Mae un o’n graddedigion wrthi’n datblygu busnes bagiau llaw sy’n defnyddio lledr fegan moethus
6 Hydref 2022Mae Dozi Imp yn lansio’r platfform gwe Tŷ Hedge
Mae cwmni newydd un o raddedigion Prifysgol Caerdydd sy’n gwneud bagiau llaw â lledr fegan moethus ac sy’n defnyddio dail pîn-afal yn lansio platfform newydd y mis hwn.
Mae Shivam Mishra, un o gyn-fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd (MSc, 2020) wedi creu Tŷ Hedge – gwefan sy’n caniatáu i brynwyr greu eu bagiau llaw moethus a chrefftwrus eu hunain yn ogystal â dewis dyluniadau personol wedi’u crefftio â llaw i addurno’r hyn maen nhw’n ei brynu.
Creodd Shivam a Charlotte Desascoyne, un o raddedigion y Coleg Celf Brenhinol, Dozi Imp ar ôl i Shivam orffen gradd Meistr Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth.
Wedi iddo gael grant dechrau busnes gwerth £2,000 gan Busnes Cymru, mae Dozi Imp yn defnyddio Piñatex, sef tecstil naturiol sy’n defnyddio dail pîn-afal gwastraff ac sy’n cael ei gynhyrchu gan y gwneuthurwr Ananas Anam yn y DU.
Ar fagiau moethus Dozi Imp mae dyluniadau unigryw gan grefftwyr a chrefftwragedd o’r India sy’n gelfydd yng nghrefft Zardozi – math o frodwaith metel sy’n tarddu o Lucknow, sef tref enedigol Shivam.
Mae Shivam yn esbonio datblygiad ei gwmni wrth iddo lansio platfform Tŷ Hedge ar ôl Wythnos Ffasiwn Llundain .
C: Ym mha ffordd roedd eich profiad ym Mhrifysgol Caerdydd a gyda Menter y Myfyrwyr yn eich helpu i ddatblygu eich busnes?
A: “Mae’r syniad i lansio busnes newydd sy’n frand moethus cynaliadwy yn deillio o’r cyfnod yng Nghaerdydd tra roeddwn i’n astudio ar gyfer fy MSc Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd fy syniadau eu llywio gan y diweddar Athro Neil Wellard a oedd yn ysbrydoliaeth i lawer o fyfyrwyr, a Dr Anthony Samuel. Dysgon nhw imi werthfawrogi am sut beth yw entrepreneuriaeth a’i gwerth i’r gymdeithas drwy hanesion personol ac enghreifftiau go iawn mewn bywyd. Roedd eu cymorth ar y dechrau wedi fy helpu i feithrin hyder ynof fy hun.
Wedyn cefais i gymorth tîm Menter Prifysgol Caerdydd, yn enwedig gan Claire Parry-Witchell, a oedd wedi troi’r syniad yn realiti. Yn sgîl y cymorth gan y tîm Menter, roeddwn i’n gallu datblygu cynllun busnes cynhwysfawr a strategaeth ymchwil marchnad, sef conglfaen y cwmni ond roedd hefyd yn sylfaen gadarn i greu mentrau entrepreneuraidd yn y dyfodol.
Arweiniad a chymhelliant sydd bwysicaf i unrhyw fyfyriwr sydd eisiau creu busnes newydd, ac mae tîm menter y Brifysgol wedi rhoi’r arweiniad hwnnw ac wedi rhoi’r sgiliau angenrheidiol imi mewn gweithdai. Dyma ran hynod o bwysig yn y broses o ddatblygu myfyriwr entrepreneuraidd o ran gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a thystiolaeth.”
C: Beth oedd y rhwystrau mwyaf roedd yn rhaid ichi eu goresgyn wrth greu’r busnes?
A: “Profiad trwy fethu yw’r wers fwyaf y gall rhywun ei dysgu. Dechreuais y busnes hwn ar ddechrau pandemig Covid-19 pan roedd gweithgarwch economaidd byd-eang yn sefyll ar ei unfan. Nid oedd unrhyw gyflenwyr ar gyfer deunydd crai, ac nid oedd gweithdai na ffatrïoedd lleol yn fodlon paratoi casgliad sampl o fagiau llaw ar gyfer fy musnes newydd.
Ond drwy ddyfal donc llwyddon ni i wneud y casgliad yn Delhi, lle roedd crefftwyr lleol yn gweithio o’u cartrefi.
Mae Zardozi, sy’n tarddu o Lucknow, yn sgil draddodiadol sy’n defnyddio edafedd metelaidd aur ac arian wedi’u gwehyddu ar ffabrig. Cawsai ei defnyddio ar ddodrefn palasau yn yr India yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif a dyma gelfyddydwaith traddodiadol ac unigryw sy’n rhoi gwedd hollol wahanol i’n cynnyrch.
Un o’r heriau mawr drwy gydol y daith hon fu sicrhau cynaliadwyedd. Roedd cynnal y gadwyn gyflenwi a lleoliad cynhyrchu’r bagiau yn dipyn o her: i oresgyn hyn, rwy wedi lansio Tŷ Hedge, sef gwefan bersonol ar sail apwyntiad sy’n caniatáu i gwsmeriaid a chleientiaid greu eu bagiau llaw moethus a phwrpasol eu hunain.
Bydd ein lansiad newydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu’n lleol yn y DU i sicrhau bod y deunydd yn gwbl gynaliadwy, gan adlewyrchu ein gwerthoedd a’n hymrwymiadau tuag at fyd natur drwy symud tuag at economi gylchol. Mae’n golygu y gall cwsmeriaid a chleientiaid greu eu darn personol ac unigryw o fag llaw wedi’i frodio â lledr fegan moethus, neu archebu bag llaw â lledr fegan syml heb waith celf arno, gan y bydd hyn yn creu incwm i wneuthurwyr y bagiau llaw, y crefftwyr a chyflenwyr yr ategolion.”
C: Yn olaf, pa gyngor ac awgrymiadau y byddech chi’n eu rhoi i fyfyrwyr ifanc a graddedigion diweddar sy’n ystyried creu eu busnes eu hunain?
A: “Mae gwytnwch, cymhelliant, a bod yn hyblyg o ran y syniad yn hollbwysig, ond efallai mai’r sgil bwysicaf yw rhwydweithio
Fy nghyngor i raddedigion diweddar sydd eisiau creu busnes yw bod yn benderfynol a bod â ffydd yn eich syniadau, gan y bydd hyn yn arwain at ragor o gymhelliant a gwytnwch.
Mae methiannau yn wers i ddysgu ohonyn nhw, ac mae hyblygrwydd yn bwysig iawn i fyfyriwr graddedig sydd eisiau ymgymryd â busnes newydd. Peidiwch â bod yn gaeth i syniad, ond byddwch yn ddigon hyblyg er mwyn gallu newid neu addasu eich syniadau newydd yn unol â’r sefyllfa dan sylw.
Yn anad dim, mae rhwydweithio yn creu entrepreneuriaid ac yn troi syniadau yn realiti. Dylai graddedigion diweddar fanteisio ar bob cyfle posibl i rwydweithio. Diolch byth, mae tîm Mentrau Prifysgol Caerdydd yn cynnig adnoddau gwych a gwerthfawr er mwyn i raddedigion rwydweithio.”
I gael rhagor o wybodaeth am gynnyrch ac opsiynau Dozi Imp, gall cwsmeriaid ymweld â: Ty Hedge | Bespoke Vegan leather handbags (ty-hedge.com)