Caerdydd yn lansio cwrs DPP ar brotocolau Ystafelloedd Glân
21 Ebrill 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio’r cyntaf mewn cyfres o gyrsiau DPP byr ar gyfer y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n rhan o brosiect SIPF CSconnected.
Lluniwyd y cwrs ar Brotocolau Ystafelloedd Glân yn bennaf ar gyfer y rheini sydd newydd ymuno â’r diwydiant lled-ddargludyddion, neu’r rheini sy’n ystyried gyrfa yn y sector, a dyma un o bum cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sy’n cael eu lansio gan Brifysgol Caerdydd yn 2023 i helpu i fynd i’r afael â’r angen brys i gynyddu gallu sgiliau ym maes lled-ddargludyddion.
Mae sgiliau’n un o brif feysydd Cronfa Cryfder mewn Lleoedd (SIPF) CSconnected, prosiect 55 mis gwerth £43M a ariennir yn rhannol drwy Gronfa Cryfder mewn Lleoedd flaenllaw Ymchwil ac Arloesi’r DU, a rhan o’r Gronfa yw’r gweithgareddau DPP.
Mae’r cwrs DPP byr hwn yn rhoi trosolwg o sut beth yw gweithio mewn ystafell lân a bydd yn ymdrin â’r arferion gweithio nodweddiadol yn ogystal â’r egwyddorion cyffredinol o ran gweithio’n ddiogel. Gwnaed y ffilmio yn ystafelloedd glân KLA, un o bartneriaid y clwstwr, ac yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd.
Mae sgiliau’n hanfodol ar gyfer twf clwstwr CSconnected, a disgwylir i nifer y swyddi ddyblu mwy na dwywaith yn ystod y tair blynedd nesaf a bydd yr elfen DPP ym mhrosiect SIPF CSconnected yn cefnogi datblygiad gweithlu sy’n fedrus yn rhanbarth De Cymru.
Dyma a ddywedodd Kate Sunderland, Rheolwr Prosiect DPP SIPF CSconnected: “Rydyn ni’n falch iawn o lansio’r cyntaf o’n cyrsiau DPP newydd a fydd yn helpu i gynyddu’r sgiliau perthnasol yn y rhanbarth. Anelir y cwrs hwn ar Brotocolau’r Ystafell Lân yn benodol at y rheini sydd newydd ymuno a’r diwydiant neu’n meddwl gwneud hynny. Bydd o ddiddordeb arbennig i gwmnïau sy’n rhan o glwstwr CSconnected ond mae hefyd yn agored i unrhyw un yn y byd. Dyma gwrs byr ac anghydamserol y gall y sawl sy’n cymryd rhan ei ddilyn wrth eu pwysau eu hunain, felly mae mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn rhan o becyn cynefino neu ymsefydlu.”
Bydd 2023 yn flwyddyn brysur gan fod pedwar cwrs DPP arall ar y ffordd fydd yn ymdrin â phynciau ym maes electroneg, ffotoneg, ysgythru a bondio gwifrau.
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs ar Brotocolau Ystafelloedd Glân, gan gynnwys sut i gadw eich lle, ewch i wefan datblygiad proffesiynol Prifysgol Caerdydd.
Gwybodaeth am CSconnected
CSconnected yw’r brand cyfunol ar gyfer nifer gynyddol o uwch-weithgareddau sy’n gysylltiedig â lled-ddargludyddion yng Nghymru. Dyma gartref cymuned unigryw o sefydliadau academaidd, cyfleusterau prototeipio a galluoedd gweithgynhyrchu byd-eang a chyfaint uchel sy’n cydweithio ar draws ystod o raglenni ymchwil ac arloesi. Mae CSconnected mewn sefyllfa unigryw i sicrhau mantais fyd-eang mewn technoleg alluogi sofran ac allweddol a fydd yn caniatáu i Gymru a’r DU gynyddu masnach yn fyd-eang mewn sectorau hollbwysig megis cyfathrebu 5G, cerbydau awtonomaidd a thrydan, uwch-ddyfeisiau meddygol ac electroneg defnyddwyr y dyfodol.
Yn 2020, cafodd CSconnected gyllid gan y llywodraeth drwy Gronfa Cryfder mewn Lleoedd blaenllaw Ymchwil ac Arloesi’r DU (SIPF). Mae gan brosiect SIPF CSconnected, fydd yn para am 55 mis, gyfanswm gwerth £43miliwn yn ogystal â £25 miliwn o gronfeydd UKRI. Mae’n ychwanegu at gryfderau rhanbarthol Cymru ac yn cyfuno rhagoriaeth ymchwil yn rhan o gadwyn gyflenwi ranbarthol unigryw ym maes gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd.