Alpacr yn codi $200k yn Silicon Valley
29 Mehefin 2020Mae busnes newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Alpacr – y rhwydwaith cymdeithasol ar gyfer pobl sy’n hoff o deithio ac antur – wedi datblygu llawer ers iddo gael ei lansio ddwy flynedd yn ôl. Yma, mae Dan Swygart (BSc Econ), Prif Weithredwr ac un o raddedigion Caerdydd, yn esbonio taith Alpacr o Gymru i Silicon Valley wrth iddo gadarnhau rownd ariannu fawr.
“Daeth Alpacr o syniad y gwnaethom ei drafod yng Nghlwb Mynydda Prifysgol Caerdydd. Beth petai anturwyr yn gallu cwrdd a rhannu taith bywyd wrth iddynt deithio? A beth os oedd un llwyfan syml i rannu cynnwys, cwrdd ag eraill, chwilio am lefydd newydd i ymweld â nhw a dod o hyd iddynt, a threfnu teithiau?
“Mae’r ail genhedlaeth o gyfryngau cymdeithasol yn cynyddu gan ganolbwyntio ar ‘arbenigedd fertigol’ – busnesau sy’n gwasanaethu cynulleidfa penodol a’u hanghenion. Gallant gyrraedd gynulleidfa byd-eang gyda chyn lleied â phosib o orbenion.
“Gyda’r cynnydd yn y genhedlaeth nesaf o gyfryngau cymdeithasol, fel Twitch, a TikTok, mae rhwydweithiau cymdeithasol y dyfodol yn canolbwyntio ar ddiddordebau arbenigol.
“Nod Alpacr yw dominyddu’r farchnad cyfryngau cymdeithasol byd-eang ar gyfer teithio ac antur. Mae’r ap yn symleiddio’r defnydd o lawer o lwyfannau: TripAdvisor, Pinterest, Instagram, Facebook, ac ati – ac rydym yn cynnig nodweddion gwella defnydd a defnyddiadwyedd unigryw nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd ar y farchnad.
“Mae ein rhyngwyneb yn nodedig iawn – eich ‘llais antur’ chi yw e – ac mae’n dod â phobl at ei gilydd, p’un ai ydynt yn warbacwyr yn teithio o gwmpas Asia, yn caiacio yn yr UDA, neu’n sgïo yn Ffrainc.
“Rydym wedi’n lleoli yng Nghaerdydd ers i ni ddechrau, ac newydd gadarnhau rownd fuddsoddi ffrwd £160k ($200k). Hyd yn hyn mae’r cwmni wedi codi dros £320k ($400k). Rydym ar y trywydd i greu marchnad newydd sbon.
“Ac yn union fel taith gwarbacwyr, mae rhedeg Alpacr wedi bod yn daith o ddarganfod. Sefydlais y busnes yn fuan ar ôl graddio yn Economeg (2017) ac rwyf wedi mynd ati i geisio dod â thîm o ddatblygwyr a chynghorwyr meddalwedd o’r radd flaenaf at ei gilydd.
“Rydym hefyd wedi croesawu Tyler Droll fel ein Cyfarwyddwr Anweithredol. Fe yw Cyn-Brif Weithredwr YikYak, ap rhwydweithio cymdeithasol a gododd $74miliwn mewn cyllid. Gydag arbenigedd Tyler, rydym yn disgwyl tyfu’n syfrdanol yn 2020.
“Yn wreiddiol gwnaethom lansio ar draws Ewrop a De-Ddwyrain Asia, gyda digwyddiadau marchnata mawr yn Barcelona, Bali, Gwlad Thai, a llawer mwy.
“Dangosodd buddsoddwr mawr o dramor ddiddordeb, ac ymrwymodd £250k. Ar ôl gweithio’n agos gyda’r DU a Llywodraethau rhyngwladol a thimau o gyfreithwyr – yn y bôn, chwe mis o waith caled, ymrwymiad a gwaith papur – chwalodd y cytundeb, a methodd ein buddsoddwr i gyflawni ei ran.
“Roeddwn i nawr mewn dyled mawr. Roedd yn rhaid mi fentro. Felly agorais gerdyn credyd a hedfanais i Silicon Valley – hwn oedd yr unig le roeddwn i’n gwybod y gallwn i gadw breuddwyd yr Alpacr yn fyw.
“Yr eiliad y cyrhaeddais yno, lluniais arwydd o gardfwrdd a sefais yng nghanol Silicon Valley, gan gyhoeddi fy mod yn chwilio am fuddsoddiad. Mae’n rhaid fy mod wedi dewis y man cywir gan fod Palo Alto ryw 10 munud o Google, Facebook, Pencadlys Apple a llawer mwy.
“Dechreuodd yr arwydd ddenu sylw, a chyn bo hir roeddwn yn cael coffi gyda Steve Jobs, un o’r dynion a sefydlodd Apple, ac yn cyflwyno fy syniadau i rai o’r grwpiau Buddsoddwyr Angel mwyaf yn y byd.
“Ers hynny, mae Alpacr wedi gallu cael buddsoddiad gan fuddsoddwyr o bob rhan o’r byd, ac rydym o’r diwedd wedi cau’r rownd er gwaethaf pandemig COVID-19.
“Yn fuan, bydd Alpacr yn cyflwyno rhai diweddariadau mawr i’w feddalwedd. Rydym yn lansio ein hymgyrch farchnata fyd-eang fwyaf ac yn gosod swyddfa loeren yn Silicion Valley, lle bydd y tîm rheoli wedi’i leoli.
“Pan ddechreuodd Alpacr, cawsom help gwerth £200 gan Fenter Prifysgol Caerdydd – ac rydym wedi agosáu at gadarnhau rownd gyllid sydd werth miloedd yn fwy.
“Os oedd Alpacr yn ysgrifennu ei ddyddiadur teithio ei hun, efallai y byddai’n dweud ei fod wedi bod yn daith o ddarganfod go iawn. Rydym yn edrych ymlaen at fwy o anturiaethau gwych yn y dyfodol.”
Dan Swygart
Prif Weithredwr a Sylfaenydd Alpacr