Gwnewch yrfa ym maes arloesedd drwy Crwsibl Cymru
15 Chwefror 2022Mae gan ymchwilwyr o’r byd academaidd a’r diwydiant tan 18 Chwefror i gofrestru i wneud rhaglen arbennig Crwsibl Cymru, sy’n ceisio mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru ym maes ymchwil.
Mae’r rhaglen ar gyfer ymchwilwyr dawnus sydd ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa, sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad o wneud ymchwil ôl-ddoethurol (neu gyfwerth) ac sy’n hyddysg mewn unrhyw ddisgyblaeth, sy’n cynnwys gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth, y celfyddydau, dylunio a’r gwyddorau cymdeithasol a gwleidyddol.
Rhaid iddynt fod yn gweithio yng Nghymru, naill ai mewn sefydliad addysg uwch sy’n bartner neu ym maes ymchwil a datblygu ym myd busnes, y diwydiant neu’r sector cyhoeddus/trydydd sector.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn ganolog i’r rhaglen ers iddi gael ei lansio dros ddegawd yn ôl.
Bu i Dr Yingli Wang, Darllenydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, wir fwynhau bod yn rhan o garfan gyntaf Crwsibl Cymru.
“Agorodd fy llygaid i sut y gallai cydweithio rhyngddisgyblaethol weithio’n ymarferol, ac roedd y gwahanol siaradwyr ar y rhaglen yn wirioneddol ysbrydoledig,” meddai Dr Wang.
“Un o brif uchafbwyntiau gwneud y rhaglen oedd cael y cyfle i gydweithio â Dr Martin O’Neil. Buom yn gweithio gyda’n gilydd i ystyried sut y gallai arloesi mewn cadwyni cyflenwi helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd, her gymhleth y mae cymunedau lleol yng Nghymru’n ei hwynebu. Mae hyn wedi arwain at dreialu model pantri menter gymdeithasol a’i gyflwyno wedi hynny yng Nghaerdydd a De Cymru.”
Dywedodd yr Athro Alan Parker, Pennaeth Canserau Solet yn Is-adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd: “Mae Crwsibl Cymru, a’r gwersi a ddysgais wrth ei gwneud, wedi fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa academaidd, yn ogystal â datblygu fy ngallu i fynd i’r afael â heriau creu cwmni deillio er mwyn i ni ddatblygu ein technolegau ar gyfer y clinig.
“Rhoddodd y rhaglen yr hyder i mi gyflawni, dysgu, gwrando ac arwain, yn ogystal â chipolwg ar hanfodion rheoli pobl, cydweithio a dylanwadu ar bolisïau.
“Dim ond nawr, saith mlynedd yn ddiweddarach, y mae’n amlwg i mi faint rwy’n dibynnu ar y sgiliau a ddatblygais wrth wneud Crwsibl Cymru. Rwy’n wir yn argymell y rhaglen i unrhyw ddarpar academydd. Ni fyddwch yn difaru, nac yn edrych yn ôl!”
Ychwanegodd yr Athro Rhys Pullin, Pennaeth Adran Peirianneg Fecanyddol a Meddygol Prifysgol Caerdydd: “Roedd gwneud Crwsibl Cymru’n gyfle i ddatblygu fy hyder wrth wneud ymchwil a chydweithredu. Mae wedi fy arwain at yrfa ryngddisgyblaethol, lle mae nodi cyfleoedd a chysylltiadau wedi bod yn hollbwysig i sicrhau effaith go iawn yn beiriannydd ar draws amrywiaeth o bynciau, o’r gwyddorau cymdeithasol i ymyriadau meddygol.”
A hithau’n cael ei hariannu gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, nod y rhaglen yw helpu’r rhai sy’n ei gwneud i ddarganfod:
- sut mae ymchwilwyr eraill ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa sy’n hyddysg mewn disgyblaethau eraill yn mynd i’r afael â’r un materion;
- sut y gallant drosglwyddo eu gwybodaeth i’r byd cyhoeddus er mwyn cael effaith;
- pa sgiliau ac agweddau sy’n debygol o wneud eu gwaith ymchwil yn fwy arloesol;
- sut y gall meddwl yn greadigol wneud gwahaniaeth i’w gwaith a’u gyrfa.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw hanner nos ar 18 Chwefror. Felly, gwnewch gais yn fuan drwy glicio yma!