Pontio Diwylliannau a Chreu Cyrsiau: Profiad Cydweithredol â Phrifysgol Jilin
9 Chwefror 2026
Ysgrifennwyd gan Nan Zhang, Arbenigwr Addysg Ddigidol yn y Tîm Addysg Ddigidol.
Roedd yn anrhydedd mawr i’r Academi Dysgu ac Addysgu fod yn rhan o gydweithrediad rhyngwladol dros y pythefnos diwethaf. Mae’r fenter hon yn cynrychioli cysylltiad addysg drawswladol (TNE) pwysig gyda chefnogaeth Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd (BLE), y Rhag Is-ganghellor Steve Riley, a’r Swyddfa Ryngwladol. Mae aelodau o’r Tîm Addysg Ddigidol – Owen, Jordan, Andrew, Lewis a finnau – wedi bod yn gweithio dros bedwar prynhawn i rannu arferion datblygu cyrsiau Prifysgol Caerdydd a hwyluso cyd-greu cwrs DPP newydd sbon mewn cydweithrediad â’r Ysgol Meddygaeth a chynrychiolwyr nodedig o Drydydd Ysbyty Bethune Prifysgol Jilin, Talaith Jilin, Tsieina.
Mae’r cydweithrediad hwn yn dangos ein gallu i ddatblygu cyrsiau ar y cyd yn effeithiol a gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol yn y dyfodol. Gallai’r cyrsiau hyn gael eu masnachfreinio i addysgwyr ym Mhrifysgol Jilin a sefydliadau partner eraill, gan helpu i sefydlu enw da Prifysgol Caerdydd am ddatblygu cyrsiau o safon mewn modd ymatebol a chydweithredol ym maes addysg feddygol.
Beth wnaethon ni
Cyflwynon ni bedwar gweithdy dros bedwar prynhawn, gan weithio’n ddwys ag wyth cynrychiolwr gwadd, cydweithwyr clinigol o Brifysgol Caerdydd a chyfieithwyr i gefnogi’r sesiynau.
Cyflwynon ni fethodoleg ABC ar gyfer dylunio cwricwlwm – dull rydyn ni’n ei ddefnyddio i fapio cyrsiau sy’n dangos ffordd weledol, ar y cyd o gynllunio gweithgareddau dysgu.
Roedd y cynrychiolwyr wedi defnyddio cardiau ABC i fapio cwrs DPP sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y gweithgaredd ymarferol. Gwnaethon nhw nodi eu pwnc: Ymyriadau dan arweiniad uwchsain – maes a gydnabyddir ganddyn nhw lle mae arbenigedd ac angen clir yng nghyd-destun eu hysbytai.
Dros y sesiynau dilynol, tynnon ni sylw at adnoddau fideo o ansawdd uchel gan gynnwys fideos 360 gradd a dysgu ymdrwythol gan ddefnyddio delweddau 360 gradd. Fe roddwyd cyfarwyddyd iddyn nhw ar ddatblygu amcanion dysgu ar gyfer biopsïau, lle’r oedd fy sgiliau iaith Tsieinëeg yn annisgwyl o werthfawr o ran cadw grwpiau ar y trywydd iawn pan oedd y trafodaethau’n newid i’r Tsieinëeg yn naturiol wrth drafod pynciau meddygol manwl.
Cyflwynon ni dechnegau creu byrddau stori a thrin a thrafod y fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL), a sbardunodd drafodaethau diddorol. Er bod UDL yn cael ei drafod yn eang yn y DU, nid yw hynny’n digwydd mor aml yn Tsieina, lle mae trafodaethau’n canolbwyntio’n fwy ar bolisi addysgu arbennig.
Erbyn y diwedd, gorffennon ni’r byrddau stori a dylunio strwythur cwrs amlinellol ar Dysgu Canolog a XERTE. Roedd y cynrychiolwyr wedi gwirioni â pha mor gyflym y llwyddon ni i weithio ar y cyd i ddylunio cwrs.
Heriau a wynebwyd
Roedd gweithio ar draws diwylliannau a disgyblaethau yn cynnwys heriau hynod ddiddorol. Nid oedd rhai o’r cynrychiolwyr yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn addysgu, felly roedd rhaid i ni esbonio cysyniadau addysgegol ochr yn ochr â chreu cynnwys. Roedd y cynrychiolwyr yn llawn chwilfrydedd i ddysgu am ein rôl, gan egluro bod adrannau cymorth technegol yn bodoli yn Tsieina, ond nad oes tîm cyfatebol mewn gwirionedd sy’n integreiddio theori addysgol, dylunio cwricwlwm, a thechnoleg mewn modd holistaidd.
Myfyrio ac edrych ymlaen

Mae’r cydweithrediad wedi dangos ein bod yn gallu datblygu cyrsiau ar y cyd yn effeithiol o dan gyfyngiadau amser. Rydyn ni wedi nodi cyfleoedd go iawn i rannu gwybodaeth, gan bod y ffaith nad oes timau cynllunio dysgu pwrpasol yn bodoli mewn nifer o sefydliadau yn Tsieina, yn creu’r potensial i ddatblygu cyrsiau ar y cyd.
Mae’r prosiect cychwynnol wedi gosod sylfeini cryf – nid yn unig y cwrs biopsi a ddatblygwyd gennyn ni, ond model o gydweithrediad rhyngwladol sy’n gwerthfawrogi arbenigedd clinigol a dylunio addysgol.
Os ydych chi’n cynnig gweithgaredd DPP a allai elwa o gymorth gan aelod o’r tîm addysg ddigidol neu dîm ehangach yr Academi Dysgu ac Addysgu, cofiwch gysylltu â’r Academi. I drafod darparu gweithgaredd DPP yn gyffredinol, cysylltwch â: train@caerdydd.ac.uk.