Pennaeth Britishvolt yn cefnogi dyfodol glanach
7 Gorffennaf 2020Mae cynfyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd, Orral Nadjari (MBA, 2008), eisiau adeiladu ffatri werdd enfawr sy’n cynhyrchu batris cyntaf a mwyaf y DU ym Mro Morgannwg Yma, mae Prif Swyddog Gweithredol a sefydlydd Britishvolt yn dweud wrth blog y Cartref Arloesedd pam ei fod o’r farn bod her COVID-19 ar hyn o bryd yn cynnig mwy o gyfleoedd yn y dyfodol i gerbydau a bwerir gan fatris.
Dechreuodd taith Mr. Nadjari tuag at lwyddiant ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cwblhaodd MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd ar ôl astudio BSc mewn Astudiaethau Busnes a Japaneeg.
“Mae fy ngyrfa’n seiliedig ar fy amser ym Mhrifysgol,” meddai Mr. Nadjari.
“Cafodd ei ysgogi gan weledigaeth a dyheadau entrepreneuraidd, ac mae’n bleser gennyf eu gwireddu o’r diwedd gyda Britishvolt. Rwyf wrth fy modd â’r gobaith o ddychwelyd i adeiladu ffatri enfawr bwysig yn agos iawn at y lle y treuliais saith mlynedd orau fy mywyd.”
Mae Britishvolt yn gobeithio creu hyd at 4,000 o swyddi os yw’n cael adeiladu ei ffatri enfawr yn Sain Tathan. Y dref – lle mae Aston Martin yn gwneud ceir trydanol – yw’r ‘opsiwn a ffefrir’ gan Britishvolt ar hyn o bryd.
Cred Mr Nadjari fod Sain Tathan yn “lleoliad da iawn” ar gyfer y ffatri enfawr, a allai ddod â thon gychwynnol o fuddsoddiad gwerth £1.2bn i dde Cymru.
Mae’r ffatri, sy’n 1km o hyd, 250m o led a 25m o uchder, yn ‘ymrwymiad enfawr’ – nid oes modd gosod rhywbeth mor fawr â hynny yn unrhyw le.”
Mae Mr. Nadjari, sydd ar hyn o bryd mewn trafodaethau am y safle gyda Llywodraeth Cymru, o’r farn y bydd y pandemig yn creu marchnadoedd newydd ar gyfer technolegau glanach a gwyrddach fel batris ïon lithiwm, y rhan allweddol mewn ceir trydan yn ogystal â chynhyrchion storio ynni.
“Yn fy marn i, mae COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cadwyni cyflenwi lleol, y gellir eu gweld ar draws sawl sector a diwydiant,” dywedodd Mr. Nadjari wrth blog y Cartref Arloesedd.
“Ein cenhadaeth yw sicrhau bod batris yn cael eu cynhyrchu ar y tir ar gyfer marchnad cerbydau trydan y DU, a fydd yn cynyddu’n aruthrol mewn blynyddoedd i ddod wrth i ni drosglwyddo i economi carbon isel. Yn gryno, credwn, yn hytrach na chreu heriau, fod y pandemig wedi creu cyfleoedd i Britishvolt a llawer o rai eraill, trwy ddangos arwyddocâd cael cadwyni cyflenwi mwy gwyrdd, lleol.
“Credwn y bydd hyn yn hanfodol i’r diwydiannau gweithgynhyrchu a modurol, yn ogystal ar gyfer twf economi’r DU yn y dyfodol.”
“Rydym wedi bod yn cynnal sgwrs uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ers sawl wythnos, ac mae’r parodrwydd maen nhw wedi’i ddangos i ni wedi bod yn hynod ddiddorol, a dyna pam mae cyfle gyda nhw i ennill y lleoliad ar gyfer ein safle.”
“Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith eithriadol a Chymru yw’r lleoliad sydd orau gennym – gwlad wych i wneud busnes gyda photensial enfawr heb ei gyffwrdd.”
Yn ôl Britishvolt, ei uchelgais yw adeiladu cyfleusterau sy’n cynhyrchu batris sydd â gallu i greu cymaint â 30 awr gigawat (GWh) y flwyddyn, a fyddai’n cyfateb yn fras i Gigafactory Tesla-Panasonic yn Nevada.
Mae Sefydliad Faraday, a gefnogir gan y llywodraeth, yn amcangyfrif y bydd angen 130 GWh o gapasiti blynyddol erbyn 2040 os yw’r DU am gadw sector modurol mawr.
Mae gwneuthurwyr ceir yn Ewrop a’r DU wedi tueddi i fewnforio celloedd batri, sydd wedyn yn cael eu rhoi at ei gilydd mewn pecynnau i fynd mewn ceir, o Tsieina a De Korea, ond maen nhw’n cydnabod angen cynyddol i sicrhau cyflenwad o gelloedd yn agosach at adref.
“Yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd, gwnes i gydnabod angerdd am arloesi yng Nghymru. Mae gan Britishvolt y cefndir a’r adnoddau i sbarduno sector moduron glanach a gwyrddach, gan ddod â ffyniant ehangach i dde Cymru.”