Skip to main content

Adeiladau'r campws

Gwyddonwyr yn croesawu’r symud i’r Ganolfan Ymchwil Drosi

26 Medi 2022

Agorodd Canolfan Ymchwil Drosi gwerth miliynau o bunnoedd Prifysgol Caerdydd ei drysau ym mis Gorffennaf. Wrth i ymchwilwyr ddechrau symud i mewn, ac wrth i’r offer gael eu symud hefyd, rydym yn clywed gan rai o’r gwyddonwyr arloesol ym maes catalysis a lled-ddargludyddion cyfansawdd am eu nodau ar gyfer y dyfodol wrth i’r cyfleuster o’r radd flaenaf gael ei roi ar waith.   

Dr Angela D Sobiesierski, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ystafell Lân, Y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS)  

“Â’r ystafell lân wedi’i hadeiladu a ninnau wedi derbyn yr archeb gyntaf o ran ein hoffer newydd, mae’r symud yn real iawn nawr ac ni all ddod yn ddigon buan, er bod llawer i’w wneud o hyd.

Gyda thros hanner cant o ddarnau o offer i’w gosod, eu cysylltu â’u rhoi ar waith, mae’n mynd i fod yn gyfnod prysur i dîm yr ICS. Mae’r ystafell lân newydd anhygoel tua phum gwaith yn fwy na’n cartref presennol yn Adeiladau’r Frenhines. Mae hi wedi’i gosod yn union fel yr ydym yn ei ddymuno a bydd hyn yn sicrhau prosesu mwy effeithlon a dibynadwy yn y dyfodol. Mae’n wahanol i’r hyn sydd yn Adeiladu’r Frenhines, oherwydd yno mae’r cyfan wedi datblygu’n organig ac efallai nad yw popeth wedi’i osod yn y modd mwyaf effeithlon.

Bydd yr offer newydd yn ychwanegu’n sylweddol at ein hoffer presennol, ac yn helaethu’r set. Bydd hyn yn ein galluogi i weithredu prosesu o’r dechrau i’r diwedd o dan un to a diwallu ystod eang o anghenion defnyddwyr – o grwpiau ymchwil sy’n gweithio ar deils neu wafferi bach i sefydliadau diwydiannol sydd angen datblygu proses lawn ar wafferi hyd at 200mm mewn diamedr.

Rydym hefyd wedi cynnull tîm mwy ei faint ar gyfer yr ystafell lân. Ar hyn o bryd, mae rhan o’r tîm yn gweithio yn Adeiladu’r Frenhines i sicrhau bod y prosesau’n dal ar waith, tra bod eraill yn y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) yn derbyn offer newydd ac yn paratoi ar gyfer y cyfnod gosod a chysylltu.

I mi, bydd yn wych yn y pen draw cael y tîm ICS cyfan yn gweithio gyda’i gilydd yn yr ystafell lân newydd a chael gweld beth fyddan nhw a defnyddwyr yr ystafell lân yn gallu ei gyflawni.

Yn syml, rydym i gyd yn gyffrous iawn am fod yn gweithio mewn cyfleuster pwrpasol sy’n gweithredu i’n hunion ofynion a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein nodau.’

Yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr, Sefydliad Catalysis Caerdydd 

“Mae cymysgedd o nerfusrwydd a chyffro’n mynd law yn llaw â symud cartref bob amser. Ac mae heriau unigryw ynghlwm â symud sefydliad ymchwil gyda galluoedd ac offer mor soffistigedig â Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI).

Mae hon yn dasg gymhleth yr ydym wedi bod yn ei chynllunio ers misoedd a blynyddoedd – mae angen datgymalu offer gwyddonol o’r radd flaenaf, eu symud a’u rhoi ar waith unwaith yn rhagor fel y gall ein hymchwilwyr barhau i gael canlyniadau heb fawr o darfu.  Mae’r ffaith bod ein timau microsgopeg a chyfrifiadureg eisoes wedi symud ac wrthi’n gweithio, yn argoeli’n dda.  Wrth gwrs, yn fwy na dim, rydyn ni’n edrych ymlaen at symud i mewn i’r TRH a’i alw’n gartref.  Gyda’r pandemig a’r cyfnod clo yn dal yn ffres yn ein meddyliau, bydd dod â’r CCI at ei gilydd o dan yr un to newydd yn weithred a fydd yn cael ei chroesawu’n fawr – bydd yr adeilad yn cryfhau cysylltiadau yn y gymuned wyddonol ac, mae’n siŵr gen i, yn arwain at gydweithio newydd ac at ymchwil a fydd yn mynd i gyfeiriadau newydd.

Mae Catalysis yn faes ymchwil hanfodol bwysig, er enghraifft o ran y technolegau newydd sydd eu hangen arnom i gyrraedd Net Sero, ac mae Caerdydd wedi bod ar flaen y gad yn y maes hwn yn rhyngwladol ers amser maith.  Yn fuan iawn byddwn yn gweithio mewn adeilad sy’n cyfateb i ansawdd ein hymchwil a graddfa’r problemau yr ydym yn eu datrys.’

Rebecca Melen, Athro Cemeg Anorganig, Ysgol Cemeg 

Rwy’n gyffrous iawn i fod yn symud gyda fy ngrŵp ymchwil i’r TRH yn ddiweddarach eleni. Bydd y symud yn gyfle gwych i mi a’m grŵp weithio gydag ymchwilwyr eraill ym maes catalysis ac yn y sefydliad ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd. Bydd hyn yn galluogi i bartneriaethau cydweithio newydd gael eu meithrin a bydd ymchwil wyddonol yn cael ei datblygu’n y meysydd hyn.

Yr Athro Khaled Elgaid, Ysgol Peirianneg 

Grymuso trwy wybodaeth yw’r allwedd wrth greu allbwn ymchwil a strategaeth datblygu technoleg gynaliadwy sy’n seiliedig ar ddiwydiant i ateb gofynion y dyfodol yn y cyfnod heriol hwn. Mae sefydlu cyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn elfen hanfodol o ran cyflawni hyn, er mwyn sicrhau’r gallu a’r amgylchedd i ragori.

O’m safbwynt i mae’r cyfleusterau ystafell lân ICS uwch sy’n rhan o’r TRH, yn cynnig yr holl gyfarpar angenrheidiol a’r offer o’r radd flaenaf ar gyfer peirianneg ficro a nano i ddatblygu technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd uwch o dan yr un to. Yn ogystal, mae cael labordai cyfagos yn yr un adeilad i gefnogi dylunio a nodweddu uwch ar gyfer dyfeisiau a chylchedau integredig yn fantais allweddol.

Rwyf wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cyfleusterau hyn ers mis Ionawr 2018, gan gynnwys dylunio gofod labordy a manylebau ystafell lân ICS, yn ogystal â chynghori ynghylch anghenion o ran offer. Nawr mae fy nhîm ymchwil a’r grŵp ymchwil ehangach yn barod i ddatblygu ymhellach, gan fynd ati i ddatblygu technoleg i ateb gofynion systemau electronig y dyfodol; mae hyn cynnwys systemau cyfathrebu, radar a synhwyro cyflym. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni dyfeisiau a systemau i leihau eu hôl troed carbon.

Mae cyfnod cyffrous o’n blaenau, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r trawsnewidiad enfawr hwn o ran yr hyn y gall ymchwil ei gyflawni, ac at weithio’n agos gyda thimau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae TRH yn adnodd technolegol unigryw yn y DU sy’n cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i drawsnewid cysyniadau newydd yn allbynnau technoleg sy’n gystadleuol yn fyd-eang.

Dr David Morgan, Rheolwr Dadansoddi Arwynebau, Sefydliad Catalysis Caerdydd 

Mae’r amser wedi cyrraedd, mae labordai CCI yn barod, ac rydym yn barod i ddechrau’r gwaith o symud i’r TRH. Rwyf wedi bod yn gyffrous am y labordai newydd ers peth amser: gallwn eu defnyddio i ehangu nid yn unig ein hymchwil, ond hefyd ehangu mynediad at ein hystafelloedd nodweddu, megis microsgopeg electron a sbectrosgopeg ffotoelectron, i’n cydweithwyr yn ICS a chynyddu ein cysylltiadau diwydiannol. Bydd hyn yn ein galluogi i wthio ffiniau ein dealltwriaeth mewn meysydd sy’n cyd-fynd ag ethos y TRH – gwaith cydweithredol a throsiadol, yn benodol creu technolegau newydd ac ymchwil arloesol mewn meysydd megis ynni, uwch-ddeunyddiau, cyfathrebu, a gofal iechyd. Heb os, mae’n braf gweld y bwrlwm gan ein myfyrwyr ymchwil. Maent yn frwdfrydig ynghylch y cyfleoedd ymchwil sydd o’u blaenau a’r mynediad at feysydd gwaith newydd ac ystafelloedd ymgynnull, a fydd yn caniatáu datblygu syniadau ymchwil cyffrous.’