Sefydliad Catalysis Caerdydd – Gweledigaeth ar gyfer Twf Glân
21 Ionawr 2020“Drwy gydol 2019, amlygodd digwyddiadau hinsoddol byd-eang – o danau gwylltiroedd Awstralia i ddiwrnod oeraf Delhi ers dros ganrif – ein ffocws ar ynni adnewyddadwy ac ynni glân.
Fel Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI), rwyf i’n ymwybodol iawn ynghylch datgloi pŵer fy ngwyddoniaeth arbenigol i gyflenwi twf glân. Beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol yw cymhwyso catalysis i brosesau diwydiannol – neu drosi ymchwil yn atebion yn y byd real er budd pawb.
Mae catalydd yn cynyddu cyfradd adwaith cemegol. Mae catalysis yn galluogi adweithiau cemegol i fynd yn gyflymach, gyda gwell detholdeb ac ar gost ynni is gan arwain at brosesau glanach, mwy economaidd a chynaliadwy.
I’r rheini ohonom sy’n gweithio yn y maes, mae pwysigrwydd y wyddoniaeth yn amlwg. Ond mae angen o hyd i ni gyflwyno’r achos dros gatalysis i gynulleidfa ehangach o lawer.
Gofynnwch i luniwr polisi, cyllidwr, entrepreneur neu academydd anwyddonol am ein gwaith, ac efallai y bydd yn ei chael yn anodd ei ddiffinio neu ddeall.
Mae cyfle euraidd i gywiro hyn o’n blaenau. Yn 2021, bydd Cyfleuster Ymchwil Drosiannol (TRF) newydd werth £80m ym Mhrifysgol Caerdydd yn darparu’r offerynnau sydd eu hangen i ddatblygu prosesau catalytig gyda diwydiant a hyrwyddo defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn y 21ain ganrif.
Bydd manteisio ar fuddiannau’r TRF yn ein helpu i ehangu ein gwaith. Mae llwyddiannau eraill hyd yma’n cynnwys amnewid mercwri sy’n niweidiol i’r amgylchedd am gatalydd aur mewn prosesau diwydiannol; datblygu catalyddion i leihau gwastraff dŵr drwy drin ac ailgylchu ‘dŵr llwyd’ o gawodydd, sinciau a pheiriannau golchi, a thrawsnewid cynhyrchion gwastraff amaethyddol fel cibynnau a choesynnau ŷd yn gemegau a thanwydd defnyddiol.
Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn adeiladu ar y seiliau rhagorol hyn, gan ehangu ein gwyddoniaeth ac ymgysylltu ag ymchwilwyr amlddisgyblaethol gydag arbenigedd a chyfleoedd ategol.
Mae gennym enw da nodedig ym maes catalysis heterogenaidd. Ein strategaeth yw cynnal y sefyllfa hon, a thyfu a datblygu ein gallu mewn catalysis unffurf a biolegol i’r un lefel ryngwladol.
Ers 2014, mae’r Sefydliad wedi codi dros £20m mewn incwm ymchwil ar draws 93 o grantiau (yn cynnwys £3m yn uniongyrchol o ddiwydiant) ac wedi cyhoeddi dros 800 o bapurau mewn cyfnodolion rhyngwladol, yn cynnwys 16 yn Science neu Nature.
Rydym ni’n bwriadu cynyddu ein hincwm, allbynnau, effaith a dylanwad drwy ddatblygu tair blaenoriaeth eang. Yn gyntaf, drwy ehangu ein cydweithio rhyngddisgyblaethol – ehangu aelodaeth CCI i ymgysylltu a chyd-letya ymchwilwyr amlddisgyblaethol sy’n dod ag arbenigedd a chyfleoedd ategol.
Byddwn yn cysylltu gyda diwydiant, nid fel noddwyr ond fel partneriaid, i gyd-greu a chyflenwi buddiannau ein hymchwil. A byddwn yn parhau i gyflenwi effaith drwy’r craidd o wyddoniaeth ysgolheigaidd sydd wrth galon ein Sefydliad, drwy bwysleisio gwerth gwyddoniaeth gatalytig gymwysedig ac academaidd bur.
Ein prif nod yw cyfuno ymchwil drosiannol sy’n ymdrin â heriau cymdeithasol a diwydiannol critigol gydag ymdrechion gwyddonol sylfaenol o safon fyd-eang. Y strategaeth hon yw’r llwybr at gyflawni’r nod hwn a bydd yn sicrhau bod CCI yn parhau ar y blaen o ran ymchwil ym maes catalysis.
Roedd seithfed gynhadledd Sefydliad Catalysis Caerdydd y mis hwn yn cynnwys chwe siaradwr allanol – pedwar o’u plith yn fenywod – o sefydliadau academaidd a chwmnïau byd-eang.
Ehangu ein sail wyddonol, ymgysylltu â llunwyr polisïau a chyllidwyr, gweithio gyda diwydiant ac apelio at y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yw’r pileri y gallem adeiladu byd glanach, gwyrddach arnynt.
Yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr CCI
Cynlluniwyd y TRF gan HOK London Studio a chaiff ei adeiladu gan Bouygues UK