Canolfan yr economi gylchol yn sicrhau cyllid a gwobrau
13 Mehefin 2022Mae RemakerSpace – cartref newydd Prifysgol Caerdydd ar gyfer ailweithgynhyrchu ac ailddefnyddio – wedi sicrhau anrhydeddau newydd, wrth i’r ganolfan baratoi i agor drysau newydd.
Mae RemakerSpace yn ganolfan arloesol ar gyfer materion yr economi gylchol sy’n cynnwys offer y talwyd amdano’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Cafodd ei sefydlu gan Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestrau PARC, ac mae’n cael ei chefnogi gan DSV.
Bydd y ganolfan nid-er-elw’n agor yn fuan mewn lle pwrpasol yn adeilad sbarc|sparc newydd Prifysgol Caerdydd. A hithau’n llawn adnoddau i helpu i ymestyn cylch bywyd cynhyrchion a lleihau faint ohonynt sy’n cael eu disodli gan gynhyrchion newydd, bydd RemakerSpace yn gweithio gyda busnesau a’r gymuned i ysgogi newidiadau sylfaenol i’r ffordd rydym yn dylunio, yn defnyddio ac yn cael gwared ar gynhyrchion.
- Yn gyntaf, cyflwynodd DSV Wobr PARC 2021 i Xitian Yuan, un o fyfyrwyr ôl-raddedig Ysgol Busnes Caerdydd, am ei phapur ar gadwyni bloc yn rhan o gadwyni cyflenwi ffasiwn cylchol. Mae’r wobr yn cael ei rhoi i’r myfyriwr hwnnw sydd wedi gwneud yr ymchwil fwyaf perthnasol a defnyddiol i DSV.
Dywedodd Xitian: “Pleser o’r mwyaf oedd ennill Gwobr PARC! Roedd fy mhrosiect yn canolbwyntio ar dri pheth allweddol: cynaliadwyedd, cadwyni cyflenwi ffasiwn a’r defnydd o gadwyni bloc. Hoffwn ddiolch i Dr Qian Li a Dr Andy Lahy am eu hawgrymiadau a’u cymorth. Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrosiect o ddefnydd i fyfyrwyr eraill ac ymarferwyr cadwyni cyflenwi.”
- Yn ail, mae’r Athro Aris Syntetos a Dr Dan Eyers, sy’n gyfarwyddwyr, wedi sicrhau cyllid cymunedau ymchwil cydweithredol gan GW4 ar gyfer prosiect sy’n ategu ethos RemakerSpace.
Mae “Technology-Enabled Circularity (TEC): Digitalisation and Sustainability in Manufacturing” yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol sy’n dod ag arbenigedd mewn gweithgynhyrchu digidol ac economïau cylchol ynghyd i ddatblygu dyfodol gweithgynhyrchu mwy cynaliadwy.
Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Jennifer Johns o Brifysgol Bryste: “Diolch i’r cyllid hwn gan GW4, gallwn wella ein dealltwriaeth academaidd ac integreiddio safbwyntiau o bob rhan o feysydd STEM a’r gwyddorau cymdeithasol i greu rhwydwaith gwirioneddol ryngddisgyblaethol a helpu i fodloni gofynion y diwydiant a pholisïau i nodi atebion i broblemau cymdeithasol ac economaidd.”
Yn rhan o’r prosiect, bydd ymchwilydd yn cael ei gyflogi am chwe mis, o fis Mehefin tan ddiwedd 2022.
- Yn drydydd, mae SMART Expertise, sy’n cael ei gefnogi gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi rhoi cyllid i RemakerSpace er mwyn cefnogi ymchwil arloesol i werth ailbwrpasu deunyddiau a’r goblygiadau i’r economi gylchol.
Mae’r prosiect yn cael ei gynnal gan yr Athro Aris Syntetos, Dr Thanos Goltsos, Dr Daniel Eyers a Dr Tim Ramjaun. Mae’n cael ei reoli gan Dr Andy Treharne-Davies o Brifysgol Caerdydd a’i arwain ar y cyd gan Peter Tuthill a’r Athro Mike Wilson o DSV.
Ychwanegodd Aris a Dan: “Roeddem yn falch iawn o sicrhau cyllid i ymchwilio i werth ailbwrpasu deunyddiau, y goblygiadau i gydweithredu ym maes busnes a’r ffordd y bydd hynny’n cyfrannu at agenda’r economi gylchol. Nod ein prosiect yw hwyluso cydweithredu er mwyn lleihau olion traed carbon a’r defnydd o ddeunyddiau crai, ond creu ffrydiau gwerth newydd ar draws cadwyni cyflenwi, hefyd.
Partneriaid y prosiect yw DSV: Global Transport and Logistics a phedwar cydweithredwr newydd: Interface – cwmni cynhyrchion llorio cynaliadwy, Greenstream Flooring – busnes adfer lloriau arbenigol yng Nghymru sy’n defnyddio teils llawr a ailddefnyddiwyd, 3dGBIre – cwmni argraffu 3D sy’n defnyddio ffilamentau wedi’u hailbwrpasu wrth argraffu mewn 3D, CREATE Education – chwaer gwmni 3dGBIre sy’n canolbwyntio ar gyflwyno technolegau dylunio a gweithgynhyrchu yn yr ystafell ddosbarth a’r gymuned, a Rj-Alpha Advisory Services Ltd – cwmni cynghori sydd â rhwydwaith sefydledig o gwmnïau ar draws y gadwyn gyflenwi gylchol.
Bydd canolfan RemakerSpace yn agor ar gyfer busnes yn ei chartref newydd yr haf hwn. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gydweithredu, ebostiwch parc-institute@caerdydd.ac.uk.