ffiniau disgyblaethol yn digwydd bob dydd yn y Sefydliad, wrth inni ehangu a manteisio ar ein cryfderau ymchwil unigol i fanteisio i’r eithaf ar arloesi ar draws y gwyddorau ffisegol, peirianneg, yr amgylchedd adeiledig, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau, y dyniaethau, y biowyddorau, a’r geowyddorau a chynllunio. Yma, bydd Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa yn trafod, yn gweithio ac yn cydweithio a’i gilydd, ac yn cael eu mentora gan ystod eang o arbenigwyr ar draws nifer o ddisgyblaethau. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd ardderchog i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa lwyddo i sicrhau cyllid allanol a chreu effaith barhaol a thrawsnewidiol.

Deall goblygiadau ymchwil sylfaenol

Yn sgil fy mhrofiad o fod yn ymchwilydd a ddechreuodd ei gyrfa ym myd diwydiant, gan symud wedyn i sector ymchwil breifat, cyn ymuno â’r byd academaidd, rwy wedi dysgu ei bod yn bosibl yn y brifysgol peidio â deall sut mae ymchwil sylfaenol yn gallu cael ei defnyddio i greu atebion yn y byd go iawn. Mae hyn yn arbennig o wir am ymchwilwyr ifanc ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa sydd naill ai erioed wedi gadael y byd academaidd, neu sydd heb gydweithio hyd yn hyn â byd diwydiant, endidau masnachol, neu gyrff y llywodraeth. Oherwydd bod y gymdeithas, byd diwydiant a’r llywodraeth yn rhan o’n gweithgareddau a’n gweithrediadau, mae’r Sefydliad yn cynnig Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa y fantais fawr o allu dylunio eu hymchwil mewn ffordd sydd â goblygiadau yn y byd go iawn. Byddwn ni’n ystyried dichonoldeb, effaith a goblygiadau o’r cychwyn cyntaf, ac maen nhw’n rhan annatod o’r cwestiynau ymchwil sy’n cael sylw.

Photo shows a room of people attending a Net Zero Innovation Institute Town Hall event.
Digwyddiad Neuadd y Dref Sefydliad Arloesedd Net Sero ym mis Ionawr 2023.

Manteisio ar fuddsoddiadau diweddar o bwys

Mae cyfrannu at genhadaeth y Sefydliad yn rhoi’r cyfle i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa elwa ar fuddsoddiadau diweddar o bwys gan Brifysgol Caerdydd yn seilwaith a chyfleusterau ymchwil sydd o’r radd flaenaf. Mae llawer iawn o’r gweithgareddau STEM sy’n gysylltiedig â’r Sefydliad, er enghraifft, yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) dra thechnolegol sydd newydd ei hagor ac a gynlluniwyd gan ystyried egwyddorion sero net yn gyfan gwbl ganolog iddi, ac sy’n rhan o fuddsoddiad Prifysgol Caerdydd gwerth £600m yn ei dyfodol. Mae’r Ganolfan yn dod â phartneriaid diwydiannol ac ymchwilwyr academaidd ynghyd i ddatblygu ac arbrofi cynnyrch, prosesau a thechnolegau glanach a gwyrddach newydd ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Mae’r Ganolfan yn gartref i Sefydliad Catalysis Caerdydd a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, ac mae gan y ddau sefydliad rolau hollbwysig ac effaith ar y Sefydliad Arloesi Sero Net. O ran y gwyddorau cymdeithasol, mae ein gweithgareddau’n digwydd yn sgil Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn ogystal ag Arloesi Caerdydd yn sbarc|spark, adeilad sy’n creu cysylltiadau rhwng entrepreneuriaid ac arweinwyr yn y sector cyhoeddus a’n hymchwilwyr o safon fyd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol yn ogystal â chynghorwyr proffesiynol.

 

Os hoffech chi ddysgu rhagor am waith y Sefydliad Arloesi Sero Net, ein meysydd strategol a’n gweledigaeth, yn ogystal â sut y gallwch chi gyfrannu at ymchwil Sero Net ym Mhrifysgol Caerdydd, ewch i’n gwefan yn https://www.cardiff.ac.uk/net-zero-innovation-institute a dilynwch ni ar Twitter – @CUNetZero.