Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

‘Innovation (Arloesedd) . . .’

28 Tachwedd 2018

Mae hanes i bob gair, yn union fel lleoedd a phobl. Ystyriaf y gair Saesneg ‘innovation’. Byddwch yn dweud bod y gair bellach yn ystrydeb, yn air gwamal sy’n britho’r cyfryngau, term o lediaith rheoli neu air llithrig i iro rhyddiaith marchnata (fel ‘solutions’, sydd i’w weld ar ochrau pob Ford Transit sy’n perthyn i gwmni bach).

Hyd yn rhyfeddol ddiweddar, roedd naws negyddol ynghlwm wrth y gair (o leiaf i’r rheiny oedd yn diffinio geiriau ac yn dal yr awenau o ganlyniad) – gyda mwy na thinc o berygl. Byddai’n codi (o’r 1550au – gan ein bod yn trafod hanes) mewn ymadroddion fel ‘dangerous innovation’, ‘hurly burly innovation’, ‘superstitious innovation’, ac ‘a revolt of innovation’. Roedd yn awgrymu’r hyn a ystyrid yn anuniongred, neu’n hereticaidd hyd yn oed. Byddai’r gair yn gysylltiedig â ‘cynllwynion’ a ‘chwyldro’.

Yng nghyd-destunau llai drwgdybus, newydd-deb syml oedd ‘innovation’. Eto i gyd, llwyddodd y gair i ddal ei afael yng ngwefr semantig bositif oedd yn awgrymu rhywbeth agos i ‘weddnewid’ – sef newid sylweddol y tu hwnt i gwmpas y drefn arferol. Erbyn y 1930au ac wrth i dechnoleg ddiffinio marchnadoedd modern fwyfwy, daeth ystyr y gair i ymdebygu’r hyn mae’n ei olygu i ni bellach gan iddo gael ei ddefnyddio i ddiffinio chwyldro newydd mewn marchnad benodol neu ddyfais newydd mewn rhyw ddisgyblaeth.

Felly, beth mae’r gair yn ei gyfleu yn yr ymadrodd ‘Cardiff Innovation Campus’ (Campws Arloesedd Caerdydd)?

Fe hoffwn feddwl bod ganddo dinc o’i holl ystyron hanesyddol – yn benodol gan mai’r ystyr o newid sy’n dymchwel hen drefnau disymud sy’n diasbedain fwyaf uchel o bosibl. O fy rhan innau, gweithred y dychymyg yw ‘innovation’ gan fod pwrpas cymdeithasol creadigol yn hyrwyddo’r ystyr hwn yn ei ffurfiau mwyaf dylanwadol ac ystyrlon. Gan ofni na fydd pethau’n newid er gwell hebddo, mae ‘innovation’ yn datgloi pŵer ymchwil ryngddisgyblaethol gyda chydwybod gymdeithasol nad yw’n uchel ael ond yn rheibus, yn ddeinamig ac yn ddiorffwys.

Bydd Campws Arloesedd Caerdydd – y mae ei bresenoldeb dyfodol eisoes yn deimladwy – yn ymrithio mewn prosiect pwysig i’r brifddinas. Bydd pob un ohonom yn ei ddefnyddio ac yn berchen arno, sef adeilad Canolfan Arloesedd a’r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol. Bydd dors fil o bobl yn gweithio yn y ddau adeilad – staff, myfyrwyr a phartneriaid allanol – mewn grwpiau amrywiol gyda chysylltiadau pŵerus rhyngddynt.

Torri Tir Newydd: Y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Yn y rhuthr i gyllido buddsoddiad cyfalaf ar raddfa fawr, gall y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol fod yn ôl-ystyriaeth i brifysgolion a chyllidwyr fel ei gilydd. Nid felly y mae pethau ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn dilyn trywydd arall. Yn adeilad y Ganolfan Arloesedd, bydd ymchwilwyr, myfyrwyr a mentrau’r gwyddorau cymdeithasol – a chydweithwyr o bob rhan o’r brifysgol sy’n chwilio am gysylltiadau rhyngddisgyblaethol – yn cael lle i fwyhau ein potensial y tu hwnt i gyfanswm ein cyd-rannau. Ar safle Heol Maendy, rydym eisoes wedi torri tir newydd.

Mae’r cysyniad o Ganolfan Arloesedd yn cynrychioli tir newydd yn ei hun. Hafan i fusnes a’r gymdeithas ehangach fydd y Ganolfan Arloesedd. Dyma ffordd o feithrin diwylliant ymchwil sy’n cydweithio’n agosach ac sy’n hyrwyddo rhyngweithio ar draws disgyblaethau ochr yn ochr â phartneriaid allanol. Bydd yn adeilad amlswyddogaethol sy’n cyfuno swyddfeydd, labordai, gweithdai a chyfleusterau arddangos gyda desgiau dros dro hyblyg a mannau cymdeithasu a chreu. Bydd yn gartref i SPARK, Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd a ffurfir ar sail ein grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol blaengar ar lefel fyd-eang. Bydd rhanddeiliaid allanol sy’n arloesi yn y modd hwn yn denantiaid creadigol, gan gynnig rhaglenni, syniadau ac asedau yn y Ganolfan Arloesedd. Bydd hyn yn ei dro yn hybu gwerth economaidd a chymdeithasol.

Yn y ddau fan cydgysylltiedig hyn, bydd ein staff a’n myfyrwyr yn gweithio gyda phartneriaid cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol pwysig. Byddwn yn trosi ein hymchwil o safon fyd-eang yn atebion go iawn ac yn gweddnewid polisïau’r llywodraeth. Rydym yn rhannu’r ysfa am wireddu gweledigaeth greadigol gyda’n cydweithwyr a’n cyllidwyr allweddol. Bydd Caerdydd yn ‘labordy byw’ lle gellir arloesi ymarfer y maes a llunio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd modd rhagbrofi’r datblygiadau a’u gwerthuso hefyd. Wrth wraidd y gwaith hwn, bydd creadigrwydd a chydweithio’n ffynnu gyda’i gilydd. Nid geiriau gwamal yw’r rhain. Nid yw eu hystyr yn diffygio yma.

Bydd SPARK yn hafan i ymchwilwyr o bob un o’n tri Choleg, a bydd ei gadernid yn seiliedig ar adborth gan fusnesau, elusennau, llywodraethau a chyllidwyr. Dyma graidd y mater. Ni fydd y Ganolfan Arloesedd yn gaer anhygyrch ar gyfer llond dwrn o wyddonwyr cymdeithasol breintiedig. Bydd amgylchedd ar gyfer trafodaeth agored rhwng y gwyddorau cymdeithasol a thu hwnt iddynt yn y Ganolfan Arloesedd. Bydd yn meithrin, yn cefnogi ac yn annog meddylfryd awenog a rhyngweithio ymysg cymuned amrywiol o academyddion, myfyrwyr, partneriaid busnes, llunwyr polisi ac eiriolwyr cymdeithasol. Yn yr ystyr hon, bydd yn ategu’r Medicentre, sef crud ar gyfer darpar fusnesau sy’n ymwneud â bioleg a thechnoleg feddygol ar Gampws Parc y Mynydd Bychan. Dyma arloesedd clinigol go iawn. Bydd mannau’r Ganolfan Arloesedd a rennir yn rhoi lle i wahanol arbenigeddau finiogi ei gilydd. Haearn a hoga haearn, felly. Am le i groesawu’r Awenau.

 Clwstwr Creadigol

Creadigrwydd sydd wrth wraidd hyn i gyd. Gellir galw’r Ganolfan Arloesedd yn glwstwr creadigol. Ond, mae’r ymadrodd hwnnw wedi’i hawlio’n barod. Mae cynlluniau am un o’r prosiectau arloesedd creadigol mwyaf yng Nghymru wedi’u cyhoeddi gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Bydd yn buddsoddi £80miliwn mewn ymchwil greadigol newydd a phartneriaethau datblygu drwy ei Raglen Clystyrau o Ddiwydiannau Creadigol. Dyma fenter sy’n dod â diwydiannau a chelfyddydau creadigol y DU ac ymchwil i’r dyniaethau ynghyd. Mae tîm a arweinir gan gydweithwyr o Gaerdydd Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill un o wobrau AHRC uchel eu parch. Clwstwr Creadigol yw enw’r prosiect.

Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ynghyd â Llywodraeth Cymru, y prif ddarlledwyr yng Nghymru, a thros 60 o fusnesau’r diwydiant, mae Clwstwr Creadigol yn un o naw prosiect yn y DU sydd wedi’u dewis ar gyfer y ffrwd ariannu 5 mlynedd.

Mae ymchwil mapio Caerdydd Creadigol wedi pennu’r diwydiannau sgrîn (ffilm, teledu, gemau fideo, animeiddio ac ôl-gynhyrchu) fel y rhai sydd wrth wraidd twf creadigol Rhanbarth Caerdydd. Mae llwyddiant y diwydiant – er gwaetha’r ffaith bod dirfawr angen ei gydgysylltu’n fwy ystyrlon – wedi sbarduno ecosystem greadigol ac uchelgeisiol yn ne Cymru. Chwant am arloesedd a datblygiadau sy’n tanio’r gweithgarwch hwn. Mae hyn yn greiddiol i economi Rhanbarth y Ddinas.

Bydd gwaith y Clwstwr Creadigol yn adeiladu ar y gwaith hwn er mwyn gwella economi creadigol Cymru. Bydd hyn yn ei wneud yn haws i’r sector amrywiol a dylanwadol hwn gael y cyllid a’r arbenigedd sydd eu hangen i feithrin partneriaethau agosach, diffinio camau ymarferol a chreadigol i farchnata technolegau newydd a manteisio arnynt. Bydd y pwyslais ar dorri llyffetheiriau ymchwil a datblygu, gan drosi’r gwaith hwn yn gynhyrchion ac yn brofiadau.

Arloesedd dan sylw eto

Mae Caerdydd wedi bod yn trosi syniadau’n gynhyrchion, yn wasanaethau ac yn brosesau ers dros ganrif. Rydym ni i gyd yn gwneud hyn bob dydd yn y gweithle, er nad ymddengys ein gwaith beunyddiol yn ‘arloesol’ neu’n ‘gynhyrchion’ bob amser. O fy rhan innau, mae ystyr bositif i’r gair. Yn etymolegol ac yn ôl ei ddefnydd athronyddol gwreiddiol mae’n golygu’r hyn y mae natur yn esgor arno, yr hyn sydd y tu hwnt i’r cyffredin a’r hyn sy’n dilyn lluosi cydweithredol (megis mathemateg). I ni, nid yw arloesedd yn newydd, er bod ‘newydd-dod’ wrth galon ei ystyr. Yn y dyfodol fodd bynnag, byddwn yn arloesi’n well. Byddwn yn pontio rhwng disgyblaethau mewn mannau sy’n chwalu llyffetheiriau ein gallu i feddwl yn ddargyfeiriol ac yn anghonfensiynol. Fel hyn, mae ein harloesedd yn cynrychioli gweddnewid, yr hyn nas wybyddir a herio’r status quo.

Yr Athro Damian Walford Davies

Rhag Is-ganghellor, y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol