Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Lled-ddargludyddion yn rhoi hwb i economi Cymru

8 Chwefror 2022

Mae adroddiad newydd a gyhoeddodd Uned Ymchwil Economi Cymru (WERU) Prifysgol Caerdydd yn tynnu sylw at gyfraniad clwstwr lled-ddargludyddion CSconnected – y cyntaf o’i fath yn y byd. Mae arbenigedd diwydiannol ac academaidd cyfunol y clwstwr yn galluogi portffolio eang o geisiadau, o gyfathrebu gwydn i dechnolegau gofal iechyd uwch a dyfeisiau ynni effeithlon a fydd yn helpu i gyrraedd targedau sero-net. Yma, mae’r Athro Max Munday, Cyfarwyddwr WERU, a Chris Meadows, Cyfarwyddwr CSconnected, yn trafod y canfyddiadau.

“Fel yn 2020, ac er gwaethaf cefndir economaidd cymhleth dan gysgod pandemig COVID-19 a Brexit, rhagorodd y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd ar yr economi ehangach mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys twf swyddi ac allforion.

Roedd allforion y sector yn adlach i’r duedd gyffredinol a welodd gwymp gwerth allforion Cymru gan tua 25% dros y tair blynedd hyd at C1 2021.

Mae twf cadarn y gymuned lled-ddargludyddion cyfansawdd yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru ac mae’n dangos gwydnwch a chynaliadwyedd a fydd yn gadarnhaol ar gyfer rhagolygon economaidd hirdymor y rhanbarth. Mae’r ecosystem sy’n tyfu yn cwmpasu cwmnïau sector preifat, sefydliadau academaidd ac asiantaethau’r llywodraeth.

Mae cefnogaeth gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI yn darparu sbardun gwych i’r rhanbarth fod yn ganolog i’r chwyldro technoleg nesaf, gan gynyddu ei gyfraniad at economi Cymru.

Yn gyffredinol, tyfodd cyflogaeth yn 2021 gan tua 14% o flwyddyn i flwyddyn hyd at tua 1,600 o weithwyr llawn amser. Roedd y sector yn cyfrif am dros 10% o gyfanswm cyflogaeth Cymru mewn peirianneg drydanol ac electronig.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod cyflog gros cyfartalog ar draws y sector tua 60% yn uwch na’r cyflog cyfartalog cyffredinol yng Nghymru.

Mae cynlluniau ehangu a gyhoeddwyd eisoes ar draws y diwydiant yn rhoi arwydd cryf y disgwylir i dwf mewn cyflogaeth gyflymu gyda phrinder sgiliau mewn rhai rhannau o’r gymuned lled-ddargludyddion cyfansawdd yn mynd yn fwy difrifol.

Mae sector technoleg Cymru wedi perfformio’n well na’r allbwn technoleg cyffredinol yn y DU dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r adroddiad yn awgrymu bod perfformiad cymharol gryf y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yng nghyfnod 2019-2021 yn atgyfnerthu’r duedd hon yn economi Cymru, er gwaethaf amodau masnachu cyffredinol gwael mewn llawer o weithgynhyrchu Cymru.

O ran gwerth uniongyrchol i economi Cymru, amcangyfrifir bod y sector wedi cyfrannu tua £194M o Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) yn uniongyrchol, sy’n cynrychioli tua 1.7% o GYC gweithgynhyrchu Cymru a thua 15.4% o GYC yn y sector electronig a pheirianneg sydd wedi’i ddiffinio’n fwy cul.

Mae prynu nwyddau a gwasanaethau rhanbarthol, a thalu incwm cyflogau, yn cefnogi’n anuniongyrchol £83 miliwn arall o GYC – felly mae’r clwstwr, yn gyffredinol, yn cefnogi tua £277 miliwn o GYC Cymru yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Rydym yn gobeithio, drwy gydweithio pellach ar draws diwydiant a’r byd academaidd, y bydd y clwstwr yn parhau i ffynnu.”

Ysgrifennodd yr Athro Munday, Dr Annette Roberts a’r Athro Robert Huggins, Prifysgol Caerdydd, yr adroddiad. Gellir ei lawrlwytho a’i weld yn CSconnected.com