Ymateb yr Ysgol Meddygaeth i Ddeallusrwydd Artiffisial
28 Chwefror 2025
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Dr Thanasi Hassoulas, Matthew Hayden a Dr Matthew Mort, cyd-gadeiryddion Grŵp Medic Deallusrwydd Artiffisial (DA).
Bellach, mae pob un ohonon ni wedi clywed am ChatGPT. Er nad yw DA Cynhyrchiol yn gysyniad newydd (mae’n dyddio’n ôl i blatfform ELIZA yn y 1960au), mae mynediad diweddar y cyhoedd i offer DA Cynhyrchiol wedi bod yn drobwynt mewn sawl ffordd. Mae gan y dechnoleg hon sy’n datblygu’n gyflym y potensial i chwyldroi go iawn y ffordd rydyn ni’n gweithio, yn astudio a hyd yn oed yn rhyngweithio â’n gilydd. Oherwydd y dechnoleg, mae’r defnydd lliaws, yn ogystal a’r goblygiadau, yn ymddangos braidd yn ddiderfyn ar hyn o bryd. Yn yr Ysgol Meddygaeth, rydyn ni wedi cynnull Grŵp DA Medic, sy’n gysylltiedig â Grŵp DA Addysg yn y Brifysgol yn ganolog dan arweiniad yr Athro Kate Gilliver a Matthew Townsend. Mae Grŵp DA Medic wedi bod yn edrych ar ddwy ymyrraeth allweddol sy’n gysylltiedig â DA Cynhyrchiol: Effaith DA ar Addysgu, a DA yn y Gweithle.

Mewn perthynas â DA Addysgu, mae Dr Thanasi Hassoulas wedi bod yn arwain ar y llinyn hwn yn ei Uned HIVE. Ynghlwm wrth hyn, cyfunwyd DA yn rhan o addysgu ar lythrennedd gwybodaeth, gyda chymorth ein llyfrgellydd pynciol Delyth Morris, yn ogystal â chyflwyno darlithoedd wedi’u hamserlennu ar draws pob un o bum mlynedd rhaglen meddygaeth israddedig MBBCh ar sut i ddefnyddio DA Cynhyrchiol yn gyfrifol. Cyflwynwyd y sesiynau hyn hefyd ledled y rhaglenni ôl-raddedig a addysgir. Crëwyd e-ganllawiau ar gyfer myfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae cyfuno DA yng nghwricwlwm meddygaeth israddedig hefyd wedi dechrau, ac mae myfyrwyr yn cael eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio llwyfannau DA Cynhyrchiol fel Microsoft Copilot ac Elicit. Mae’r grŵp wedi cychwyn prosiect ar y cyd mewn sawl ysgol a fydd yn buddsoddi mewn platfform i roi’r cyfle i fyfyrwyr meddygol, nyrsio, deintyddol a myfyrwyr gofal iechyd eraill ymarfer sgiliau cyfathrebu gyda chleifion rhithwir efelychiadol sy’n seiliedig ar DA Cynhyrchiol a rhithffurfiau eraill. Ysgogwyr allweddol y grŵp yw:
- gwella profiad dysgu myfyrwyr
- hyfforddi myfyrwyr ar sut i ddefnyddio DA yn gyfrifol ac yn foesegol
- paratoi ein myfyrwyr yn ddigonol ar gyfer y gweithlu sydd bellach hefyd yn gwneud mwy o ddefnydd o’r datblygiadau technolegol hyn, yn enwedig ym meysydd allweddol byd ymarfer clinigol ac ymchwil.
Mae Dr Matthew Mort a Matthew Hayden wedi bod yn arwain ar DA yn y Gweithle, ac yn benodol y defnydd sefydliadol ohono. Maen nhw wedi helpu llu o dimau i ddefnyddio offer a meddalwedd DA i wella effeithlonrwydd, dadansoddi setiau data mawr gan ddefnyddio system gaeedig DA fewnol a diogel yn ogystal â chefnogi academyddion a staff y gwasanaethau proffesiynol i weithio’n fwy cynhyrchiol drwy ddefnyddio datblygiadau technolegol yn fwy. Maen nhw’n cynnal gweithdy poblogaidd iawn ar Gynhyrchiant Digidol a DA yn y Gweithle sydd ar gael i holl staff Prifysgol Caerdydd (gweler uwchddolen y gweithdai ar y gweill). Maen nhw hefyd wedi gweithio gyda Thanasi ar gyflwyno sesiynau briffio agored i’r staff i gefnogi cydweithwyr ar sut i ddefnyddio gwahanol offer a phlatfformau DA Cynhyrchiol. Mae’r Matts (fel y bydd Medic yn cyfeirio atyn nhw yn hoffus) yn annog yr holl staff i arbrofi gyda DA yn gyffredinol ac i rannu eu profiadau. Bydd yr archwilio cyfunol hwn a rhannu arferion yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r offer sydd ar gael ar hyn o bryd a sut y gallwn ni ddefnyddio’r rhain orau i wella ein harferion(au) ein hunain.
Rhowch dro arni
I ddechrau, dysgu trwy wneud. Allwch chi feistroli DA drwy ddarllen eich ffrwd twitter/X mewn un eisteddiad gwyllt? Mae’n debyg i droi’n gogydd drwy wylio sioeau coginio! Yr unig ffordd i wir afael yng nghryfderau DA (a phan aiff yn wael o chwith) yw torchi llewys a plymio i’r dyfnderau. Gan ddefnyddio Microsoft Copilot rhowch gynnig ar yr anogwr syml hwn … i esbonio pwnc cymhleth ar y sail eich bod yn 5 oed.
Anogwr enghreifftiol (ELI5): “Esboniwch ymgordeddu cwantwm ar y sail fy mod yn 5 oed (ELI5)”
Sut aeth hi? Fydd gofyn cwestiynau yn well yn arwain at well atebion? Byddwch yn chwilfrydig ac arbrofwch!
Cysylltu
I ddysgu rhagor am yr hyn y mae’r grŵp yn ei wneud, neu i rannu eich profiadau a’ch syniadau eich hun, cysylltwch â Thanasi (HassoulasA2@caerdydd.ac.uk), Matt M (MortM@caerdydd.ac.uk), neu Matt H (HaydenMJ1@caerdydd.ac.uk) neu cofrestrwch ar gyfer y cyrsiau i’r staff Cynhyrchiant Digidol a DA yn y Gweithle.
Mae’r Academi Dysgu ac Addysgu yn cynnig gwasanaeth Addysg Ddigidol, ac mae gennym raglen o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer staff. Cymrwch olwg ar y cyrsiau neu cysylltwch a ni ar ltacademy@caerdydd.ac.uk..