Skip to main content

Adeiladau'r campws

Gwreichion cydweithio

20 Hydref 2022

 

Beth yw tarddiad parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd? Mewn detholiadau o ddarn a gyhoeddwyd gyntaf gan Breakthrough – cylchgrawn Cymdeithas Parciau Gwyddoniaeth y DU – mae cyfarwyddwr gweithrediadau sbarc|spark Sally O’Connor yn sôn olrhain hanes SBARC.

Crëwyd y parc ymchwil cyntaf mewn prifysgol fwy na 70 mlynedd yn ôl, pan benderfynodd sefydliad academaidd a oedd yn drwm ei asedau, ond yn ysgafn o ran cyllid, y gallai datblygu tir at ddibenion ymchwil a datblygu drawsnewid ei ffawd.

Ar unwaith, llwyddodd Parc Ymchwil Stanford ar unwaith i ddenu nifer o arloeswyr technoleg, ac yn ddiweddarach hyn fu’n gyfrifol am ddatblygiad Silicon Valley, ac ymhlith y cwmnïau sydd bellach yn rhan o’i gampws gwasgarog ar draws 700 erw mae Tesla Motors, Hewlett-Packard a VMware Inc.

Ac yntau’n gynllun sylweddol iawn yn ôl safonau’r DU, mae sbarc|spark yn brosiect £60m â 12,000 troedfedd sgwâr sy’n cwmpasu saith llawr, gan gynnwys 2,800 troedfedd sgwâr o unedau masnachol.

Ei nodwedd fwyaf trawiadol yw cerflunwaith o risiau sy’n ymgodi drwy’r adeilad o’r gwaelod i’r brig ac a ddyluniwyd i annog rhyngweithio cymdeithasol rhwng y tenantiaid a’i gilydd.

“Mae cydweithio’n rhan hollbwysig o SBARC, felly mae gennym ni leoedd ymneilltuo ar bob lefel i annog pobl a fyddai’n mynd heibio ei gilydd mewn adeilad traddodiadol i siarad â’i gilydd a thrafod eu prosiectau,” medd Sally.

“Roedden ni’n benderfynol o ddileu’r hen ffordd o weithio fel ‘twll colomennod’ yn y gwyddorau cymdeithasol, felly dyluniwyd yr adeilad hwn i ysgogi sgyrsiau a pheri i bobl ddod at ei gilydd, a buon ni’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr o feysydd eraill yn y brifysgol i ddatblygu’r model.

“Bydd gan y gymuned rydyn ni’n ei hadeiladu yma weledigaeth gyffredin, sef sicrhau manteision i’r brifysgol, y ddinas, y cyhoedd ac economi Cymru. Nid ‘adeiladu ac fe ddônt’ mo’r syniad y tu hwnt i SBARC.”

Mae SBARC yn gartref i academyddion, ymchwilwyr, myfyrwyr a staff eraill, yn ogystal â sefydliadau allanol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Mae Cardiff Innovations, gyda’r bobl a’r cyfleusterau i droi syniadau gwych yn dwf ledled Cymru a thu hwnt, yn ganolbwynt ar gyfer meithrin a datblygu partneriaethau diwydiant yn adeilad sbarc|spark.

Mae Arloesedd Caerdydd@sbarc yn ofod pwrpasol 17,500 troedfedd sgwâr ar draws 4 llawr, a bydd yn cynnwys gofod swyddfa y gellir ei roi ar osod rhwng 226 troedfedd sgwâr a 1163 troedfedd sgwâr, ardaloedd cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol, cyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf, 4240 troedfedd sgwâr ar gyfer labordai gwlyb a mannau ar gyfer cynnal arddangosfeydd/cyflwyniadau ar y cyd gan gynnwys gofod cynadledda ar gyfer hyd at 200 o bobl.

Wrth wraidd y prosiect mae rhai o brif ganolfannau ymchwil gwyddorau cymdeithasol y Brifysgol lle mae arbenigedd o ran arloesi ym maes polisïau, addysg, gwella iechyd y cyhoedd, y gymdeithas sifil, dadansoddi economaidd, trosedd a diogelwch, arloesi ym maes gwasanaethau cyhoeddus, gofal cymdeithasol a pholisïau cyhoeddus.

Ar y cyd â’r canolfannau ymchwil mae tenantiaid ac aelodau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector – a’u gweledigaeth yw helpu i ddod o hyd i atebion i heriau cymdeithasol cymhleth.

Mae SBARC hefyd yn cyfannu ynghyd feysydd o arbenigedd ymchwil ym maes seiberddiogelwch, technoleg ariannol, technoleg feddygol, gwyddorau data, trawsnewid digidol a gwyddorau ymddygiadol. Heb os nac oni bai, dyma gysyniad a gafodd ei eni, ei ddatblygu a’i gyflawni yng Nghymru.

“Ymhell cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau, treulion ni i gyd lawer iawn o amser yn meddwl am y ffyrdd y gallai gwaith creadigol ar y cyd ddigwydd yma, a’r math gorau o adeilad fyddai’n addas at y diben hwn,” medd O’Connor.

“Roedden ni eisiau sicrhau bod gennym ni’r bobl iawn yn y lleoedd cywir, a chan i SBARC gael ei ddylunio i greu partneriaethau cyhoeddus-preifat, roedd bod y tenantiaid ar yr un safle hefyd yn hollbwysig. Nid ‘adeiladu ac fe ddônt’ mo’r syniad y tu hwnt i SBARC.”

Er yr holl debygrwydd â gweledigaeth Stanford, yr hyn a sbardunodd SBARC oedd yr oes ddigidol i raddau helaeth.

“Tyfodd y syniad yn sgîl blog gan Adam Price, sef arweinydd Plaid Cymru bellach, ond ar y pryd roedd yn gweithio i’r asiantaeth arloesi yn Llundain, Nesta,” ychwanega O’Connor.

Bu’n gyd-awdur adroddiad arloesol ar yr heriau roedd Cymru yn eu hwynebu, a sut y gallai byd arloesi dyfu’n rhan o’i heconomi.

Prif syniad Price oedd y gellid meithrin arbenigedd i leoli gwyddonwyr cymdeithasol ar yr un safle ag ymchwilwyr o sectorau eraill, ymchwilwyr allanol a chydweithwyr o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Ei ddamcaniaeth oedd y byddai rhyngweithio o’r fath yn creu arbenigedd newydd at ddibenion byd polisi cyhoeddus a darparu gwasanaethau, gan greu’r sylfeini ar gyfer arloesi yn y maes economaidd, cyhoeddus a chymdeithasol.

“Ysgrifennodd Adam flog ar y pwnc, a godwyd gan academyddion yn CBS a gysylltodd ag ef ar Twitter,” meddai O’Connor. “Dyma’r Is-ganghellor yn cymryd rhan wedyn a sylweddolodd fod Caerdydd yn derbyn llai o fuddsoddi o ran gofod ymchwil newydd o’i chymharu â phrifysgolion mawr eraill, ond cydnabu hefyd fod Caerdydd yn arwain yn genedlaethol o ran ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol.”

Mae gofyn i O’Connor sôn am denant sy’n ei chyffroi’n arbennig fel gofyn i blentyn pa anrheg Nadolig sydd orau ganddo, ond mae’n cyfeirio at bresenoldeb RemakerSpace, dan arweiniad yr Athro Aris Syntetos.

“Cafodd ei ddatblygu gan Sefydliad PARC y Brifysgol i gyflwyno gweithdai, hyfforddiant a mentora a fydd yn helpu’r gymuned a busnesau lleol i ddarganfod manteision yr economi gylchol,” meddai.

“Rhoddodd Llywodraeth Cymru £600,000 inni ariannu’r prosiect, ac rwy’n siŵr y bydd rhesymeg ail-gynhyrchu a thrwsio nwyddau yn apelio’n syth, yn enwedig o ystyried heriau costau byw sy’n effeithio ar gynifer o bobl ar hyn o bryd.”

Bipsync

Roedd yn ymddangos yn addas iawn felly pan gyhoeddodd SBARC mai tenant cyntaf yr adeilad fyddai Bipsync. Pencadlys y fenter technoleg ariannol o’r Unol Daleithiau, sy’n dylunio meddalwedd rheoli ymchwil, yw Efrog Newydd bellach, ond cafodd ei sefydlu ym mhrifysgol yr Unol Daleithiau yn ôl yn 2013.

Efallai y gall hyd yn oed y sylfaenydd y tu ôl i Silicon Valley ddysgu rhywbeth gan O’Connor a’i chydweithwyr yn SBARC.

I gael gwybod rhagor am sbarc|spark, ewch i: https://www.cardiff.ac.uk/cy/social-science-research-park/about-us   

Ymddangosodd y fersiwn lawn o’r blog hwn gyntaf yn Rhifyn 17 o Breakthrough, tudalennau 20-22.