Skip to main content

PartneriaethauPobl

SBARC yn sbarduno ymgysylltu

28 Hydref 2022

 

Mewn cwta chwe mis, mae Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol wedi creu gwreichion gan sbarduno digwyddiadau a rhaglenni mawr ym maes y gwyddorau cymdeithasol, yn ogystal â chefnogi prosiectau ar y cyd. Yma, mae’r cyfarwyddwr, yr Athro Chris Taylor, yn rhoi hanes lansiadau diweddar – gan gynnwys Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) – ac yn edrych ymlaen at yr hydref.

‘Os oedden ni, wrth agor ein cartref newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022 ar ddechrau ein llwybr o ran cydweithrediadau, hydref 2022 fydd yr adeg pan fydd ein partneriaethau yn mynd o nerth i nerth yn gyflym iawn ar hyd y llwybr hwnnw.

Mae cydweithrediadau, lansiadau, digwyddiadau ac ymweliadau newydd wedi bod yn datblygu, gan ddangos y gwerth cymdeithasol ac economaidd sydd i bopeth rydyn ni’n ei wneud.

A hithau’n bartner, mae’r Brifysgol newydd lansio ei chyfraniad i Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC a fydd yn cael ei chynnal yn ein hadeilad sbarc – cartref Caerdydd ar gyfer ymchwil a menter yn y gwyddorau cymdeithasol.

Mae’r Ŵyl yn gyfle i ddathlu’r gwyddorau cymdeithasol yng Nghaerdydd a chodi eu proffil drwy ymgysylltu â chynulleidfaoedd cyhoeddus ac ieuenctid. Mae hon yn elfen allweddol o ymrwymiad ESRC i sicrhau bod cynulleidfaoedd newydd yn clywed am ymchwil y DU ym maes y gwyddorau cymdeithasol.

Thema’r Ŵyl eleni yw ‘Fy Ardal Leol’, ac rydym yn gweithio gyda myfyrwyr PhD, ac yn cydweithio âPhrifysgol Bangor, i ddathlu pob agwedd ar ymchwil y maes gwyddorau cymdeithasol, o hanes cymdeithasol ac economaidd, tafodieithoedd, tirweddau gwleidyddol, busnesau lleol ac arloeswyr i ddyfodol y stryd fawr leol ac, yn arwyddocaol, gwasanaethau cyhoeddus.

Mae SBARC wedi rhoi brand cydlynol a chryfder cyfunol dwfn i ymchwil y gwyddorau cymdeithasol er mwyn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus. Yn ddiweddar, er enghraifft, fe wnaethon ni lansio Canolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol Busnes, carreg filltir arall i’r Brifysgol a’r Ysgol Busnes. Mae SBARC yn gartref i dair o’u canolfannau eraill: Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac Uned Ymchwil Economi Cymru.

O dan arweiniad yr Athro Jane Lynch o Ysgol Busnes Caerdydd, nod y Ganolfan newydd yw creu atebion ymarferol sy’n gallu gwella prosesau caffael a phrosesau rheoli’r gadwyn gyflenwi ar adeg dyngedfennol i wasanaethau cyhoeddus.

Mae gwaith SBARC yn prysur ennill cydnabyddiaeth eang. Denodd ein lansiad ar gyfer rhanddeiliaid ym mis Mehefin, ddylanwadwyr mawr o bob cwr o’r DU. Yn fwy diweddar, rydym wedi cynnal dau ddigwyddiad mawr: Bu i TGP (Tros Gynnal Plant) Cymru — y brif Elusen Hawliau Plant yng Nghymru ac aelod o SBARC — ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed gyda ni; a bu i’r elusen cam-drin plant Stop It Now! ochr yn ochr â Sefydliad Lucy Faithfull, gynnal digwyddiad tebyg gyda ni, gan ddathlu 30 mlynedd o’u gwaith.

Mae gan y ddau sefydliad berthnasoedd ymchwil hirsefydlog gyda’r gwyddorau cymdeithasol yng Nghaerdydd. Denodd y ddau ddigwyddiad gynulleidfaoedd mawr o ran eu partneriaid eu hunain, ac roedd gweinidogion a llunwyr polisïau o Lywodraeth Cymru yn bresennol hefyd, gan bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu.

Siarad yw’r allwedd ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Fis nesaf, bydd SBARC yn cynnal ei Ddigwyddiad Rhwydweithio ar gyfer Ymchwilwyr mewnol, sy’n rhoi cyfle i arbenigwyr o’n grwpiau a chanolfannau yn SBARC rannu syniadau â chymheiriaid a’n tîm – gan sbarduno prosiectau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

Yn Adeilad Cyflog Byw achrededig cyntaf Cymru, byddwn yn cynnal digwyddiad dathlu ar gyfer cefnogwyr a chyflogwyr Cyflog Byw o bob cwr o Gaerdydd yn rhan o’r Wythnos Cyflog Byw.

Yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd, SBARC.