Cyffrous ar gyfer yr agenda arloesedd yng Nghymru.
21 Mehefin 2021![](https://blogs.cardiff.ac.uk/innovation/wp-content/uploads/sites/561/2021/03/cityregionnew-600x338.jpg)
Mae’n gyfnod cyffrous ar gyfer yr agenda arloesedd yng Nghymru. Mae’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymgymryd ag ymchwil yn ddiweddar ochr yn ochr â llywodraeth Cymru gan ystyried safbwyntiau mwy na 50 o randdeiliaid ar bolisi arloesedd presennol a lle hoffen nhw gael datblygiad pellach yn y dyfodol.
Siaradodd Business News Wales â’r Athro Rick Delbridge, Athro dadansoddiad sefydliadol yn Ysgol Busnes Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a Chyd-gynullydd y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd.
Siaradodd yr Athro Delbridge am adnewyddu’r fframwaith ar strategaeth ymchwil a datblygu a gwaith Buddsoddi Ymchwil a Datblygu’r DU – a beth mae’r datblygiadau hyn yn ei olygu i Gymru, wrth i awydd am agenda arloesedd mwy uchelgeisiol a chynhwysol gael ei ddatgelu.
Yn ôl yr Athro Delbridge, mae angen dealltwriaeth ddyfnach o arloesedd sy’n ein cymryd y tu hwnt i safbwynt sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth neu’r gwaith o gynhyrchu technoleg newydd yn unig. Er bod y rhain yn feysydd gwerthfawr i barhau i ganolbwyntio arnynt, mae’n bwysig bod y term Arloesedd yn cael ei ystyried mewn ystyr llawer ehangach- Un sy’n arddangos gwerth sy’n gymdeithasol o ran natur, ac nid economaidd yn unig.
Mae datblygiad sbarc yn cyd-fynd â’r safbwynt hwn y gellir ystyried maes arloesedd yng Nghymru fel rhywle y gellir dibynnu arno ar gyfer meddwl sy’n seiliedig ar genadaethau, gan ei fod yn cynnig ei hun fel rhywle i brofi a threialu syniadau.
Mae sbarc yn barod yn gweithio ar feysydd megis cynllunio a chyflwyno cronfa her, mewn partneriaeth â’r Lab a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, er mwyn helpu i ddarparu cymorth ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus sy’n ceisio mynd i’r afael â materion cymdeithasol, ac mae’r Athro Delbridge yn rhoi manylion am yr effaith y gall parc ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ei chreu o ran incwm a lles economaidd yng Nghymru.
Cliciwch isod i glywed y cyfweliad llawn gyda’r Athro Rick Delbridge ar botensial gweithgaredd a arweinir gan arloesedd a’r hyn y mae angen i Gymru ei wneud er mwyn mynd i’r afael â chyfleoedd sydd i ddod a manteisio arnynt.