Catalydd arloesi ym maes seiberddiogelwch
7 Mehefin 2022Bydd Hwb Arloesedd Seiber newydd, y mae’r cynnig i’w sefydlu wedi bod yn cael ei ddatblygu ers 2019, yn ysgogi trawsnewidiadau a thwf yn niwydiant seiberddiogelwch Cymru. Fel yr eglura’r Athro Pete Burnap, mae’n ceisio gwireddu holl botensial y rhanbarth drwy sicrhau bod cyfleusterau profi technegol o’r radd flaenaf ar gael a chyfuno hynny â gallu i sicrhau seiberddiogelwch, a fydd o fudd i glystyrau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd heddiw ac yn y dyfodol.
“Mae’r cynnig i sefydlu Hwb Arloesedd Seiber wedi denu buddsoddiad o £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd rhagor o gyllid ar gael i ddatblygu’r bartneriaeth â chydweithredwyr, sy’n cynnwys Airbus, Sefydliad Alacrity, CGI, Thales, Tramshed Tech a Phrifysgol De Cymru. Fodd bynnag, gydag amser, bydd yr Hwb yn newid i ddod yn sefydliad cynaliadwy annibynnol.
“Daw’r buddsoddiad ar adeg hollbwysig. Nododd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod seiberddiogelwch yn un o’r pum clwstwr â blaenoriaeth yn y rhanbarth. Nodwyd hefyd mewn adroddiad diweddar gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y byddai’r cyfle i sicrhau twf yn cael ei golli ac na fyddai’r rhanbarth yn gwneud cystal â rhanbarthau eraill yn y DU heb gymorth.
“Nod yr Hwb yw cynyddu nifer y busnesau seiberddiogelwch sy’n lleoli eu hunain ac sy’n datblygu yn ne-ddwyrain Cymru a gwella sgiliau seiberddiogelwch er mwyn ehangu ac amrywio’r gronfa talent seiberddiogelwch. Y gobaith yw y byddwn wedi uwchsgilio 1,750 o unigolion â gwybodaeth arbenigol am seiberddiogelwch erbyn 2030, drwy adeiladu ar weithgarwch llwyddiannus Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion.
“Yn ogystal â hynny, rydym yn gobeithio datblygu cymysgedd o raglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar y cyd â sefydliadau addysg uwch a darparwyr addysg bellach. Byddai’r rhaglenni hyn yn darparu ar gyfer gweithwyr seiberddiogelwch proffesiynol presennol, y rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar a’r rhai sy’n ystyried ail-sgilio ac ymuno â’r diwydiant, a fydd, yn ei dro, yn cynhyrchu £3 miliwn mewn incwm Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
“A minnau’n Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg sydd â record o ddatblygu ymchwil seiberddiogelwch o’r radd flaenaf a’i throi’n gynhyrchion masnachol, rwyf wedi gallu datblygu’r cynnig i sefydlu Hwb Arloesedd Seiber.
“Bydd yr Hwb Arloesedd Seiber hefyd yn dod â phartneriaid yn y diwydiant ac arbenigwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd ynghyd i ganolbwyntio ar heriau sy’n seiliedig ar y farchnad a datblygu datrysiadau newydd a chynhyrchion masnachol.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr Hwb a’i waith, cysylltwch â’r Athro Pete Burnap (burnapp@caerdydd.ac.uk). Fel arall, ewch i’r Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch.