Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPoblSefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Ystafell Lân ICS ar agor

15 Ebrill 2023

 

Atebion ar gyfer byd diwydiant o dan yr un to

Gall dod â diwydiant a’r byd academaidd ynghyd i greu cynhyrchion a phrosesau newydd fod yn heriol. Mae ystafell lân o’r radd flaenaf y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ceisio pontio’r bwlch rhwng ymchwil ac uwchraddio diwydiannol. Mae’r Athro Peter Smowton yn esbonio sut y gall y cyfleuster a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) gynnig atebion busnes yn ymwneud â Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer technolegau yfory.

“Mae ystafell lân y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) ar agor ar gyfer busnes. Yma, rydyn ni’n gweithio law yn llaw â’r byd diwydiant i dreialu technolegau’r dyfodol sydd eto i’w creu.

Gall lled-ddargludyddion cyfansawdd gynhyrchu perfformiad sy’n well na silicon. A hwythau’n gyfansoddion sy’n cynnwys elfennau ar bob ochr i’r rhai yng ngrŵp IV y tabl cyfnodol, maent 100 gwaith yn gyflymach na silicon, ac yn gallu allyrru a synhwyro golau, yr holl ffordd o ran isgoch y sbectrwm, drwy’r rhan weladwy ac i mewn i’r rhan uwchfioled.

Wedi’i ariannu gan yr ERDF, mae ein cyfleuster pwrpasol sy’n 1500m2 o faint, yn ein galluogi i gynyddu cynhyrchiant sglodion Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i gapasiti wafferi 150mm a 200mm (8”), sy’n hanfodol o ran perthnasedd diwydiannol.

Gyda chymorth gan yr EPSRC a Llywodraeth Cymru trwy Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae’r ICS wedi buddsoddi mewn offer newydd i gynnig ystod eang o opsiynau prosesu. Mae hyn yn sicrhau y gallwn gynnig gwasanaeth hyblyg i gwrdd â’r ystod ehangaf posibl o ofynion creu o ran deunyddiau, geometregau a graddfeydd, a hynny o ddarnau bach i wafferi 200mm.

Mae ICS wedi derbyn dros £30m o gyllid ar gyfer yr adeilad a’r offer newydd. Yn ogystal â’r ystafell lan, sy’n 1,500 metr sgwâr, mae’r ystafell nodweddu bwrpasol a mannau ôl-brosesu’n galluogi’r ICS i brosesu wafferi hyd at 8 modfedd mewn diamedr ac ehangu ei ystod o wasanaethau sy’n cyrraedd safon y diwydiant.

Mae’r ystafell lân yn rhan allweddol o Gampws ArloeseddCaerdydd, sy’n cyfuno ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnes a menter myfyrwyr.

Mae’r ICS ei hun wedi’i lleoli yn y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) drws nesaf i’r ystafell lân, a fydd yn cael ei lansio’n ffurfiol i randdeiliaid fis nesaf.

Yn y TRH ceir swyddfeydd newydd, mannau gweithio rhyngweithiol, labordai a lle ar gyfer gweithio mewn grwpiau bach. Cynlluniwyd y TRH i ddod ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn agosach at ei gilydd a chreu amgylchedd gwaith sy’n denu ac yn cadw ymchwilwyr talentog.

Bydd yr ICS yn rhannu’r Campws Arloesedd ar Heol Maendy â Sefydliad Catalysis Caerdydd, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (sbarc) ac Arloesedd Caerdydd@sbarc, sylfaen greadigol ar gyfer busnesau newydd a chwmnïau deillio.

Mae technolegau CS eisoes wedi ategu silicon mewn meysydd megis cyfathrebu diwifr, lle mae sglodion a wnaed o gyfuniadau fel galiwm ac arsenig (galiwm arsenid neu GaAs) i’w cael ym mron pob ffôn clyfar, sy’n galluogi cyfathrebu diwifr cyflym iawn ac effeithlon iawn dros rwydweithiau cellog a WiFi.

Wrth i’n darnau olaf o offer ar gyfer creu dyfeisiau CS gael eu gosod yn ICS, mae ein drysau ar agor ac rydym yn barod ar gyfer busnes. Cysylltwch â ni a siaradwch â ni am gydweithio yn y dyfodol.”

Yr Athro Peter Smowton – smowtonpm@caerdydd.ac.uk

Rheolwr Gyfarwyddwr, Sefydliad y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd