Tudalen wag i greu prawf cwestiynau amlddewis: Man cychwyn ar Dysgu Canolog sy’n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial
7 Hydref 2025
Michael Hackman, Dylunydd Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu, yw awdur y blog hwn.
Amdanaf fi
Helo. Rwy’n aelod o’r Tîm Addysg Ddigidol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Efallai eich bod chi wedi cwrdd â fi mewn gweithdai ar lunio modiwlau neu ymgysylltu â myfyrwyr. Os nad ydyn ni wedi cwrdd eto, mae croeso i chi gysylltu i gael cefnogaeth gydag unrhyw ran o’r gwaith o lunio neu gyflwyno addysg.
Y Dasg
Yn rhan o fy rôl, rwy’n aml yn helpu staff i greu profion gyda chwestiynau amlddewis i brofi gwybodaeth myfyrwyr yn ffurfiannol ac yn grynodol. Gall ysgrifennu cwestiynau amlddewis sy’n mesur dealltwriaeth myfyrwyr yn effeithiol fod yn anodd a chymryd cryn dipyn o amser, felly roeddwn i’n falch iawn pan gafodd profion amlddewis sydd wedi’u cynhyrchu gan ddeallusrwydd eu galluogi yn Learning Central. Yn dilyn cyfres flogiau’r Tîm Addysg Ddigidol ar roi deallusrwydd artiffisial ar brawf, defnyddiais yr adnodd newydd i gynhyrchu prawf cwestiynau amlddewis i fy myfyrwyr.
Creu’r prawf cwestiynau amlddewis
Roedd y broses yn syml: Fe wnes i greu prawf newydd, dewisais “Cynhyrchu cwestiwn yn awtomatig”, yna chyflwyno’r deilliannau dysgu fel disgrifiad a dewis yr adnoddau y gallai’r offeryn eu defnyddio i gynhyrchu’r cynnwys. Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi gorffen fy nghoffi, ac roeddwn i wedi creu prawf cwestiynau amlddewis gyda deg cwestiwn!
Dadansoddi
Y peth gorau oedd pa mor effeithiol oedd mynd o dudalen wag i gael prawf sy’n seiliedig ar gynnwys a deilliannau dysgu fy ngwers bresennol. Er bod angen golygu’r cwestiynau rhywfaint, roedd y dasg yn teimlo’n llawer haws ac yn gynt na gorfod dechrau o’r dechrau.
Doedd y cwestiynau a gynhyrchwyd ddim yn hollol berffaith, ac roedd angen bod dynol o hyd i gael golwg ar y prawf i sicrhau bod y ei fod yn ddiddorol ac yn mesur dealltwriaeth myfyrwyr yn effeithiol. Er enghraifft, mae Cwestiwn 5 (sgrinlun isod) yn profi sut mae cymhwyso damcaniaeth ddysgu cysylltiol i gymwysiadau e-ddysgu, sy’n un o ddeilliannau dysgu’r wers. Roedd yr ateb cywir yn iawn yn ddamcaniaethol, ond doedd e ddim yn sôn am gymwysiadau e-ddysgu, a fyddai’n gallu drysu myfyrwyr ac achosi iddyn nhw golli marciau. Mae tystiolaeth bod profiadau o’r fath yn lleihau diddordeb myfyrwyr yn y cwrs ac yn effeithio ar eu mwynhad.
Diolch byth, mae’n rhwydd defnyddio’r golygydd, ac ni chymerodd lawer o amser i olygu’r ateb, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad cadarnhaol gyda’r cwestiwn.
Mae’r cwestiwn yn cyd-fynd â’r wybodaeth roeddwn i eisiau ei phrofi, ond dydy’r ateb ddim yn cyfeirio at gymwysiadau e-ddysgu.
Mae rôl bod dynol yn dal i fod yn allweddol
At ei gilydd, mae’r offeryn deallusrwydd artiffisial yn ffordd ardderchog o leihau’r amser a’r ymdrech sydd eu hangen i greu prawf o gwestiynau amlddewis. Fel gyda phob offeryn deallusrwydd artiffisial, mae angen i ni sicrhau ein bod yn prawfddarllen yr allbwn cyn ei agor i fyfyrwyr.
Byddaf yn bendant yn defnyddio’r offeryn deallusrwydd artiffisial i fy helpu i greu profion o gwestiynau amlddewis ffurfiannol yn y dyfodol. Ond bydd angen rhywfaint o waith ar fy sgiliau mewnbynnu deallusrwydd artiffisial cyn y byddwn i’n hyderus i’w defnyddio i greu prawf crynodol.
Rhowch gynnig arni
Ceisiwch greu profion o gwestiynau amlddewis ffurfiannol gan ddefnyddio’r offeryn deallusrwydd artiffisial.
Os oes gennych chi driciau neu awgrymiadau defnyddiol o ran defnyddio Dysgu Canolog, cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu: ltacademy@caerdydd.ac.uk