Cyfrif ar Abacws
1 Chwefror 2022Bydd adeilad newydd Abacws ar gyfer yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn sbarduno arloesedd ym maes y gwyddorau data yng Nghymru a thu hwnt. Mae canolfan ddiweddaraf Prifysgol Caerdydd yn uno ymchwil, addysgu a chydweithio â diwydiant o dan yr un to. Yma, mae Beatrice Allen, Rheolwr Ysgol, Ysgol Mathemateg a Pierre Wassenaar, Cadeirydd,Penseiri Stride Treglown yn disgrifio’r daith o gynllun i realiti.
“Roedd y briff cychwynnol ar gyfer cydleoli Mathemateg a Chyfrifiadureg a Gwybodeg yn seiliedig ar ddatblygu galluoedd ar gyfer ymchwil ac addysgu wrth gefnogi carfan gynyddol o fyfyrwyr.
Roedd galluogi cydweithio ac arloesedd yn ganolog i lwyddiant. Roedd nifer o broblemau yn ein hadeiladau blaenorol. Nid oedd digon o le cymunedol yno, nid oedd hunaniaeth weledol ar gyfer y disgyblaethau, ac nid oedd gwaith y staff na’r myfyrwyr yn weladwy.
Roeddem eisiau adeilad croesawgar lle gallem ddatblygu partneriaethau a chydweithio hirdymor gyda chydweithwyr mewnol, partneriaid allanol ac ymwelwyr.
Yn ein hen adeiladau roedd pawb ar wahân gan nad oedd y mannau addysgu ac ymchwil wedi’u cysylltu’n dda. Hefyd roedd drysau solet, diffyg arwyddion deinamig a thaith gerdded pum munud rhwng y ddau adeilad yn rhwystro cysylltedd.
Bu cynrychiolwyr o’r Ysgolion a Stride Treglown yn ymweld â nifer o adeiladau newydd a phrosiectau adnewyddu mewn prifysgolion eraill. Roedd hyn er mwyn creu pwyntiau cyfeirio cyffredin ar gyfer datblygu’r dyluniad ac egluro’r weledigaeth newydd ar gyfer Abacws gyda phrofiad uniongyrchol o sut roedd gwahanol gynlluniau a chyfagosrwydd yn gweithio i alluogi cydweithio ac amlygrwydd.
Fodd bynnag, nid oedd gan yr un o’r adeiladau hyn ddyluniad perffaith a oedd yn gweddu i Abacws a’i friff eang i greu canolbwynt technegol unigryw, wedi’i deilwra i’w bwrpas.
Mae tri math o ofod yn Abacws: ardaloedd addysgu ffurfiol wedi’u llunio i gyd fynd â gofynion addysgu’r carfanau; swyddfeydd sy’n dangos ansawdd a maint y gofod ar draws yr ysgolion, a mannau anffurfiol a oedd yn brin yn yr adeiladau blaenorol. Mae’r amgylcheddau hyn wedi’u hintegreiddio ar bob llawr i feithrin rhyngweithio o fewn ac ar draws disgyblaethau a grwpiau defnyddwyr.
Hyd yn oed o fewn mannau ffurfiol gall y cynllun amrywio i alluogi llawer o arddulliau addysgu, o ddarlithfa draddodiadol i ystafelloedd yn benodol ar gyfer gwaith grŵp dan arweiniad. Mae yna hefyd labordai cyfrifiadurol arbenigol, yn amrywio o’r labordy fforensig seiber a labordy Linux i’r ‘ystafell fasnach’ mathemateg ariannol.
Mae’r adeilad ar gyrion campws canolog y Brifysgol ac mae wrth ymyl Canolfan Technoleg Busnes Caerdydd, Undeb y Myfyrwyr, Gorsaf Reilffordd Cathays a’r rheilffordd y tu ôl i Ffordd Senghennydd.
Yr her i’r dylunwyr oedd gweithio gyda’r safle cyfyng, cul hwn, a datblygu adeilad gydag ôl troed cydwybodol. Roedd angen iddo fod o faint priodol ond hefyd roedd angen i uchder y lloriau fod o fewn terfynau derbyniol gan ei fod yn weladwy o Ardal Gadwraeth y Ganolfan Ddinesig.
Fe wnaethom strwythuro’r gofodau mewnol gyda pharthau cyhoeddus, preifat, a’r rhai oedd angen gwahoddiad gan wneud yn siŵr bod digon o fannau cysylltu rhyngweithiol i glymu’r elfennau addysgu a dysgu ffurfiol gyda’i gilydd.
Mae’r ffasâd wedi’i ddewis yn ofalus i ymateb i heriau sŵn, yn enwedig o’r de ar hyd y rheilffordd a hefyd i ddefnyddio’r gwres a’r golau o’r haul yn effeithiol. Mae’r cyfeiriadedd, y ffabrig, y gwydr a’r siap yn ymarferol tu hwnt. Mae cysgod allanol i gadw’r adeilad yn gynnes yn y gaeaf a’i atal rhag bod yn rhy boeth ym misoedd yr haf, a chael golau naturiol da trwy gydol y flwyddyn.
Her dylunio allweddol oedd cynnal a gwella’r llwybrau cerdded presennol o amgylch y safle a rhwng Heol Senghennydd a gorsaf Cathays.
Crëwyd plaza i’r dwyrain o’r adeilad i alluogi pobl i gael mynediad at yr orsaf. Nod yr adeilad yw llenwi’r graen trefol ar hyd y ffordd. Mae rhodfa golofnog yn cynnig llwybr cysgodol i gerddwyr, ac wrth ymyl hwn mae ffasâd gwydr sy’n caniatáu i gerddwyr weld a rhyngweithio â’r gweithgareddau y tu mewn.
Argraffiadau cyntaf ar ôl ei ddefnyddio
Mae’r adeilad yn agored ac yn groesawgar, gyda’r grisiau canolog yn nodwedd amlwg yn yr atriwm. Er bod Abacws wedi agor, gyda rhai cyfyngiadau COVID yn dal yn eu lle, mae’r mannau cydweithio wedi cael eu defnyddio’n dda gyda myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau cyfoedion ac yn rhannu sgriniau i wylio recordiadau o ddarlithoedd ac i weithio mewn grwpiau.
Bu rhwystrau, wrth gwrs, ond mae’r adborth am sut mae’r adeilad cyffredinol yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth a chymuned i fyfyrwyr a staff wedi bod yn wych!
Mae tîm y prosiect nawr yn edrych ymlaen at weithio ar ein gwerthusiad ar ôl meddiannaeth i wneud yn siŵr ein bod yn gwrando ac yn ymateb i adborth gan bob un o’n grwpiau defnyddwyr.
Beatrice Allen, Rheolwr Ysgol, Ysgol Mathemateg
Pierre Wassenaar, Cadeirydd, Penseiri Stride Treglown