RemakerSpace yn arwain y chwyldro gwyrdd
12 Gorffennaf 2021Bydd canolfan newydd wedi ymrwymo i drwsio, ailddefnyddio ac ailgylchu yn symud i’w gartref yn sbarc | spark, #CartrefArloesedd newydd Prifysgol Caerdydd.
RemakerSpace yw canolfan academia/diwydiant nid er elw cyntaf Cymru, sy’n canolbwyntio ar yr economi gylchol, ail-weithgynhyrchu a defnyddio deunyddiau cynaliadwy.
Yn fenter ymgysylltiad cymunedol a busnes, mae RemakerSpace wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Caiff ei gefnogi gan Brifysgol Caerdydd a’r darparwr trafnidiaeth fyd-eang a logisteg DSV, ac mae’n cefnogi ymestyn cylchoedd bywyd cynnyrch a dod â chynllunio darfodiad cynnyrch i ben.
Siaradodd yr Athro Aris Syntetos, Cyfarwyddwr RemakerSpace a Chadeirydd Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg, a Rhestrau Eiddo PARC gyda Business News Wales, ac amlinellodd cyfraniadau pwysig y ganolfan at dargedau trawsffurfio gwyrdd uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, a sut gall hyn ysbrydoli busnesau Cymru.
Pan fydd RemakerSpace yn agor yn sbarc | spark dros y gaeaf, ei nod fydd newid agweddau sylfaenol yn y ffordd rydym yn dylunio, defnyddio a gwaredu cynnyrch; gan alinio gyda chenhadaeth Llywodraeth Cymru i drawsnewid y wlad yn economi gylchol, a datblygu Cymru dim gwastraff a charbon sero net.
Siaradodd yr Athro Syntetos â Newyddion Busnes Cymru am gyfraniadau pwysig RemakerSpace at drawsnewidiad radical Cymru i fod yn economi gylchol:
“Beth sy’n benodol gyffrous i ni fel academyddion yw bod RemakerSpace wedi deillio o’n hymchwil sylfaenol ein hunain, a gynhaliwyd gennym yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae’r ymchwil hon yn ymchwil dau faes pwysig iawn: Cadwyni Cyflenwi Ail-weithgynhyrchu Caeedig a Gweithgynhyrchu Ychwanegion (Argraffu 3D yn benodol) Cadwyni Cyflenwi Galluogedig. Mewn gwirionedd, drwy ddod â’r ddau beth hyn ynghyd rydym wedi gallu dychmygu a gwireddu RemakerSpace [yn sbarc | spark].”
Mae Dr Dan Eyers o Brifysgol Caerdydd hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan, ac yn cydweithio ag Athro Syntetos i helpu i gyflawni arloesedd technolegol RemakerSpace. Yn ogystal, mae arbenigwyr logisteg yn DSV yn rhoi arweiniad strategol a chefnogaeth weithredol i’r fenter gyffrous newydd hon.
Croesawodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd newydd Cymru, y cyhoeddiad y byddai Remakerspace yn ymuno â sbarc | spark ddiwedd y flwyddyn mewn erthygl yma.
Gallwch wrando ar y cyfweliad sain llawn gydag Aris Syntetos yma:
Intermittent Demand Forecasting, gan yr Athro John Boylan , Prifysgol Caerhirfryn, a’r Athro Aris Syntetos , Prifysgol Caerdydd, yw’r gyfrol gyntaf erioed i ganolbwyntio ar ddulliau a methodolegau rhagweld galw ysbeidiol yn hytrach na galw cyflym. Ar gael gan Wiley. ISBN: 978-1-119-13530-2 Mehefin 2021 400 Tudalen