Skip to main content

PartneriaethauPobl

Blwyddyn gyda SETsquared – taith Caerdydd hyd yn hyn…

25 Hydref 2022
Image: Will Scott
Image: Will Scott

 

Ymunodd Caerdydd â SETsquared flwyddyn yn ôl. Mae’r rhwydwaith byd-eang ar gyfer meithrin busnesau yn cynnig ystod eang o raglenni cymorth, uchel eu parch i helpu i droi syniadau’n fusnesau ffyniannus, ac mae’n dod â chwe phrifysgol flaenllaw yn y DU a arweinir gan ymchwil ynghyd: Caerfaddon, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Southampton a Surrey.

Dechreuodd Caerdydd gyfrannu yn 2018 drwy’r Rhaglen Scale Up, ac fe wnaeth y cyfranogiad uniongyrchol hwn arwain at ehangu cwmpas yr hyn y gallai’r bartneriaeth gyfan ei gyflawni. O helpu timau ymchwil i ddwyn eu prosiectau arloesedd i’r farchnad, i agor eu canolfan arloesedd o’r radd flaenaf, mae Caerdydd wedi cael blwyddyn gyntaf brysur. Gadewch i ni edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau’r ganolfan dros y 12 mis diwethaf.

sbarc|spark

Roedd agor sbarc|spark ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni yn garreg filltir bwysig i Dîm Caerdydd. Wedi’i leoli ar Gampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd, mae’r ganolfan 12,000 troedfedd sgwâr o faint yn dod ag ymchwilwyr, myfyrwyr newydd, entrepreneuriaid, a chwmnïau sy’n deillio o’r byd academaidd, ynghyd o dan un to mewn adeilad trawiadol. Yn ymestyn dros chwe llawr, ceir labordai, unedau masnachol, mannau ar gyfer cydweithio ac awditoriwm yn y ganolfan; dyma’r mwyaf a’r mwyaf trawiadol o’i math yng Nghymru. Mae wedi bod yn amhrisiadwy i ymchwilwyr, arloeswyr a sylfaenwyr, gan hwyluso ymchwil a gynhelir trwy rai o raglenni cymorth wedi’u teilwra SETsquared.

Cefnogi cwmnïau deillio

Mae’r brifysgol wedi cefnogi ceisiadau llwyddiannus ar gyfer y rhaglen O Arloesedd i Fasnacheiddio Ymchwil Prifysgol (ICURe), a ariennir gan Innovate UK ac a gyflwynir gan SETsquared. Mae’r rhaglen hon yn galluogi ymchwilwyr prifysgol i ymgymryd â phroses ymchwil drylwyr i benderfynu a oes marchnad hyfyw ar gyfer eu prosiect arloesedd newydd. Ac, ar ddiwedd y rhaglen dri mis, os yw’r prosiect yn creu cwmni deillio, gallant wneud cais i gael cyllid dilynol gan Innovate UK i’w cynorthwyo i fynd â’u prosiect arloesedd i’r farchnad fasnachol.

Dyma’n union oedd stori Empowering Energy Solutions, cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd a ddatblygodd o’r prosiect ‘Atebion Ynni Carbon Isel ar gyfer Systemau Ynni Lleol’. Dan arweiniad yr ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa, Muditha Abeysekera, fe ddatblygon nhw offer meddalwedd cefnogi-penderfyniadau ar gyfer rheolwyr ynni mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Gyda busnesau yn gyffredinol yn parhau i gael eu hannog i weithio tuag at bolisi sero net y Llywodraeth yn, fu’r galw am ddewisiadau amgen adnewyddadwy erioed yn fwy.

Trwy eu hymchwil, canfuwyd bod diffyg sylweddol o ran y wybodaeth, y sgiliau a’r offer y mae rheolwyr ynni eu hangen i ymgymryd â’r dasg enfawr o symud dibyniaeth y DU oddi wrth tanwydd ffosil at ynni adnewyddadwy. Wrth i’r tîm roi eu hoffer gwneud-penderfyniadau ar waith, gwelwyd arbedion o tua 13% mewn biliau ynni yn eu safleoedd astudiaeth achos, sy’n cyfateb i tua £100,000 y flwyddyn. Yn sgîl eu cyfraniad llwyddiannus i raglen ICURe, fe lwyddon nhw i sicrhau £292k ychwanegol drwy gynllun Ariannu Dilynol Innovate UK, sy’n ariannu’r gwaith o drosi’r feddalwedd ac offer yn gynnyrch sydd ar gael yn fasnachol. Disgwylir i’r cynnyrch fod yn barod ar gyfer y farchnad yn 2023.

Un arall o brosiectau ICURe Caerdydd oedd Wipe Warriors, dan arweiniad Michael Pascoe sef Arweinydd Entrepreneuraidd y gwaith. Mae rhagor o ymwybyddiaeth ynghylch llygredd plastig wedi ysgogi trafodaeth ehangach am gynaliadwyedd amgylcheddol cadachau diheintio untro. Gall cadachau sychu sydd wedi’u creu o ddeunydd sy’n seiliedig ar seliwlos fod yn ddewisiadau dymunol gan eu bod yn deillio o ffynonellau planhigion ac yn fioddiraddadwy. Yn wahanol i blastigau, mae llawer o’r bioleddiaid mwyaf poblogaidd yn glynu at seliwlos a dydyn nhw ddim yn cael eu trosglwyddo’n effeithlon ar arwynebau pan gaiff yr arwynebau hynny eu sychu. Mae hyn yn lleihau gallu’r cadach i ladd germau ac yn golygu bod llawer o gadachau meddygol yn dal i fod yn cael eu creu o blastigau yn bennaf.

Trwy’r Biofilms ICURe SPRINT, dangosodd Michael a’r tîm o Brifysgol Caerdydd bod marchnad ddilys ar gyfer deunyddiau amgen ac iddynt well cydnawsedd â bioleiddiaid; golyga hyn wella perfformiad ar yr un pryd â chynnal buddion ecolegol seliwlos. Tywyswyd eu canfyddiadau tuag at ail gam y rhaglen a ariannwyd gan Innovate UK a’r Ganolfan Arloesi Bioffilmiau Genedlaethol, gan ganiatáu iddynt archwilio cytundebau trwyddedu a chyfleoedd cydweithio â chwmnïau o’r sector hylendid.

Datblygiadau yn Ne Cymru

Ers 2018, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda SETsquared i gefnogi busnesau sydd am archwilio cyfleoedd ymchwil a datblygu.

Yn 2021, bu i ymdrech aml-ganolfan rhwng Prifysgolion Southampton a Chaerdydd gefnogi Oxford Brain Diagnostics gyda chais am gyllid i’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, a oedd yn gais llwyddiannus (NIHR). Bu’r rhaglen Scale-Up yn gymorth i baratoi’r cwmni technoleg-feddygol i fynd am y cais, trwy eu cyflwyno i dimau ymchwil yn y ddau sefydliad prifysgol a chyflenwi adnoddau ysgrifennu grantiau i sicrhau llwyddiant eu cais.

Ceisiodd datblygwyr meddalwedd Simply Do hefyd arbenigedd academaidd Caerdydd wrth geisio datblygu cam nesaf eu technoleg blockchain. Gan ddefnyddio adnoddau o’r Brifysgol, bu modd iddynt ddatblygu rhyngwyneb pen blaen hawdd ei ddefnyddio, hyfforddiant i staff ynghylch crafu’r we (web scraping) a darganfod ymchwil werthfawr o ran y farchnad a hynny o safbwynt arloesedd, amrywiaeth cadwyni cyflenwi, a rhai o’r datrysiadau technoleg presennol sydd eisoes ar gael i fusnesau. O ganlyniad, llwyddodd y prosiect i greu adroddiad academaidd a oedd o fudd nid yn unig i Simply Do ond i fusnesau technoleg eraill hefyd.

Dywedodd David Bembo, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd Caerdydd, “Ar ôl cwta flwyddyn, hyd yn oed, mae gweithio gyda’n partneriaid SETsquared eisoes wedi ein galluogi i dyfu ein hecosystem Ymchwil a Datblygu ac ymestyn ein gorwelion arloesedd ar draws de-orllewin Lloegr a thu hwnt. Rydym yn arbennig o gyffrous am y cyfleoedd enfawr ar gyfer busnesau newydd a chwmnïau deillio Caerdydd, ac maen nhw eisoes yn dod i’r amlwg wrth i ni ddatblygu gallu’r bartneriaeth i fuddsoddi mewn gweithgareddau twf.”

Dywedodd Karen Brooks, Cyfarwyddwr Rhaglen, SETsquared: “Mae’r bartneriaeth fwy ei maint, newydd, hon wedi gosod ei golygon ar ddyfodol uchelgeisiol ar gyfer y cwmnïau, entrepreneuriaid, arloeswyr a buddsoddwyr sy’n ymuno â’n hecosystem. Gyda Chaerdydd yn rhan o hyn, fe wnaethom osod cenhadaeth i ni ein hunain i gyflymu twf yr ecosystem o seilwaith cymorth ar gyfer mentrau uwch-dechnoleg, twf uchel y mae SETsquared yn ei chynnig.”

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Phrifysgol Caerdydd, cysylltwch â innovation@caerdydd.ac.uk

Cyhoeddwyd fersiwn llawnach o’r blog hwngyntaf gan SETsquared