Skip to main content

Adeiladau'r campws

Polisi arloesedd rhanbarthol newydd Ewrop

20 Mehefin 2022

Bydd Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol yn rhan bwysig o Agenda Arloesedd Ewrop, a fydd yn cael ei chyhoeddi fis nesaf. Nod y fenter yw gwneud Ewrop yn bwerdy arloesedd sy’n seiliedig ar leoedd er mwyn hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Yma, mae Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dadlau mai dim ond drwy roi sylw i arloesedd cymdeithasol y gall Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol lwyddo.

Heb newidiadau cymdeithasol sylfaenol i batrymau defnyddio a chynhyrchu, gall arloesedd technolegol fethu, er gwaethaf gobeithion mawr llunwyr polisïau. Dyma un o themâu’r llawlyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a lansiodd y rhaglen Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol.

Bydd Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol yn canolbwyntio ar arloesedd yn ystyr ehangaf y term ac yn ymwrthod â’r cysyniad cyfyngedig sy’n cyfystyru arloesedd â gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae’r gwersi a ddysgwyd o hanes yn dangos i ni nad yw arbrofion cyfyngedig i arloesi – fel ymdrechion i ddatblygu Canolfannau Technium ledled Cymru ar droad y mileniwm – yn gweithio heb wneud newidiadau sylfaenol yn yr ecosystem ranbarthol ehangach, fel integreiddio cadwyni cyflenwi’n fwy a sicrhau cysylltiadau mwy deinamig rhwng busnesau a phrifysgolion, er enghraifft.

Heddiw, mae mynd i’r afael â heriau cymdeithasol drwy arloesedd cymdeithasol yn her sy’n ein hwynebu. Dyna pam mae’r rhaglen Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol yn cael ei llywio gan gysyniad llawer ehangach o arloesedd a pham mae’r broses yn llawer mwy cynhwysol.

Bwriad Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol yw helpu i gyflawni amcanion Bargen Werdd Ewrop. Fe’u cynlluniwyd i gau’r bwlch arloesedd ledled Ewrop, ond mae llawer ohonom sy’n ymwneud â’r Pwyllgor Gwyddonol a fydd yn goruchwylio’r rhaglen Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol yn dod o ranbarthau sy’n canolbwyntio llai ar dechnoleg.

Mae arloesedd yn mynd yn llawer pellach na gwyddoniaeth a thechnoleg, er mor bwysig yw’r pethau hynny, ac mae’n mynd cymaint ymhellach nag ymchwil a datblygu.

Roedd yr agenda arloesedd newydd hon yn dra amlwg wrth lansio’r rhaglen Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol ym Mrwsel fis diwethaf. Cefais wahoddiad i siarad ar ran y Pwyllgor Gwyddonol, ac ymunais ag arweinwyr y dinasoedd a’r rhanbarthau a ddewiswyd i dreialu’r rhaglen Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol. Beth oedd fwyaf diddorol i mi oedd y ffaith mai ychydig iawn o arweinwyr lleol a soniodd am brosiectau gwyddoniaeth a thechnoleg yn unig. Yn hytrach, roeddent yn fwy awyddus i sôn am brosiectau a oedd yn mynd i’r afael â heriau cymdeithasol, fel Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Eglurais y bydd y dinasoedd a’r rhanbarthau sy’n perfformio orau’n tueddu i arloesi beth bynnag, heb eisiau llawer o gymorth gan y llywodraeth, ond yr hyn sydd fwyaf nodedig am y rhaglen Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol yw ei bod yn cynnig cyfle i bob math o le arloesi – mewn geiriau eraill, mae’n helpu pob lle i fod y lle gorau y gall fod.

Mae Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol yn deillio o ddulliau arbenigo clyfar, lle mae rhanbarthau’n canolbwyntio ar eu cryfderau economaidd ac yn eu datblygu drwy arloesi. Yn y pen draw, daeth strategaethau arbenigo clyfar yn rhagofyniad ar gyfer sicrhau cyllid datblygu gan yr UE. Felly, gwnaeth yr hyn a ddechreuodd yn ymgais i ailgyfeirio dulliau arbenigo clyfar at ddatblygu cynaliadwy arwain at greu’r fenter Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol llawer ehangach. Fodd bynnag, lle ystyriwyd mai polisi un o gyfarwyddiaethau’r Comisiwn Ewropeaidd oedd arbenigo clyfar (sef DG Regio, sy’n gyfrifol am bolisi trefol a rhanbarthol), gall pob Cyfarwyddiaeth Gyffredinol ddefnyddio’r Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol yn ffordd o brofi eu polisïau mewn lleoedd go iawn.

Mae Canolfan y Comisiwn ar gyfer Ymchwil ar y Cyd wedi llunio llawlyfr Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol sy’n cynnwys adnoddau a mecanweithiau llywodraethu a all helpu i gydlynu polisïau arloesi’n rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn yr UE ac ysgogi sawl ffynhonnell gyllid. Disgwylir i bob partneriaeth fanteisio ar y rhain a datblygu cenhadaeth leol ar gyfer arloesi ar lefel system.

Bydd 63 o ranbarthau’n cymryd rhan yn y peilot, naill ai’n unigol neu’n aelodau o rwydwaith, ynghyd â saith dinas a phedair o wladwriaethau’r UE. Dros gyfnod o flwyddyn, byddant yn profi’r adnoddau yn y llawlyfr ac yn ‘cyd-greu’r’ fethodoleg i’w defnyddio ledled yr UE yn y pen draw.

Mae arloesedd ar sail technoleg yn dal i gyfrif, wrth gwrs, ond bydd yn rhaid i dechnolegau newydd gael eu cyfuno a’u cysylltu’n llawn â mathau eraill o arloesedd er mwyn sicrhau eu bod yn sicrhau budd cymdeithasol ac amgylcheddol yn ogystal â’r difidendau economaidd.

Mae’r llawlyfr yn cynnwys adnoddau a fydd yn helpu llunwyr polisïau a gweithredwyr rhanbarthol i nodi sefyllfaoedd a all atal cynnydd a chyfleoedd ar gyfer datblygu technolegol a all gyfrannu at heriau cymdeithasol.

Mae trawsnewid systemau cynhyrchu a defnyddio’n allweddol. Bydd cryfhau’r busnesau newydd sy’n cael eu creu i fod yn brototeipiau cynaliadwy’n hanfodol, fel y bydd darparu adnoddau yn ôl y galw fel fframwaith blychau tywod rheoliadol ar gyfer arbrofi. Hefyd, peidiwch â gadael i ni anghofio potensial caffael cyhoeddus creadigol, gan fod angen harneisio pŵer prynu i greu marchnadoedd newydd, mentrau newydd a dulliau datblygu mwy cynaliadwy.

Er hynny, o dan yr wyneb, bydd angen i’r rhaglen Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol wneud defnydd o’r asedau anghyffwrddadwy sy’n meithrin yr holl fathau o gydweithredu a chydweithio sydd wrth wraidd pob ecosystem arloesedd ranbarthol ddeinamig. Efallai mai ymddiriedaeth yw’r ased anghyffwrddadwy mwyaf gwerthfawr – a’r mwyaf anghaffaeladwy – am fod arno werth ond nid pris. Gan na allwn brynu ymddiriedaeth, mae’n rhaid i ni ei sicrhau drwy gyflawni ein hymrwymiadau i bartneriaid o fewn y rhanbarth a thu hwnt.

Mae a wnelo’r rhaglen Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol â gwneud yr ysbryd hwn o gydweithio’n rhan o ecosystemau rhanbarthol, lle mae sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector yn dysgu gweithio ar y cyd er mwyn gallu dod o hyd i atebion i broblemau cyffredin ar y cyd yn well. Dylai cydweithredu gael ei feithrin yn hytrach na chael ei rwystro gan reoliadau sy’n ei gwneud yn bosibl creu synergeddau rhwng gwahanol gynlluniau cyllido – dyna pam mae’r llawlyfr Partneriaethau Arloesedd Rhanbarthol yn ceisio helpu lleoedd i ddefnyddio adnoddau gwahanol gynlluniau ac nid y Cronfeydd Strwythurol confensiynol yn unig.

Os darperir adnoddau ar eu cyfer, ac os cânt eu gwneud yn rhan o bolisïau eraill sy’n seiliedig ar leoedd, mae gan Bartneriaethau Arloesedd Rhanbarthol y potensial i helpu rhanbarthau Ewrop i arloesi yng nghyd-destun cysyniad ehangach o ddatblygu. Er y gall gwyddoniaeth a thechnoleg chwarae rhan bwysig yn y broses hon, mae arloesedd cymdeithasol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol – fel dinasoedd a rhanbarthau sy’n gofalu am yr hinsawdd, ynni adnewyddadwy, diogelwch bwyd, gofal urddasol ar gyfer henoed, er enghraifft – yn debygol o fod yn llawer mwy effeithiol.

Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu, Prifysgol Caerdydd