Skip to main content

Addysg Ddigidol

Peidiwch ag anghofio’r print mân: Awgrymiadau ar ddefnyddio ffontiau a meintiau testun sy’n hygyrch

20 Hydref 2025

Mae paratoi eich modiwlau a’ch deunyddiau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn gyfle gwych i adolygu adnoddau’n gyflym er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bob un o’n myfyrwyr. Gall gwneud newidiadau bach yn y ffontiau a meintiau’r testun rydyn ni’n eu defnyddio gael effaith fawr ar brofiadau myfyrwyr, yn enwedig y rheiny sydd ag amhariad ar eu golwg, dyslecsia neu wahaniaethau dysgu eraill. Dyma rai awgrymiadau i wella darllenadwyedd a hygyrchedd eich adnoddau dysgu.

1. Dewiswch ffontiau hygyrch

Er mwyn gwneud y cynnwys yn haws i’w ddarllen ac yn fwy hygyrch i ddyfeisiau a thechnolegau cynorthwyol gwahanol, defnyddiwch ffontiau sans-serif clir megis Arial, Calibri, neu Veranda [1]. Wrth greu dogfennau yn Word, defnyddiwch swyddogaeth Arddulliau i strwythuro eich cynnwys gan ddefnyddio Penawdau. Bydd hyn yn cefnogi’r sawl sy’n defnyddio darllenydd sgrin, ond ar ben hynny bydd defnyddio Penawdau yn creu rhestr o gynnwys a all helpu pob myfyriwr i ddarllen drwy ddogfennau hir [2]. Cyrchwch hyn drwy dab Gweld ac yna dewiswch Tudalen Lywio.

2. Defnyddiwch faint priodol i’r testun

Yn achos dogfennau, argymhellir maint corff 12pt o leiaf, a meintiau mwy i benawdau (Gweler Arddulliau uchod). Wrth ddylunio sleidiau darlithoedd, ceisiwch ddefnyddio o leiaf 24pt ar gyfer testun y corff a 32pt neu fwy ar gyfer teitlau [1]. Cadwch y sleidiau’n daclus a gofalwch fod cyferbynnu uchel rhwng y testun a’r cefndir er mwyn gweld y geiriau’n well.

3. Fformatio testun yn Dysgu Canolog

Mae gan y Golygydd Cynnwys yn Dysgu Canolog osodiad diofyn, sef maint 14pt a’r ffont sans-serif Open Sans. Er mwyn cadw’r cynnwys yn gyson ac yn hygyrch, ceisiwch ddefnyddio’r gosodiadau hyn a defnyddiwch arddulliau pennawd testun i roi strwythur a threfn i’r darn. Os byddwch chi’n uwchlwytho ffeiliau, gofalwch eu bod yn dilyn yr un canllawiau hygyrchedd a grybwyllir uchod.

Drwy ymgorffori’r camau syml hyn wrth ddylunio eich cwrs, byddwch chi’n helpu i greu cyd-destun dysgu mwy cynhwysol i bob myfyriwr. Newidiadau bach sy’n cael effaith fawr ar hygyrchedd digidol!

Cymorth sydd ar gael

I gael rhagor o awgrymiadau ar ffontiau a fformatio hygyrch, ewch iganllaw arddull Cymdeithas Dyslecsia Prydain. Cewch hefyd ddysgu sut i adnabod ac osgoi’r rhwystrau rhag hygyrchedd yn y gweithdy ar Hygyrchedd ac Addysg Ddigidol gan Academi Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol.

Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch chi, neu os hoffech chi gael blogiau newydd, e-bostiwch LTAcademy@caerdydd.ac.uk.

Cyfeirnodau

[1] National Disability Rights Network (NDRN) (dim dyddiad) Accessibility guidelines. Washington D.C. National Disability Rights Network. Ar gael yn: https://www.ndrn.org/accessibility-guidelines/ (Cyrchwyd: 4 Mehefin 2025).

[2] Microsoft (dim dyddiad) Add a heading in a Word document. Ar gael yn: https://support.microsoft.com/en-us/office/add-a-heading-in-a-word-document-3eb8b917-56dc-4a17-891a-a026b2c790f2 (Cyrchwyd: 4 Mehefin 2025).