Dewch i gwrdd â’n harloeswyr – Sabrina Cohen-Hatton
10 Hydref 2018Rydw i wastad wedi bod â diddordeb yn yr hyn y gallwn ei wneud i gadw swyddogion tân yn fwy diogel.
Mae fy ngŵr yn y frigâd dân hefyd. Roedd digwyddiad pan gafodd rhywun ar ei injan dân ei losgi’n wael. Y daith i’r tân hwnnw oedd pedair munud a thri deg pedwar eiliad hiraf fy mywyd yn ôl pob tebyg.
Nid fy ngŵr oedd wedi’i anafu, ond cafodd rhywun arall newyddion drwg iawn. Y profiad hwn, ar lefel bersonol, wnaeth fy ysgogi i ymddiddori yn y ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â thân. Yn benodol, sut ydym yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg.
Datblygodd y prosiect drwy gydweithio â Chymdeithas y Prif Swyddogion Tân. Roedd hyn o ganlyniad i fy rôl ddeuol yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd a chyd-awdur y Canllawiau Gweithredol Cenedlaethol ar reoli digwyddiadau.
A minnau’n swyddog gweithredol sy’n ymgymryd â’r ymchwil hon, diogelwch swyddogion tân yw fy mhrif gymhelliant bob amser. Mae angen datblygu gwell dealltwriaeth o brosesau seicolegol a allai liniaru’r risg ymhellach wrth i ni ymateb i ddigwyddiadau.
Roedd y prosiect yn ymchwilio i weld a ellir addasu’r cydbwysedd rhwng mathau gwahanol o brosesau gwneud penderfyniadau gan Swyddogion Digwyddiadau profiadol drwy roi hyfforddiant ynghylch sut i ddefnyddio rhestr wirio feddyliol gyflym – y ‘Rheolaethau Penderfynu’.
Gofynnwyd i swyddogion tân fynd trwy wahanol sefyllfaoedd a digwyddiadau a gyflwynwyd mewn modd rhith-wirionedd. Roeddent yn ymateb yn gyflym o hyd ond roeddent yn defnyddio’r offer llywio i werthuso’r dewisiadau oedd ganddynt.
Roeddem am gyflwyno dull newydd a fyddai’n caniatáu inni gasglu tystiolaeth empirig. Felly, penderfynwyd gosod camerâu GoPro ar helmed y Comander Digwyddiadau; gan roi persbectif unigryw i ymchwilwyr ynghylch sut y gwnaed penderfyniadau mewn argyfyngau. Yn hytrach na dynwared rhywbeth sy’n digwydd yn y ‘byd go iawn’, roeddem yn mynd at y bobl yn y sefyllfa gan fod hyn yn bwysig iddynt.
Ychydig iawn o astudiaethau uniongyrchol oedd wedi’u cynnal ynghylch sut mae swyddogion tân yn perfformio mewn digwyddiadau. Felly, nid oedd neb yn gwybod mewn gwirionedd sut roeddynt yn datrys problemau ac yn gwneud penderfyniadau yn ystod y digwyddiad. Rhoddodd y dull hwn gyfle i swyddogion weld eto beth oeddent yn ei weld yn ystod y digwyddiad a rhoddodd ddata bwysig i ni i’w ddefnyddio ar gyfer y dyfodol.
Yn ôl yr astudiaeth, gwnaed penderfyniadau fel arfer yn reddfol, gyda swyddogion yn tynnu ar eu profiadau blaenorol o ddigwyddiadau tebyg.
Ar ôl deall bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn reddfol, bu i waith ychwanegol greu dulliau hyfforddi newydd, prosesau gwell a pholisi cenedlaethol.
Roedd hwn yn gam ymlaen inni yn y sector tân i gasglu ymchwil empirig go iawn a’i defnyddio’n sylfaen i’n polisïau.
Mae’r dull newydd yn helpu swyddogion i wella eu hymwybyddiaeth o sefyllfaoedd wrth wneud penderfyniadau yn ogystal â gwella nodau gweithredol swyddogion.
Mae’r ymchwil wedi’i chydnabod yn rhyngwladol ac mae wedi bod yn sbardun bwysig wrth ddatblygu polisïau, canllawiau gweithredol cenedlaethol a hyfforddiant.
Gwnaeth yr ymchwil drawsnewid Canllawiau Gweithredol Cenedlaethol ar gyfer Rheoli Digwyddiadau ac mae’n nodwedd yn athrawiaeth Rhaglen Gydweithredu’r Gwasanaethau Brys ar y Cyd.
Mae nifer o wasanaethau tân ac achub wedi mabwysiadu helmedau â chamerâu arnynt i ategu hyfforddiant a datblygu. Defnyddiwyd y dulliau arloesol hefyd yn ymarfer amlasiantaeth mwyaf erioed y DU — Yr Ymarfer Ymateb Cyfunol — oedd yn cynnwys model maint llawn o drên a ddaeth oddi ar y traciau a thwnnel yn cwympo yng Ngorsaf Waterloo.
Mae’n ymwneud â symud ymlaen i’r arfer gorau ac i feysydd ymchwil ac arloesedd. Mae’n gwneud perffaith synnwyr canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i’r cwestiynau sy’n cael yr effaith fwyaf?
Dan arweiniad Dr Sabrina Cohen-Hatton, Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân, a’r Athro Rob Honey, yr Ysgol Seicoleg, enillodd yr astudiaeth Wobr Arloesedd mewn Polisi a Gwobr Dewis y Bobl yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2017.